Is-ddeddfau pysgota newydd yn dod i rym ar Afonydd Gwy ac Wysg

Man fly-fishing in a river

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyflwyno cyfyngiadau ar bysgota eogiaid a brithyllod y môr (sewin) yn Afon Gwy (yng Nghymru) ac Afon Wysg mewn ymateb i’r gostyngiad yn stociau pysgod ymfudol.

Cafodd is-ddeddfau newydd eu cadarnhau gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, yn dilyn cyfnod o ymgynghori.

Mae’r is-ddeddfau’n rhan o ymrwymiadau CNC i adfer stociau eogiaid a brithyllod môr Cymru, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Eogiaid a Brithyllod y Môr.

Mae cyflwyno is-ddeddfau yn ymateb i’r gostyngiad parhaus yn stociau eogiaid ymfudol. Mae'r niferoedd ar hyn o bryd ymhlith yr isaf a gofnodwyd erioed ac yn is na lefelau cynaliadwy.

Bydd yr is-ddeddfau newydd ar gyfer pysgota gwialen yn afonydd Gwy ac Wysg yn gofyn am ddal a rhyddhau pob eog gaiff ei ddal, yn ogystal â darparu mwy o warchodaeth i frithyllod y môr.

Daeth yr is-ddeddfau presennol sy'n gorchymyn dal a rhyddhau ar Afonydd Gwy ac Wysg i ben ym mis Rhagfyr ac mae is-ddeddfau newydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod stociau'n parhau i gael eu gwarchod.

Bu CNC yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i gyflwyno’r un amddiffyniadau ar gyfer eogiaid a sewin yn Afon Gwy yn Lloegr, gan gadw at ddull gweithredu dalgylch cyson yn achos yr afon drawsffiniol.

Daw’r is-ddeddfau i rym 1 Mawrth 2022 a byddant mewn grym tan 31 Rhagfyr, 2029, i gyd-fynd â diwedd is-ddeddfau ‘Cymru Gyfan’ ac ‘Afonydd Trawsffiniol’.

Mae'r is-ddeddfau yn gofyn am:

Afon Gwy

  • Dal a rhyddhau gorfodol pob eog a sewin
  • Dyddiad diweddu diwygiedig ar gyfer tymor yr eog fel ei fod yn rhedeg o 3 Mawrth i 17 Hydref yn achos yr afon gyfan a'r llednentydd

Afon Wysg

  • Pysgota ‘dal a ryddhau’ pob eog yn orfodol
  • Dal a rhyddhau pob sewin a ddaliwyd cyn 1 Mai yn orfodol

Dim ond rhan yw’r is-ddeddfau hyn o’r gwaith y mae CNC, buddiannau pysgodfeydd a sefydliadau partner yn ei wneud ar draws Cymru gyfan er mwyn gefnogi adferiad a chynaliadwyedd hirdymor stociau a physgodfeydd eogiaid a sewin yn y dyfodol.

Mae'r ddau yn rhywogaethau eiconig sydd angen cynefin afon da a dŵr oer, glân i ffynnu. Maent yn dangos i gymdeithas ansawdd amgylcheddol ein hafonydd, gan    ddarparu ar yr un pryd gyfleoedd pwysig ar gyfer hamdden iach a gwerthfawr.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Er bod yr is-ddeddfau hyn yn bwysig i leihau ecsbloetio, dim ond un o’r camau niferus rydym yn eu cymryd ydyn nhw er mwyn diogelu ac adfer stociau eogiaid a sewin yng Nghymru.
“Oddi mewn i’r ‘Cynllun Gweithredu Eogiaid a Brithyllod Môr’ rydym wedi nodi camau gweithredu parhaus, newydd ac angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau sy’n effeithio ar ein poblogaethau pysgod; o fynd i'r afael â chyfyngiadau ffisegol ar gynefinoedd a diogelu ansawdd a mesur dŵr yn ein hamgylchedd dŵr croyw i ddeall pwysau morol ynghyd â phwysau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg e.e. newid yn yr hinsawdd.
“Yn ddiweddar hefyd rydym wedi lansio’r Prosiect Afonydd ACA sy’n canolbwyntio ar lygredd ffosffad ac mae’n cynnwys Afonydd Wysg a Gwy; a’r prosiect Pedair Afon LIFE – prosiect cydweithredol 5 mlynedd, gwerth £9.1m a fydd yn cyflawni amrywiaeth o fesurau er mwyn mynd i’r afael â llygredd gwasgaredig yn ogystal â gwella ansawdd cynefinoedd yn afonydd Wysg, Tywi, Teifi ac Afon Cleddau.
“Mae eogiaid a sewin yn rhywogaethau gwerthfawr ac eiconig, ac mae’n rhaid i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i’w cadw. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a phawb sydd â rhan yn ein hamgylcheddau afon er mwyn diogelu ein pysgod a’n pysgodfeydd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.”

Yn ogystal ag is-ddeddfau Afonydd Gwy ac Wysg, mae CNC yn cyflwyno is-ddeddfau newydd er mwyn diogelu eogiaid a sewin yn Afon Hafren yng Nghymru.

Mae’r is-ddeddfau ar Afon Hafren yn gofyn am:

  • Rhyddhau gorfodol pob eog a sewin sy'n cael ei ddal â gwialen a lein,
  • Cyfyngiadau ar ddulliau pysgota genweirio er mwyn gwella'r modd y caiff eogiaid a ryddhawyd eu trin ynghyd â'u goroesiad, gan gynnwys:
    • Gwahardd unrhyw bysgota abwyd yn achos eogiaid a sewin
    • Defnydd gorfodol o fachau heb adfach
    • Cyfyngiadau ar y math o fachyn, y maint, a'u rhif

Bydd is-ddeddfau Afon Hafren mewn grym am ddeng mlynedd.