Tynnu Sylw at Fynyddoedd Llantysilio a Rhiwabon mewn Ymgyrch Atal Tanau Bwriadol

Bydd nifer o sefydliadau o ogledd Cymru yn dod ynghyd y penwythnos Gŵyl Banc hwn i godi ymwybyddiaeth o’r difrod y gall tanau gwyllt ei achosi i rai o’n tirweddau ucheldir mwyaf eiconig.

Ar 27-28 Awst, bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno â chydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol i siarad ag aelodau o’r cyhoedd fel rhan o’r ymgyrch atal tanau bwriadol.

Mae hyn yn dilyn y gwres mawr digynsail a gafwyd yr haf hwn a’r tân yn haf 2018 a barodd chwe wythnos ac a draflyncodd dros 250ha o Fynydd Llantysilio, sy’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynyddoedd Rhiwabon/Llantysilio a Mwynglawdd.

Ers hynny, mae tanau gwyllt wedi’u cydnabod yn swyddogol fel perygl sylweddol yn y DU ar ôl ei gynnwys yn y Gofrestr Risg Genedlaethol o Argyfyngau Sifil. Mae’r gost flynyddol o ymladd tanau gwyllt yn y DU yn £55 miliwn.

Gall tanau gwyllt yr ucheldir gael eu hachosi gan daflu sigaréts neu ddefnyddio barbeciws untro, llosgi bwriadol, gwydr/poteli wedi’u taflu sydd wedyn yn chwyddo gwres yr haul, a thechnegau rheoli tir, er enghraifft llosgi rhagnodedig ar weunydd yn mynd allan o reolaeth neu losgi tocion coed yn rhy agos at lystyfiant gweundir.

Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau’r Gogledd Ddwyrain yn CNC:

“Gall effaith ariannol ac ecolegol tanau gwyllt difrifol fod yn enfawr. Mae angen amrywiaeth o fesurau ataliol – un o’r rhain yw codi ymwybyddiaeth o berygl tân yn ein cymunedau lleol ac ymysg aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’r gweunydd.
“Mae gweithredu i atal tanau gwyllt rhag digwydd yn y lle cyntaf yn ffordd well o reoli’r broblem, am resymau ariannol, oherwydd gall costau ymladd tân ac adfer ar ôl tân fod yn sylweddol, a hefyd er mwyn gwarchod ein hamgylchedd rhag cael ei ddinistrio gan dân.
“Drwy weithio ar y cyd â’n gwasanaethau cyhoeddus mewn digwyddiadau fel hyn, gobeithiwn atal tanau gwyllt ar raddfa fawr a’r difrod y gallant ei achosi i’n hamgylchedd a’n bywoliaeth.”

Meddai Tim Owen, Arweinydd ar Danau Gwyllt yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych arall o weithio mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yng Nghyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
“Bydd ein staff yn mynd i fynyddoedd Llantysilio a Rhiwabon y penwythnos hwn gyda chydweithwyr o’r sefydliadau eraill i siarad ag aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’r ardal. Gobeithiwn y gallwn, drwy sgwrsio â nhw, eu haddysgu ynghylch sut y gallant helpu i atal tanau gwyllt ar y mynydd a lleihau nifer y digwyddiadau rydyn ni’n eu mynychu, yn enwedig yn ystod y tywydd poeth."

Dyma rhagor o wybodaeth ynghylch sut gallwch fwynhau ein cefn gwlad yn ddiogel.