Gweld gwledd o fywyd gwyllt yn eich gardd

Cacynen yn casglu coed ar gyfer ei nyth

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar bobl o bob oed o bob cwr o Gymru i gamu i’r awyr agored i archwilio’r toreth o fywyd naturiol sydd i’w gael yn eu gerddi wrth i’r byd uno i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Fiolegol (dydd Gwener, 22 Mai).

Fel rhan o’r dathliadau blynyddol, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw ar y gymuned fyd-eang i adfywio’i pherthynas â natur a’r buddion amgylcheddol lu y mae’n eu cynnig, gan gynnwys aer a dŵr glân, cyflenwadau bwyd cynaliadwy, ac adferiad a gwytnwch mewn perthynas â thrychinebau naturiol.

Mae byd natur dan fygythiad yma yng Nghymru, ac mae gan CNC rôl hollbwysig o ran mynd i’r afael â’r argyfwng hwn trwy ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Fel yr esbonia Graham Rutt, cynghorydd ecolegol arbenigol yn CNC:

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Fiolegol y Cenhedloedd Unedig yn dathlu amrywiaeth anhygoel byd natur a bywyd gwyllt ein planed.
“Yn sgil y Coronafeirws, mae llawer mwy o bobl wedi cael eu hysbrydoli i archwilio natur yn eu cymunedau a’u gerddi, gan ddod i adnabod yr amrywiaeth eang o anifeiliaid, pryfed a phlanhigion sy’n rhannu ein cartrefi.
“Does dim rhaid ichi fyw yn y wlad i fwynhau natur – mae o’ch cwmpas ym mhob man, hyd yn oed os ydych chi’n byw mewn tref neu ddinas. Fe fydd unrhyw fan gwyrdd yn gartref i nifer rhyfeddol o rywogaethau, a chewch eich syfrdanu gan yr hyn y gallwch chi ddod o hyd iddo o fewn pellter cerdded i’ch cartref.”

Felly, beth allwch chi ddisgwyl ei weld yn eich gardd?

  •  Un o arwyddion traddodiadol y gwanwyn yw gardd yn llawn glöynnod byw. Yn yr wythnosau diwethaf bu nifer o rywogaethau gwahanol yn dodwy eu hwyau a chyn bo hir fe ddaw eu lindys i’r golwg.
  • Mewn ardaloedd cynnes mae’r brogaod bach cyntaf i’w gweld mewn pyllau gerddi ac yn ei gwneud hi am lystyfiant a glaswellt hir i guddio.
  •  Er ei bod braidd yn gynnar i weld mursennod a gweision y neidr, efallai y bydd y tywydd cynnes yn peri iddyn nhw ymddangos ynghynt.
  • Mae blodau gwyllt yn dechrau blodeuo, gan gynnwys nifer o degeirianau brodorol, yn enwedig mewn ardaloedd calchog.
  • Mae gwenyn yn hanfodol i ecosystemau iach oherwydd eu rôl fel pryfed peillio, a bellach mae modd gweld y cacwn cyntaf wrthi’n brysur yn casglu neithdar.

Mae Tristan Hatton-Ellis yn gynghorydd arbenigol ar gynefinoedd a rhywogaethau yn CNC. Meddai:

“Mae’r adeg aros garfref yn gyfnod anodd i lawer ohonom, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i sylwi ar rai o'r pethau bychain mewn bywyd.  
“Yn eich gardd, neu pan fyddwch yn mynd am dro, edrychwch yn fanylach ar yr anifeiliaid a'r planhigion o'ch cwmpas a gwerthfawrogwch eu harddwch, neu eu rhyfeddod – y dramâu bach sy'n datblygu o'n cwmpas bob dydd, yn anffodus mae llawer o rywogaethau anhygoel a hardd yn union fel y rhain mewn perygl difrifol o ddiflannu.
“Mae natur a mannau gwyrdd yn bwysig iawn i'n lles, ac maen nhw hefyd yn gartref i gymaint o fywyd gwyllt, felly os ydych chi'n teimlo'n ysbrydoledig ac eisiau rhoi llaw i natur, mae adnoddau garddio bywyd gwyllt gwych ar-lein, fel yn Buglife, Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, RSPB a’r Ymddiriedolaethau Natur Cymru.”