Diwrnod y Ddaear 2020 - Ymdrechion newid yn yr hinsawdd yn bwysicach nag erioed

Clare Pillman (Prif Weithredwr)

Wrth i'r byd ddod ynghyd i frwydro yn erbyn argyfwng iechyd cyhoeddus, caiff argyfwng byd-eang arall ei ddwyn i'r amlwg heddiw wrth i Ddiwrnod y Ddaear ddathlu ei hanner canmlwyddiant.

Y thema eleni yw ‘gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd’ - mater sydd ar frig agenda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a aeth ati i gyhoeddi nifer o addewidion yr haf diwethaf i gefnogi datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd yng Nghymru. 

A ninnau’n profi newid sylfaenol yn ein ffordd o fyw ein bywydau yn sgil pandemig y coronafeirws, mae Diwrnod y Ddaear 2020 yn nodi cyfle hanfodol i bwyso a mesur ac ystyried pa newidiadau rydyn ni am eu hymgorffori yn ein bywydau ar gyfer y dyfodol, yn ôl ei Brif Weithredwr.  

Dyma ddywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC: 

“Mae pandemig Covid-19 wedi gweld pob haen o lywodraeth ledled y byd yn dod at ei gilydd i gydweithio, a hynny mewn ffordd na welsom erioed o’r blaen. Rydyn ni’n byw mewn adeg na welwyd ei thebyg o’r blaen ac, ar hyn o bryd, ein ffocws ar y cyd yw amddiffyn y GIG a helpu i achub bywydau.  
“Ond mae Diwrnod y Ddaear 2020 yn gyfrwng diamheuol i’n hatgoffa bod yr argyfwng hinsawdd real iawn rydyn ni i gyd yn ei wynebu yn llechu y tu ôl i argyfwng Covid-19. Mae ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt yn parhau i gael eu bygwth gan ei effeithiau, ac er gwaethaf yr heriau presennol, rydyn ni yn CNC yn dal i weithio'n galed i'w gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  
“I mi, mae’r addewidion a wnaed gan CNC yr haf diwethaf mewn perthynas ag argyfwng yr hinsawdd yn bwysicach nag erioed, ac fel gweithlu brwd ac ymroddedig, rydyn ni’n parhau i addasu ein harferion er mwyn eu gwireddu. 
“Mae ein bywyd arferol wedi peidio am y tro, ac rwy’n gwybod y bydd Covid-19 wedi effeithio’n bersonol ac yn ddwfn ar lawer o bobl. Cofiwn amdanyn nhw ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn ystod yr amseroedd hynod ansicr hyn.
 “Ond fe allai’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud nawr ynglŷn â sut rydyn ni eisiau byw ein bywydau wedi i ni ddod allan o’r cyfnod hwn ddylanwadu’n sylweddol eto fyth ar sefyllfa’r argyfwng hinsawdd. Rwy’n annog pawb i ystyried yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r cyfnod hwn pan arafodd y byd, pan ddaeth pawb ynghyd, wedi eu huno gan achos, a’r gwahaniaeth a wnaed ganddyn nhw ac y gallant ei wneud yn y dyfodol.” 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill y llynedd. I gefnogi hyn, nododd CNC nifer o gamau blaenoriaethol. Roedd y rhain yn cynnwys: 

  • Gwella rheolaeth ar goedwigoedd a mawndiroedd fel eu bod yn storio mwy o garbon;
  • Bod yn fwy effeithlon o ran ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n bosibl mewn swyddfeydd;
  • Cynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, a hynny’n gyflym;
  • Ystyried mwy o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC;
  • Rhoi mwy o ystyriaeth i'r defnydd o garbon ym mhopeth sy’n cael ei brynu;
  •  Rhannu profiad CNC o reoli allyriadau carbon gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn helpu i sicrhau sector cyhoeddus mwy gwyrdd;
  • Ystyried datblygiad anochel cynhesu byd-eang ym mhopeth a wnawn a helpu Cymru i addasu i'r newidiadau sydd o'n blaenau 

Bydd CNC yn ailddatgan yr ymrwymiadau hyn ac yn dathlu llwyddiannau trwy gydol Diwrnod y Ddaear ar ei sianeli cymdeithasol.