Carreg filltir wrth i gynlluniau Cwmcarn gael eu cyflwyno

Image of vegetation at Cwmcarn

Wrth i waith cwympo coed mwyaf helaeth a chymhleth Cymru ddod i ben, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno cynlluniau i sicrhau’r broses o ailddatblygu Coedwig Cwmcarn.

Yn rhan o’i gais cynllunio i Gynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Thorfaen, mae CNC wedi gofyn am gymeradwyaeth i ailddatblygu wyth safle hamdden ar hyd Rhodfa’r Goedwig.

Hoffai greu nifer o lwybrau i bobl o bob gallu fel bod y goedwig ar gael i bawb, gyda llawer o fannau picnic a barbeciw ar hyd y ffordd i bobl gael seibiant a mwynhau’r olygfa. Mae mannau eistedd diarffordd wedi’u hymgorffori ar gyfer y rhai sy’n chwilio am ennyd o lonyddwch, ynghyd â chaban pren â golygfeydd panoramig sy’n creu cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored ac ymgymryd â gweithgareddau iechyd a lles.

I ymwelwyr iau, mae tri lle chwarae wedi’u cynllunio a fydd yn ymgorffori llwybrau a dodrefn chwarae hygyrch, yn ogystal â cherfluniau coetir a thwneli i’r synhwyrau. Bydd arwyddion yn egluro popeth am hanes y goedwig, ei threftadaeth, a’i bywyd gwyllt, gan roi cyfle i bobl ddysgu rhagor am y goedwig y maent yn ei charu.

Mae’r cynlluniau wedi’u datblygu â mewnbwn gan y gymuned ac ymwelwyr rheolaidd, a gyflwynodd awgrymiadau mewn sesiynau galw heibio dros yr haf ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei weld yn y goedwig.

Daw’r garreg filltir wrth i CNC roi’r wedd derfynol ar y paratoadau ar gyfer ailagor Rhodfa’r Goedwig yr blwyddyn nesaf, wedi iddi gau i’r cyhoedd yn 2014 tra bo 150,000 o goed llarwydd heintiedig yn cael eu tynnu o’r safle.

Y mis diwethaf, cafodd y coed llarwydd olaf eu cwympo ar y safle. Ac yn dilyn gwaith i adfer llwybrau beicio mynydd, cafodd llwybr Cafall ei ailagor, gan olygu bod pob llwybr ar agor i feicwyr.

Yn y flwyddyn newydd, bydd gwaith yn cychwyn hefyd i osod wyneb newydd ar y rhodfa, sydd wedi’i difrodi gan lorïau’n cludo’r coed o’r safle.

Dywedodd Geminie Drinkwater, Rheolwr Prosiect i Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Diolch i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra buom yn gwneud y gwaith anodd a chymhleth hwn o gael gwared ar nifer mor fawr o goed heintiedig o goedwig boblogaidd sy’n agos at galon llawer.
“Bu disgwyl mawr am ailagor Rhodfa’r Goedwig, ac rydym wrth ein bodd o fod yn paratoi ar gyfer ei hailagor, a gwella’r safle fel y gall pobl leol ac ymwelwyr barhau i’w fwynhau am flynyddoedd lawer.
“Gobeithiwn y bydd y goedwig yn cynnig rhywbeth i bawb – llwybrau beicio mynydd gwefreiddiol, mannau tawel ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar a lles, a llwybrau addysgol lle y gall anturwyr bychain ddysgu rhagor am y goedwig a’i chreaduriaid.”

Mae tua hanner y coed sydd i’w hailstocio wedi’u plannu eisoes – sef ardal tua’r un maint â 100 cae rygbi – ond yn anffodus cafodd llawer o’r rhain eu difrodi yn y tanau a gafwyd yn ystod haf 2018. Mae’r ymdrechion i ailblannu yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal ag mewn ardaloedd lle y cafodd coed eu cwympo’n ddiweddarach, yn parhau.

Mae CNC yn plannu cymysgedd o gonwydd ifanc a choed llydanddail brodorol. Dylai hyn olygu bod y goedwig yn gwrthsefyll plâu a chlefydau yn well yn y dyfodol.

Nododd Geminie yn ogystal:

“Mae clefyd y llarwydd wedi cael effaith ysgytwol ar ein coedwigaeth ledled Cymru, a does yr unman lle mae hynny’n fwy amlwg na Chwmcarn.
“Bu’n drist iawn gweld y llarwydd yn mynd, ond rydym yn hyderus y gallwn wneud Cwmcarn yn gyrchfan wych unwaith eto i ymwelwyr, ac yn elfen bwysig o’r economi leol.”