Cyfleoedd cyffrous i ymuno â #TîmCNC fel rhan o'n Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr newydd

Rydym yn cyflogi! Mae gan ein tîm morol sawl cyfle cyffrous ar hyn o bryd i arbenigwyr morol uchelgeisiol a brwdfrydig ymuno â #TîmCNC fel rhan o'n Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr newydd.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o raglen waith sydd wedi’i dylunio i gefnogi ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr fel ynni’r gwynt, ynni’r tonnau ac ynni'r llanw, ac ymuno â'n tîm i wneud gwahaniaeth dros Gymru a’n hamgylchedd ac ym maes diogelwch ynni.
Yma, mae James Moon, ein Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy ar y Môr yn esbonio mwy am y rhaglen a’r rolau newydd a sut y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth drwy weithio i #TîmCNC.
Beth yw diben hwn?
Yn fwyfwy, mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn faes o ddiddordeb gwleidyddol, cyhoeddus a pholisi uchel yng Nghymru. Caiff y cynnydd hwn ei yrru gan nodau datgarboneiddio uchelgeisiol, symudiad tuag at economi carbon isel, a datganiad o "argyfwng yn yr hinsawdd". Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i gefnogi'r llywodraeth i ddod i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i gwrdd â thargedau o greu 30% o'n trydan trwy ynni adnewyddadwy erbyn 2030.
Mae datblygiadau gwynt ar y môr eisoes yn cyfrannu'n sylweddol at gwrdd â'r nodau ynni adnewyddadwy hyn ac mae ganddynt y potensial i dyfu gyda'r cyhoeddiad diweddar ar gyfer Rownd 4 o gyfleoedd prydlesu gwely'r môr oddi wrth Ystâd y Goron er mwyn cynhyrchu ynni gwynt ar y môr.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sy'n rhoi fframwaith trosfwaol ar gyfer rheoli moroedd Cymru yn gynaliadwy. Mae ynni morol yn brif flaenoriaeth gyda'r amcan o "gyfrannu'n sylweddol at y gwaith o ddatgarboneiddio ein heconomi ac at ein ffyniant drwy gynyddu'r swm o ynni adnewyddadwy morol a gynhyrchir".
Mae’r gwaith o harneisio'r adnodd tonnau a llanw enfawr o amgylch Cymru eisoes yn mynd rhagddo gydag ardaloedd o ddiddordeb yng ngogledd a de Cymru. Mae’r gwaith o arbrofi prototeipiau a dyfeisiau llif llanw a thonnau ar raddfa lawn wedi dechrau ac mae nifer o ymgeiswyr posib hefyd ar y gweill.
Pam Cyfoeth Naturiol Cymru?
Ein diben yn Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Mewn perthynas â'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr, rydym yn gynghorydd ac yn rheoleiddiwr. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru felly rôl hanfodol i’w chwarae mewn cynhyrchu ynni cynaliadwy a glân i Gymru. Bydd y Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr yn gweithio ar draws cylch gwaith morol llawn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys swyddogaethau cynghorol a rheoliadol, gan ymdrin â chyngor technegol, creu canllawiau ac adroddiadau tystiolaeth, trwyddedu morol a datblygu polisi, ymysg pethau eraill.
Pa swyddi sydd ar gael?
Gellir gweld rhestr lawn o swyddi ar y Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr isod. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer sawl swydd (un ffurflen gais ar gyfer pob swydd) yn unol â cheisiadau ar gyfer secondiadau. Os oes diddordeb gennych mewn secondiad, trafodwch gyda'ch cyflogwr a chysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl.
2 x Uwch-gynghorydd Morol: Ynni Adnewyddadwy ar y Môr - Fel un o uwch-gynghorwyr morol Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwch yn gyfrifol am gydlynu a rheoli achos cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chynigion datblygu. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol, bioleg forol, ecoleg neu brosesau arfordirol ac y byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol: Diwydiant ac Ynni Morol – Fel cynghorydd diwydiant ac ynni morol Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar gynlluniau a pholisïau ar gyfer diwydiannau morol fel ynni gwynt ar y môr.
Cynghorydd Arbenigol: Prosesau Ffisegol Morol ac Arfordirol – Fel un o gynghorwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosesau ffisegol morol ac arfordirol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheoli’r amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
2 x Cynghorydd Arbenigol: Adareg Forol - Fel un o gynghorwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar adareg forol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheoli’r amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol: Mamaliaid Morol – Fel un o gynghorwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar famaliaid morol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheoli’r amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol: Ecoleg Fenthig – Fel un o gynghorwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ecoleg fenthig, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheoli’r amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol: Pysgod Morol ac Aberol – Fel un o gynghorwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar bysgod morol ac aberol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheoli’r amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
2 x Uwch-swyddog: Trwyddedu Morol - Fel uwch-swyddog ym maes trwyddedu morol, byddwch yn arwain ar benderfyniadau trwyddedu cymhleth a phenderfyniadau o dan ddeddfwriaeth trwyddedu morol ac wrth gynnal asesiadau technegol priodol.
Uwch-swyddog: Trwyddedu Morol (Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd) – Fel uwch-swyddog ym maes trwyddedu morol sy'n arbenigo mewn Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, byddwch yn arwain ar benderfyniadau trwyddedu cymhleth a phenderfyniadau o dan ddeddfwriaeth trwyddedu morol ac wrth gynnal asesiadau technegol priodol.
Uwch-gynghorydd: Dulliau Rheoleiddio – Fel uwch-gynghorydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer dulliau rheoleiddio, byddwch yn gyfrifol am weithio gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol, adolygu prosesau, datblygu canllawiau a hyfforddiant, a darparu cyngor arbenigol ar reoleiddio morol.
A ydych yn meddwl y gallai un o'r rhain fod yn swydd ar eich cyfer chi neu rywun rydych yn ei adnabod? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Am fwy o wybodaeth ynghylch pob swydd a sut i wneud cais, cliciwch ar y dolenni uchod i fynd i'r swydd ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech anfon e-bost at Gabrielle.Wyn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk