Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn rhaglen bum mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y Rhaglen i adfer mawndiroedd ledled Cymru ac i gydlynu gweithgarwch ar lefel genedlaethol. Y nod yw adfer 600-800 hectar o dir bob blwyddyn, a chyflawnir y gwaith gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid, a hynny ar dir preifat a chyhoeddus a ddefnyddir at amrywiaeth o ddibenion.

Mae mawndiroedd sydd wedi dirywio yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer, ac felly mae eu hadfer i’w cyflwr gwlyb naturiol yn hanfodol bwysig yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Yma mae Rob Bacon, Swyddog Prosiect y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, yn sôn am rywbeth a dynnodd ei sylw wrth iddo ymweld â safle Carn Fflur yng nghoedwig Tywi… 

Mae gweithio gyda'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn mynd â chi i lefydd eithaf diarffordd ac anghysbell - sy'n cael llawer o law! Wrth feddwl sut i adfer ardal o gors oedd yn erydu, yn ôl ym mis Hydref 2020, fe sylwais i ar alga rhyfedd yn tyfu mewn sianel oedd yn draenio dŵr o'r gors.

Anfonais sbesimen at yr algolegydd Chris Carter i weld a allai ddarganfod y rhywogaeth. Nid oedd gan y sbesimen cyntaf unrhyw strwythurau atgenhedlu gweladwy ac, wrth lwc, cafwyd ail sbesimen a oedd â'r atodion atgenhedlu angenrheidiol (rhywbeth prin, yn ôl ffynonellau dibynadwy).

© C.F.Carter (chris.carter@6cvw.freeuk.com)

Y rhywogaeth yw Batrachospermum turfosum a elwir bellach yn Paludicola turfosa yn dilyn adolygiad tacsonomaidd diweddar (Vis et al. 2020). Mae'n perthyn i'r 'algâu coch' (Ffylwm: Rhodophyta), grŵp o dros 6,000 o rywogaethau ledled y byd y mae'r mwyafrif ohonynt yn forol, gyda dim ond 3% yn bodoli mewn cynefinoedd dŵr croyw. Mae’r llyfr The Freshwater Algal Flora of the British Isles (John et al. 2011) ar hyn o bryd yn rhestru 22 o rywogaethau dŵr croyw o algâu coch, er y bydd yn ddiddorol gweld beth fydd y nifer hwn yn cynyddu iddo yn addasiad nesaf y llyfr.

O ystyried y diffyg cofnodion ar gyfer llawer o rywogaethau algâu dŵr croyw, nid yw'n bosibl gwybod ai hwn yw'r cofnod cyntaf o'r rhywogaeth yng Nghymru. Y tebyg yw nad yw'n rhywogaeth arbennig o brin gan y credir ei bod yn gyffredin ar draws hemisffer y gogledd. Fodd bynnag, mae'n debygol ei bod yn hoff o amodau penodol, gan fod ymchwil yn y Ffindir yn awgrymu ei bod i'w chael fel arfer mewn llynnoedd bach sy'n asidig, yn brin eu maetholion (oligotroffig) neu'n hwmig (yn cynnwys deunydd hwmig crog e.e. mawnog). Sylwch ar y lliw oren yn y ddelwedd er bod yr algâu’n wyrdd mewn gwirionedd. Ategir hyn hefyd gan y ffaith bod diatomau yng nghwmni'r sbesimenau gan gynnwys y rhywogaeth Frustulia saxonica sy'n hoff o gynefinoedd dŵr croyw heb fawr o electrolytau, yn ogystal â chyforgorsydd, ac sy’n arwydd o gyflwr ecolegol da.

Mae cofnodion o algâu dŵr croyw yn Ynysoedd Prydain yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd. Mae’r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain wrthi’n adolygu Rhestr Wirio Prydain ar gyfer algâu Desmid - grŵp hardd o algâu dŵr croyw a geir fel arfer mewn amgylcheddau â lefel pH isel. Gellir dod o hyd i ddesmidau yn tyfu ymysg llystyfiant tanddwr e.e. Sphagnum cuspidatum neu yn chwysigod y chwysigenddail cigysol (Utricularia sp.).

O ystyried mai prin yw cofnodion algâu dŵr croyw, mae'n anodd gwybod a oes unrhyw gadarnleoedd penodol ar gyfer amrywiaeth algâu dŵr croyw. Y gorau sydd gennym yw'r Ardaloedd Planhigion Pwysig ar gyfer Algâu a gynhyrchir gan Plantlife sy'n cynnwys llond llaw o safleoedd yng Nghymru, gan gynnwys: -

  • Pant y Llyn ger Llanfair-ym-Muallt (dros 50 o ddesmidau gan gynnwys 3 Rhywogaeth ar Restr Goch y DU)
  • Cadair Idris ac ardal Capel Curig (dros 1,500 o rywogaethau o algâu dŵr croyw gan gynnwys dros 600 o ddesmidau)
  • Cwm Bochlwyd (tua 150 o rywogaethau o ddesmidau)

Gallwch ddod o hyd i ddigon o ddelweddau microsgopig o algâu dŵr croyw ar wefannau AlgaeBase ac AlgaeVision.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad amdanyn nhw – byddwn ni’n sicr yn gwneud!

-----

John, D. M.; Whitton, B. A. & Brook, A. J. 2011. The Freshwater Algal Flora of the British Isles: An Identification Guide to Freshwater and Terrestrial Algae (Second Edition)