Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Rheoli adnoddau naturiol yn well yng Nghanol De Cymru

Datganiadau Ardal fydd y ffynhonnell wybodaeth y byddwn yn troi ati ar gyfer llunio polisïau a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, lle canolbwyntir ar wytnwch ecosystemau a llesiant, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd ym Mholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru.

Yma, mae Andy Robinson, Arweinydd Tîm Cynllunio Adnoddau Naturiol, yn esbonio sut y mae Datganiad Ardal Canol De Cymru yn datblygu:

Mae Datganiadau Ardal yn ymgorffori ffordd newydd o weithio, ac mae pob un ohonom yn dysgu beth y mae hyn yn ei olygu – sut yr ydym yn gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol, yn creu partneriaethau teg, gan roi llais i bawb, a sut yr ydym yn sicrhau bod yr amgylchedd wrth galon a chraidd pob penderfyniad.

Mae pennu themâu mewn Ardal yn cynnig cyfle i gael gafael ar wybodaeth ychwanegol gan amrywiaeth ehangach o randdeiliaid er mwyn cyfrannu at y sylfaen tystiolaeth a deall cyflwr yr adnoddau naturiol a’r meysydd allweddol y dylid canolbwyntio unrhyw weithredu arnynt.

A hithau’n cyfateb i ddim ond 6% o arwynebedd Cymru, mae Ardal Canol De Cymru yn cynnwys pump o ardaloedd awdurdodau lleol (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg) ac mae’n gartref i 29% o boblogaeth Cymru. Ar sail hyn, hi yw’r ardal Datganiad Ardal ddwysaf ei phoblogaeth.

Heddiw, mae’r diwydiannau trwm traddodiadol a roddodd Dde Cymru ar y map wedi diflannu i raddau helaeth. Credir bod ein haer yn gliriach. Mae pysgod yn trigo mewn afonydd – afonydd yr arferai dŵr du lifo ynddynt rai blynyddoedd yn ôl. Mae digonedd o waith da wedi’i wneud eisoes i wella’r amgylchedd. Ond mae yna lawer i’w wneud o hyd.

Gyda hyn mewn cof, nod Datganiad Ardal Canol De Cymru yw mynd i’r afael ag etifeddiaeth y gorffennol yn ogystal â heriau’r dyfodol, gan archwilio ffyrdd y gallwn gydweithio i warchod a chyfoethogi’r amgylchedd naturiol trwy ei roi wrth galon a chraidd y broses benderfynu.

Yr her fwyaf sy’n wynebu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) yw newid hinsawdd, ac yna colli bioamrywiaeth. Mae cydgysylltiad agos i’w gael rhwng heriau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gyda newid hinsawdd yn cael ei bennu fel y prif beth sy’n arwain at golli bioamrywiaeth. Mae elfennau eraill sy’n cyfrannu at golli bioamrywiaeth hefyd yn cyfrannu at newid hinsawdd.

Rhaid i ecosystemau naturiol a lled-naturiol fod ar flaen ein hymdrechion i liniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo. Fodd bynnag, gall mynd ar drywydd mesurau lliniaru’n unig arwain at ganlyniadau croes sy’n cynyddu’r perygl yn hytrach na’i leihau. Mae’n hanfodol i fesurau lliniaru, ymaddasu, bioamrywiaeth ac anghenion pobl gael eu hystyried mewn ffordd integredig, fel y gellir gwireddu’r synergeddau posibl ac osgoi gwrthdaro rhwng gwahanol amcanion.

Mae Canol De Cymru yn ardal arbennig o drefol gyda blaenoriaethau a heriau sy’n canolbwyntio ar bobl. Her bwysig yn y tymor hir, yn enwedig i ddinas Caerdydd, fydd rheoli effeithiau amgylcheddol ei thwf (yn cynnwys dulliau adeiladu gwael, pwysau datblygu ar ecosystemau cyfagos) ac ymaddasu i newid hinsawdd (trwy ddefnyddio seilwaith gwyrdd ac atebion eraill seiliedig ar natur) mewn modd gwydn a chynaliadwy.

Felly, nid yw’n syndod efallai fod dymuniad i ganolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng amgylcheddau trefol a naturiol yn cael lle amlwg yn ein Datganiad Ardal, a bod y themâu sydd wedi dod i’r fei yn canolbwyntio llawer ar bobl.

Trwy’r themâu hyn rydym wedi bod yn archwilio ein perthynas bresennol â byd natur, yn ceisio deall sut yr ydym yn gwerthfawrogi amgylchedd naturiol ein hardaloedd trefol a beth yw ein rhyngweithio â’r dirwedd ehangach, fel y gellir gwneud penderfyniadau a fydd yn galluogi ein hecosystemau i fynd ati’n well i wrthsefyll heriau fel newid hinsawdd.

Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: Amcan Datganiadau Ardal yw helpu i gydlynu gwaith CNC ac eraill fel y gellir cryfhau gwytnwch ein hecosystemau a gwella’r buddion a gaiff eu darparu ganddynt h.y. llwyddo i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae’r themâu canlynol yn fframwaith ar gyfer datblygu’r egwyddorion a’r sylfaen tystiolaeth y gellir barnu penderfyniadau ar eu sail, fel y bydd modd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghanol De Cymru.

Ailadeiladu Gwytnwch Ecosystemau: Ar hyn o bryd rydym yn mynd trwy argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac mae’n hanfodol i ni gael ecosystemau gwydn er mwyn sicrhau y bydd natur yn gweithio gyda ni ac er ein budd, yn hytrach nag yn ein herbyn.

 Rydym wrthi’n dysgu beth y mae gwytnwch ecosystemau’n ei olygu, yn enwedig yng nghyd-destun rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sut y gellir sicrhau bod ecosystemau yn wydn ac yn gallu esgor ar fuddion i ni yn awr yn ogystal â diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Cysylltu pobl a natur: Nid yw’r buddion a’r gwasanaethau lu y gall yr amgylchedd naturiol eu darparu, yn enwedig yn amgylchedd hynod drefol Canol De Cymru, yn cael eu deall yn dda iawn (gan y cyhoedd nac ychwaith gan benderfynwyr).

Os na allwn ddeall a gwerthfawrogi’r buddion y mae’r amgylchedd naturiol yn eu darparu, ni fydd modd i ni wneud penderfyniadau cytbwys, fel unigolion nac fel sefydliadau. Nod y thema hon yw deall ac archwilio’r cysylltiad rhwng pobl a natur er mwyn sicrhau bod amgylchedd naturiol Canol De Cymru yn cael ei werthfawrogi’n briodol ac er mwyn pennu’r prosesau penderfynu a all arwain at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Y materion a’r heriau pwysicaf: Yn ogystal â phennu fframwaith, rydym wedi rhoi’r broses hon ar waith trwy ystyried rhai o’r materion a’r heriau pwysicaf y mae Canol De Cymru yn eu hwynebu.

Gweithio gydag amgylchedd y dŵr: Mae’r ardal yn dioddef yn sgil etifeddiaeth lle ceir afonydd sydd wedi’u haddasu’n sylweddol, seilwaith sy’n heneiddio a pherygl llifogydd a llygredd cysylltiedig.

Gyda’n gilydd rydym eisiau sicrhau y bydd amgylcheddau dŵr Canol De Cymru yn cael eu gwarchod a’u cyfoethogi, a’u gwerthfawrogi’n briodol, fel y gellir elwa ar y buddion y gallant eu cynnig yn awr ac yn y dyfodol. Rydym eisiau deall sut y mae pobl yn rhyngweithio ag amgylchedd y dŵr, gan hyrwyddo’r rôl y gall amgylchedd y dŵr ei chwarae o ran llesiant ac adfywio yn y lleoliad hynod drefol hwn.

Gwella canlyniad iechyd pobl trwy gyfrwng yr amgylchedd naturiol: Wrth i ddisgwyliad oes ddechrau lleihau am y tro cyntaf ers degawdau, ac wrth i ni weld cynnydd mewn anghydraddoldebau iechyd, mae modd i’n hadnoddau naturiol fod â rôl bwysicach o ran mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, yn cynnwys llygredd aer a sŵn, llifogydd neu faterion iechyd sy’n gysylltiedig ag anweithgarwch corfforol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i bennu cyfleoedd lle gellir elwa i’r eithaf ar atebion seiliedig ar natur er mwyn hyrwyddo canlyniadau iechyd gwell.

Gwella ansawdd yr aer; gall hyn gael effaith ar iechyd, llesiant a bioamrywiaeth: Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio ansawdd aer gwael fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys – eilbeth i smygu yn unig. Bydd Datganiadau Ardal yn cynyddu’r gwerth a’r gydnabyddiaeth a roddir i’r rôl y gall ecosystemau gwydn ei chwarae o safbwynt gwella ansawdd yr aer yng Nghanol De Cymru a sicrhau ein bod yn rhoi’r amgylchedd naturiol wrth galon yr ateb. Nid yw llygredd aer o unrhyw lefel yn ddiogel, ac mae Ymgynghoriad Cynllun Aer Glân i Gymru yn fan cychwyn gwych ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol i chwilio am ddull integredig o fynd i’r afael â llygredd aer.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr mewn meysydd perthynol i bennu meysydd y dylid canolbwyntio mwy arnynt – meysydd y gallwn eu defnyddio i ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl – er mwyn deall yn well beth yw gwerth yr amgylchedd naturiol a phennu’r cyfleoedd gorau i roi’r amgylchedd naturiol wrth galon a chraidd pob penderfyniad.

 Ym mis Mawrth 2020 byddwn yn cyhoeddi ein gwaith hyd yn hyn, a hynny ar-lein. Bydd yn cynnig cipolwg o’r Datganiad Ardal ac yn pennu’n fanylach y broses a roddwyd ar waith gennym hyd yn hyn yn ogystal â ffyrdd o gymryd rhan.

 

 

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.