Trowch eich golygon at y sêr yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Os ydych chi wedi breuddwydio erioed am archwilio’r sêr, yna bydd Wythnos Awyr Dywyll Cymru yn siŵr o’ch cludo i fyd newydd rhyfeddol.

Bydd yr wythnos yn dechrau ddydd Llun (21 Chwefror) ac mae hi’n llawn dop o ddigwyddiadau, gyda nifer ohonynt yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys Ein Hawyr Dywyll, Arweiniad i Ddechreuwyr ar Orïon, y Tarw a’r Efeilliaid, Astroarchaeoleg ac Astroffotograffiaeth, a byddant yn siŵr o ysbrydoli pobl i fentro allan i’r wlad neu i’w gerddi i chwilio am awyr dywyll lle gallant syllu ar y sêr.

Fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud ei ran oherwydd bydd Katrin Raynor-Evans, Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr yn CNC, yn arwain sgwrs yn sôn am ‘Archwilio Seryddiaeth a’r Gofod trwy Ffilateleg’.

Medd Katrin:

“Rydw i’n llawn cyffro o gael cymryd rhan yn Wythnos Awyr Dywyll gyntaf Cymru.
“Mae’n cynnig cyfle gwych i sefydliadau, gwirfoddolwyr a phobl sy’n danbaid dros ddiogelu ein hawyr, dynnu sylw at yr her sy’n ein hwynebu.
“Pa un a ydych chi’n byw mewn dinas a gaiff ei llygru gan oleuadau neu mewn lleoliad ag awyr dywyll, mae archwilio’r cosmos trwy gyfrwng ffilateleg yn ffordd unigryw a diddorol o ddysgu popeth am y Bydysawd ac archwilio’r gofod.”

Ac fe fydd map gwe CNC o ‘Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru’ yn amhrisiadwy o ran canfod y mannau gorau i syllu ar y sêr – mannau y gellir dod o hyd iddynt yn aml ar safleoedd a reolir gan CNC.

Mae’r map ‘Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru’ wedi’i seilio ar ddelweddau lloeren a dynnwyd ar ôl hanner nos, pan fo llawer o oleuadau wedi cael eu diffodd.

Dangoswyd bod mwy na 68% o Gymru a 95% o’n Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn perthyn i’r ddau gategori sy’n cynnwys yr awyr dywyllaf. Ymddengys hefyd fod y golau sy’n pelydru o ardaloedd adeiledig yn gostwng yn sgil polisïau awdurdodau lleol ar oleuadau a thrwy ôl-osod goleuadau sy’n gydnaws ag awyr dywyll.

Gall y dystiolaeth yn y map helpu i dargedu unrhyw weithredu at y mannau lle gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf, gan ategu canllawiau cynllunio a dynodiadau ‘awyr dywyll’ newydd.

Yn ôl Jill Bullen, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Dirweddau yn CNC:

“Mae mannau ag awyr dywyll yn bwysig o ran rhoi profiad inni o awyr y nos, a gallant fod o fudd i’n hiechyd a’n llesiant, a hefyd i fywyd gwyllt lleol.
“Mae pobl wedi edrych ar y map gwe ‘Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru’ 2,477 o weithiau ers iddo gael ei ryddhau lai na blwyddyn yn ôl – newyddion gwych iawn.
“Os bydd hyn yn ysbrydoli camau pellach gan unigolion, sefydliadau ac awdurdodau i ddiffodd goleuadau pan fo hi’n ddiogel gwneud hynny, a gosod goleuadau sy’n gydnaws ag awyr dywyll, yna mae’r adnodd ‘awyr dywyll’ hwn yn cyflawni’n dda dros Gymru.”

Gallwch weld y map ‘Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru’ yma: https://luc.maps.arcgis.com/apps/opsdashboard/index.html#/1cd6ba8a1d7d4a62aff635cfcbaf4aec

Fe allwch chithau hefyd gymryd rhan yn y digwyddiad Cyfrif Sêr a gynhelir eleni rhwng 26 Chwefror a 6 Mawrth. Y cwbl fydd angen ichi ei wneud yw cyfrif y sêr oddi fry er mwyn helpu i fesur pa mor dywyll yw’r awyr. Beth am gyfrif y sêr uwchben Cymru ac ychwanegu ein canlyniadau at y darlun cenedlaethol.

Cewch ragor o wybodaeth yma: Cymryd rhan yn nigwyddiad Cyfrif Sêr 2022 y mis Chwefror hwn - CPRE

Gallwch ddod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau Wythnos Awyr Dywyll Cymru ar

https://www.discoveryinthedark.wales/cym/darkskieswalesweek