Dirwyo ffermwr o Sir Gâr am lygru afon

Mae ffermwr o Sir Gâr wedi cael dirwy am lygru afon ar bedwar gwahanol achlysur.

Plediodd Russell Law, 36 oed, o Lanfryn, Felin-wen, yn euog i’r drosedd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 ac fe’i dedfrydwyd ddydd Iau, 5 Tachwedd yn Llys yr Ynadon, Llanelli.

Fe’i gorchmynwyd i dalu cyfanswm o £5,562.86 – dirwy o £3,400, costau o £2,041.86 i’r llys a thâl dioddefwr o £121.

Dywedodd Ioan Williams, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

"Rydym yn cymryd camau gorfodi pan mae ein hymdrechion i roi cyngor a chymorth ymarferol i ffermwyr yn cael eu hanwybyddu.
"Pan fydd rhywbeth yn bygwth diogelwch ein hadnoddau naturiol, neu fod
tystiolaeth gymhellol bod rheoliadau'n cael eu diystyru'n fwriadol, ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau gorfodi.
"Yn yr achos hwn, roedd llawer o gamau gorfodi wedi’u cymryd mewn perthynas â’r fferm yn y gorffennol, gan gynnwys llythyrau rhybuddio a rhybudd ffurfiol, ond yn anffodus bu hynny’n ofer. Nid oedd dewis gennym ond cymryd camau gorfodi drwy’r llys.”

Cyfaddefodd Mr Law ei fod wedi achosi llygredd ar bedwar achlysur gwahanol oherwydd methiannau mewn seilwaith a gwaith gwasgaru slyri rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2018.

Ar 8 Chwefror 2018, roedd Mr Law wedi caniatáu i slyri gael ei wasgaru slyri mewn tywydd gwael. Rhedodd y slyri o gaeau ger Lanfryn gan achosi llygredd yn llednant Nant Crychiau. Mae'r Cod Ymarfer Amaethyddol Da ar gyfer Pridd, Aer a Dŵr yn nodi na ddylid gwasgaru slyri ar briddoedd dirlawn, pan fydd caeau wedi'u rhewi'n galed neu pan ragwelir glaw trwm o fewn 48 awr.

Ar 19 Ebrill, 2018, llifodd llaeth o Lanfryn i'r llednant oherwydd methiant mewn seilwaith ar y fferm.

Cafwyd dau ddigwyddiad arall o elifiant fferm yn mynd i mewn i'r llednant a gofnodwyd ar 10 Gorffennaf 2018 a 21 Rhagfyr 2018.

Roedd dŵr y nant wedi mynd yn fudr yr olwg oherwydd y llif slyri. O'r llif llaeth, roedd y dŵr yn llwyd ac yn ddrewllyd iawn. Tyfodd ffwng carthion yn helaeth ar wely'r nant am gannoedd o fetrau.

Ychwanegodd Ioan Williams:

"Mae CNC yn gweithio'n agos gyda'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r sector amaethyddol i leihau'r risg y bydd llygredd amaethyddol yn digwydd. Cydlynir y gwaith hwn gan is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru. Mae gwelliannau'n cael eu gwneud ac mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn gweithredu'n gyfrifol yn eu harferion rheoli gwastraff.
"Rydym yn cydnabod bod pethau weithiau'n mynd o chwith, ond rydym yn annog ffermwyr i roi gwybod i ni yn CNC ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000 os ydynt yn gwybod eu bod wedi achosi llygredd. Po gyntaf y cawn wybod amdano, gyntaf yn y byd y gallwn weithio gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd."

I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ffoniwch CNC ar 0300 065 3000.