Gwaith yn gorffen i amddiffyn Gwersyll Gorymdeithio Rhufeinig sy'n 'adrodd hanes Cymru’n cael ei goresgyn gan y Rhufeiniaid'

Llun o'r awyr o'r gwersyll gyda'r ffin wedi'i hamlygu i ddangos yr amlinelliad. Mae gwahanol gysgod o amlygu yn dangos yr ardaloedd a ddiogelir, a'r rhai na ellir eu diogelu

Mae’r gwaith i ddiogelu olion Gwersyll Gorymdeithio Rhufeinig ger Ystradfellte wedi'i gwblhau gan gontractwyr sy'n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Credir bod y gwersyll hwn wedi cael ei ddefnyddio gan y Rhufeiniaid adeg goresgyn Cymru yn y ganrif gyntaf OC ac mae’n heneb gofrestredig.

  • Mae'r ardal felen yn y llun yn dynodi'r safle a'r ffiniau y gweithiwyd arnynt i ddiogelu'r heneb gofrestredig.
  • Mae'r ardal las yn y llun yn dynodi ardaloedd o'r Gwersyll Gorymdeithio Rhufeinig sydd wedi'u difrodi'n ormodol i'w gweithio arnynt.

Mae olion y cloddiau terfyn pridd a ffos y gwersyll wedi’u cadw gan CNC fel rhan o’u dyletswydd i warchod nodweddion hanesyddol pwysig o dan Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU.

Roedd y gwaith diweddar i ddiogelu’r gweddillion yn cynnwys cael gwared o dyfiant coed gan ddefnyddio ffust wedi'i osod ar beiriant cloddio. Roedd y peiriant cloddio ei hun yn symud drwy ddefnyddio traciau arnofiol llydan iawn er mwyn lleihau’r pwysau ar y ddaear. Roedd y traciau hyn yn lleihau effaith y gwaith ar y safle gwarchodedig, ond hefyd yn caniatáu i'r peiriant cloddio trwm weithio ar y tir gwlyb.

Meddai Paul Dann, Arweinydd Tîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae rheoli coetir yn gynaliadwy yn golygu llawer mwy na'r hyn y mae pobl yn ei feddwl fel arfer. Mae angen inni ofalu ein bod yn cynhyrchu pren o safon ac yn gwarchod bioamrywiaeth, ond mae angen inni hefyd warchod y nodweddion diwylliannol a hanesyddol sydd ar y tir yr ydym yn ei reoli.
“Mae hyn yn golygu trin rhai darnau o dir yn wahanol. Gallai hyn gynnwys peidio â phlannu ar y tir neu gael gwared ar dyfiant a fydd yn niweidio'r nodwedd hanesyddol. Rydym yn gweithio'n agos â Cadw i wneud yn siŵr ein bod yn mynd ati i warchod pob heneb yn y ffordd gywir.
“Mae llawer o henebion wedi treulio dros y canrifoedd, ac efallai nad ydyn nhw’n amlwg i bobl sy’n pasio heibio, ond maen nhw’n ddarnau pwysig o’n hanes ni fel gwlad ac mae angen eu cadw lle bynnag y bo modd.”

Meddai Amelia Pannett, Warden Henebion Maes, Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn gweithio’n agos â swyddogion CNC ledled Cymru i wneud yn siŵr bod yr henebion cofrestredig sydd ar y tir y maent yn ei reoli yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Yn yr achos hwn, buom yn gweithio gyda CNC i lunio cynllun rheoli y cytunwyd arno ar gyfer heneb gofrestredig y gwersyll gorymdeithio, a gwnaethom eu cynghori ar sut i wneud y gwaith heb niweidio’r gwerth hanesyddol ar y safle.
“Mae’r gwersyll hwn yn helpu i adrodd stori’r Rhufeiniaid yn goresgyn Cymru. Wrth orymdeithio ar draws y wlad, adeiladodd y Rhufeiniaid y gwersylloedd hyn fel strwythurau dros dro i’w hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiad, ac fel canolfan ar gyfer eu gweithgareddau, a hynny am ddim mwy na chwpl o wythnosau.
“Mae’n anhygoel ei bod yn bosibl inni werthfawrogi rhannau o strwythur dros dro tua 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.”