CNC yn lansio gwasanaethau newydd ar gyfer rhybuddion llifogydd a lefelau afonydd

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno gwasanaethau digidol newydd i ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â pherygl o lifogydd yn ogystal â lefelau afonydd, glawiad a data môr i gartrefi, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Bydd y gwasanaethau Lefelau Afonydd, Glawiad, a Data Môr, Rhybuddion Llifogydd a Perygl Llifogydd Pum Diwrnod ar gyfer Cymru sy’n cael eu lansio ar wefan CNC heddiw (14 Medi) yn gwella sut y caiff gwybodaeth fyw yn ymwneud â rhybuddion llifogydd a data lefelau dŵr ei rhannu cyn ac yn ystod llifogydd.

Mae’r gwasanaeth Lefelau Afonydd, Glawiad, a Data Môr, Rhybuddion, sy’n darparu gwybodaeth o dros 400 o orsafoedd monitro ledled Cymru, hefyd yn adnodd gwerthfawr i bobl sy’n defnyddio afonydd ar gyfer dibenion hamdden, megis pysgota a gweithgareddau dŵr.

Meddai Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd CNC:

“Mae’r gwasanaethau digidol newydd yr ydym yn eu cyflwyno yn enghraifft o’n hymrwymiad i wella gwasanaethau rhybuddio a rhannu gwybodaeth i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd mewn perygl o lifogydd.
“Gall llifogydd gael effaith ddychrynllyd, ac mae’n bwysig fod gwybodaeth gynhwysfawr am berygl llifogydd a lefelau afonydd ar gael i bawb.
“Dangosodd y cyfnod gwlyb iawn a gafwyd dros y gaeaf a’r llifogydd a fu eleni mewn nifer o gymunedau ledled Cymru, gymaint yw’r effaith a gaiff llifogydd ar deuluoedd, busnesau a chymunedau. 
“Y consensws gwyddonol yw bod yr hinsawdd yn newid ac y bydd tywydd eithafol fel y gwelwyd eleni yn dod yn fwy cyffredin.
“Mae hyn yn golygu bod angen i ni oll newid ac addasu i sicrhau cymaint o wydnwch â phosibl yn wyneb yr effeithiau y bydd newid hinsawdd yn parhau i’w cael ar ein cymunedau.
“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gryfhau’r gwydnwch hwnnw wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar y cyd ag eraill.”

Mae’r gwasanaethau newydd yn cynnwys nifer o welliannau i’r tudalennau Lefelau Afonydd a Rhybuddion Llifogydd sydd ar wefan CNC ar hyn o bryd.

Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys nodweddion ychwanegol megis mapiau manylach a mynediad i setiau data ehangach. Maent yn gweithio’n well ar ddyfeisiadau symudol ac yn haws eu defnyddio o ran symud yn rhwydd ac yn gyflymach rhwng gwybodaeth ar rybuddion a gwybodaeth am lefelau dŵr. 

Ychwanegodd Jeremy:

“Gwnaed y gwelliannau hyn mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaethau presennol dros y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd y gwasanaethau presennol yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â’r gwasanaethau newydd hyd nes i ni symud drosodd yn gyfan gwbl yn Hydref 2020. Wrth i ni nesáu at yr hydref a’r gaeaf, byddem yn annog defnyddwyr i ymgyfarwyddo â’r gwasanaethau newydd yn ystod y cyfnod hwn.
“Byddem yn croesawu unrhyw adborth i’n helpu i wneud gwelliannau pellach yn y dyfodol. Gall defnyddwyr wneud hyn trwy ddefnyddio’r botwm ‘Adborth’ ar y wefan.”

Gellir defnyddio’r gwasanaethau newydd trwy ddilyn y linciau i’r tudalennau Rhybuddion Llifogydd a Lefelau Afonydd presennol ar wefan CNC, www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd