Prosiectau newydd gwerth miliynau o bunnoedd i warchod afonydd a chorsydd Cymru

Bydd dau brosiect newydd yn adfer ac yn gwella byd natur a'r amgylchedd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf - newyddion ardderchog i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur.

Bydd y prosiectau, a ariennir trwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd cyfanswm o £13.8 miliwn yn rhoi hwb sylweddol i heriau cadwraethol dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd mwy na naw miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i wella cyflwr pedair afon - y Teifi, y Cleddau, y Tywi a’r Wysg - 500km o’n hafonydd.

Bydd ychydig dros £4.5 miliwn yn gwarchod corsydd crynedig - sy’n cael eu henw oherwydd y ffordd mae'r mawndir yn crynu, yn llythrennol, o dan eich traed! Y mwyaf o'r corsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru yw Cors Crymlyn, ar gyrion Abertawe.

Bydd ardaloedd eraill o gorsydd crynedig hefyd yn cael eu gwella, gan gynnwys yn Nhyddewi, Sir Benfro ac ym Mhen Llŷn. Mae angen gofal dwys ar bob un ohonynt oherwydd difrod a wnaed yn y gorffennol o ganlyniad i ddraenio, llygredd neu esgeulustod. Ond mae rhywogaethau prin iawn yn llechu yno o hyd - gan gynnwys pry cop mwyaf Prydain sef corryn arnofiol y gors galchog yng Nghrymlyn a glöyn byw brith y gors yn Sir Benfro a Gwynedd.

Yr allwedd i lwyddiant fydd gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, cymunedau a phartneriaid eraill.

Meddai Nick Thomas, Rheolwr Prosiectau LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod ein hafonydd a’n corsydd mewn cyflwr da fel eu bod yn gallu cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt.
“Trwy edrych ar ôl natur, rydan ni’n gofalu amdanom ein hunain hefyd, gan ein bod i gyd yn dibynnu ar afonydd glân ac amgylchedd naturiol iach. Ac mae gwlyptir sy’n cael ei reoli’n dda yn helpu i storio carbon, gan gyfrannu at frwydr Cymru yn erbyn newid hinsawdd.”

Bydd Prosiect Pedair Afon yn:

  • Gwella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol - yn arbennig yr eogiaid, llysywod pendoll y môr a'r afon, pennau lletwad a herlod. Disgwylir i ddyfrgwn a misglod perlog dŵr croyw elwa hefyd;
  • Adfer rhannau o afonydd sydd wedi’u sythu yn y gorffennol, fel eu bod yn ymdroelli unwaith eto - newyddion rhagorol i fywyd gwyllt. Ond bydd pobl yn cael budd o hyn hefyd oherwydd bydd arafu'r llif yn lleihau’r risg o lifogydd i gymunedau islaw yn y dyffryn;
  • Gweithio gyda ffermwyr i amddiffyn coridorau afonydd a sicrhau fod llai o waddodion a maetholion yn mynd i mewn i afonydd. Bydd hyn hefyd yn diogelu cyflenwadau dŵr yfed.

Bydd prosiect Corsydd Crynedig yn adfer saith Ardal Cadwraeth Arbennig – gyda phedwar o’r rhain yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, trwy:

  • Sicrhau bod lefel y dŵr yn addas ar gyfer corsydd crynedig er mwyn iddyn nhw gynnal eu planhigion a’u creaduriaid arbenigol
  • Rheoli prysgwydd a rhywogaethau goresgynnol estron sy’n gallu mygu'r cynefin naturiol;
  • Ailgyflwyno pori traddodiadol;
  • Gwella mynediad fel y gall mwy o bobl fwynhau natur ar ei gorau.

Ychwanegodd Nick Thomas: “Byddwn yn cychwyn y gwaith yn gynnar yn 2022, er mwyn gweld gwelliannau amgylcheddol go iawn dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd cyfleoedd gwaith cyffrous yn cael eu hysbysebu dros yr wythnosau nesaf i roi’r prosiectau ar waith, felly cadwch eich llygaid ar agor os ydych chi am ymuno â’n tîm a helpu i fynd i’r afael ag Argyfwng Natur Cymru.
“Mae hi’n fwy pwysig nag erioed fod gennym ni amgylchedd egnïol, cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Bydd Prosiect Pedair Afon yn cael ei redeg gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr a Coed Cadw, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Dŵr Cymru.

Partneriaid CNC ar brosiect Corsydd Crynedig yw’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro.