Diwrnod Gylfinir y Byd: Gobaith i aderyn eiconig yng Ngwarchodfa Fenn's, Whixall a Bettisfield Mosses

Gyda Diwrnod y Gylfinir yn prysur agosáu ar 21 Ebrill, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tynnu sylw at y cynnydd calonogol sy’n cael ei wneud i ddiogelu’r aderyn hoffus hwn, ond sydd dan fygythiad mawr, yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Fenn’s, Whixall a Bettisfield Mosses, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae’r gylfinir mewn argyfwng ar draws Cymru, gyda gostyngiad dramatig yn y niferoedd sy’n bridio ac ofnir y gallent ddiflannu fel rhywogaeth fridio erbyn 2033. Ond diolch i waith cadwraeth wedi'i dargedu, mae arwyddion newydd o obaith yn dod i'r amlwg ar y safle mawndir trawsffiniol hwn.
Yn 2024, cafodd pedwar nyth eu canfod gan ddefnyddio dronau thermol - cynnydd sylweddol o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roedd tri o'r rhain o fewn lleiniau a oedd eisoes wedi cael eu hamgáu gan ffensys trydan, tra bod un wedi elwa ar ffensys ychwanegol a oedd wedi cael eu gosod yn gyflym.
Cadarnhawyd y bridio llwyddiannus wrth i staff, gwirfoddolwyr a chamerâu ar y llwybrau weld cywion y gylfinirod, a chafodd adar ifanc eu ffilmio mewn sawl lleoliad. Arsyllwyd ymddygiad gwarchod cywion yr adar ym mis Awst - yn llawer hwyrach nag a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol sy'n awgrymu bod cywion yn dal yn bresennol ac yn debygol o fod wedi gadael y nyth.
Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Natural England ar y safle trawsffiniol hwn ac wedi cefnogi’r gwaith hwn trwy ariannu ffensys trydan, arolygon dronau a chamerâu ar y llwybrau.
Mae cyllid Rhwydweithiau Natur a ddarparwyd i CNC gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i brynu offer sydd wedi bod o fudd i’r gylfinir. Mae gwybodaeth tîm gwarchodfa Fenn’s, Whixall and Bettisfield Mosses, ynghyd ag ymroddiad eu gwirfoddolwyr, wedi caniatáu i'r dechnoleg hon gael ei defnyddio'n effeithiol ar y safle, gan ddod â manteision i'r gylfinir ac adar hirgoes eraill.
Wrth edrych ymlaen, bydd staff GNG yn parhau â’r rhaglen o arolygon dronau a monitro nythod, gan gynnwys hedfan dronau thermol a’r defnydd o ddyfeisiau cofnodi sain a chamerâu llwybrau i gasglu data hanfodol. Mae disgwyl i ddau aderyn llawn dwf hefyd gael eu tagio â GPS y tymor hwn er mwyn helpu i gael gwell dealltwriaeth o’u symudiadau a’u hanghenion.
Bydd tîm y warchodfa’n cymryd rhan yn fuan mewn prosiect newydd, a arweinir gan dirfeddiannwr lleol a’i gefnogi gan wirfoddolwyr, i gryfhau cysylltiadau â’r tirfeddianwyr cyfagos y mae’r gylfinir yn defnyddio eu caeau ar gyfer bwydo a chlwydo.
Er bod niferoedd mawr o wirfoddolwyr yn y warchodfa, mae’r staff bob amser yn barod i groesawu cymorth newydd wrth iddynt geisio cynyddu rheolaeth fuddiol y tu hwnt i ffiniau’r GNG er mwyn amddiffyn yr adar bregus hyn yn well. Mae'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i roi gwybod os byddant yn gweld yr adar er mwyn helpu ymdrechion cadwraeth.
Meddai Bethan Beech, Cynghorydd Arbenigol, Adfer Rhywogaethau Daearol yn CNC:
“Mae’r gylfinir yn un o’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr ac eto mae dan fygythiad. Mae'r gwaith a wneir yn Fenn's, Whixall a Bettisfield Mosses yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn cyfuno gwyddoniaeth, gwybodaeth leol a gweithio mewn partneriaeth.
“Mae pob safle yn wahanol, ac nid oes un ateb sy'n addas i bob sefyllfa, ond rydyn ni'n falch o rannu'r gwersi rydyn ni'n eu dysgu yma gydag eraill ledled Cymru - a dysgu ganddyn nhw hefyd. Mae gennym ni ffordd bell i fynd eto – ond gyda’n gilydd, rydyn ni’n rhoi gobaith i’r gylfinir.”
Meddai Steve Dobbin, Rheolwr Gwarchodfa Natural England:
“Diolch i’n dull cydweithredol gyda CNC, tirfeddianwyr lleol a’n tîm ardderchog o wirfoddolwyr yn Natural England, mae gennym ni’r cyfle gorau nawr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lwyddiant bridio ein Gylfinirod yma ar y GNG. Mae’n werth nodi hefyd y bydd llawer o’r strategaethau rheoli yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer y Gylfinir hefyd o fudd i rywogaethau eraill fel y Gornchwiglen, y Gïach, yr Hwyaden Lydanbig a’r Gorhwyaden.”