Rhagweld rhagor o law trwm yng Nghymru

Rhagweld rhagor o law trwm yng Nghymru


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn barod a chadw golwg ar rybuddion llifogydd oherwydd rhagwelir y bydd rhagor o law trwm yng Nghymru heno a fory (10 Mawrth).
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ambr ynghylch glaw trwm.


Gan fod lefelau afonydd yn dal yn uchel a’r tir yn orlawn o ddŵr yn dilyn y stormydd diweddar, mae CNC yn disgwyl cyhoeddi rhybuddion llifogydd i helpu pobl i baratoi.

Disgwylir y gwaethaf o’r glaw dros y Canolbarth, gan effeithio ar Geredigion a Phowys yn arbennig.

Mae’r rhagolygon presennol hefyd yn dangos y gallai gwyntoedd cryf achosi i donnau mawr daro ardaloedd ar yr arfordir.

Mae timau CNC wrthi’n paratoi eisoes, gan wirio bod amddiffynfeydd mewn cyflwr gweithredol da, a sicrhau bod sgriniau a gridiau draenio yn glir, er mwyn lleihau’r perygl i bobl a’u cartrefi.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau i CNC:

“Mae ein timau’n cadw golwg fanwl ar ragolygon y tywydd a’r effaith ar lefelau afonydd.

“Os bydd afonydd yn cyrraedd y lefelau sbarduno, byddwn yn anfon rhybuddion llifogydd at bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth mewn ardaloedd sydd mewn perygl.
“Gan fod y tir yn dal yn orlawn o ddŵr, mae’n bosibl y bydd llifogydd ar ffyrdd ledled Cymru, wrth i ddŵr lifo oddi ar y caeau dyfrlawn.

“Ein cyngor i bobl yw y dylent fod yn ofalus wrth deithio a pheidio byth â cherdded neu yrru drwy lifddwr.”

Caiff rhybuddion llifogydd eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud. Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline: 0345 988 1188.

Gall pobl hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd di-dâl naill ai drwy ffonio rhif Floodline neu ar wefan CNC: https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy