CNC yn codi i’r entrychion i gofnodi Cymru 3D

Bydd prosiect a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Llywodraeth Cymru yn hedfan fry uchwben i greu map 3D o Gymru gyfan mewn manylder.

Gan ddefnyddio LiDAR (Light Detection and Ranging) bydd y cwmni tirfesur o’r awyr, Bluesky International Ltd, yn cofnodi pob twll a chornel o dirwedd Cymru.                            

Lansiwyd y prosiect yn ystod y gaeaf diwethaf, ond bydd y rhan fwyaf o’r gwaith tirfesur yn dechrau’r wythnos hon (1/12/2020). Dim ond yn ystod y gaeaf y gellir cofnodi’r delweddau, tra bydd coed heb eu dail.                                    

Gan ddefnyddio awyren Cessna 404, mae tua 50 o deithiau hedfan wedi’u trefnu dros y ddau aeaf nesaf. Bydd y teithiau, a’u llwybrau, yn dibynnu ar y tywydd.                  

Nod CNC yw casglu’r holl ddata erbyn diwedd gaeaf 2022, os bydd yr amodau’n ffafriol.                                  

Bydd yr wybodaeth yn eiddo wedyn i Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei gwneud ar gael yn gyhoeddus. Bydd yn adnodd gwerthfawr i gynllunwyr, tirfeddianwyr, cadwraethwyr, coedwigwyr, datblygwyr, peirianwyr, athrawon, academyddion a llawer mwy.      

Dywedodd Paul Isaac, Rheolwr y Prosiect: “Yn hanesyddol, mae data LiDAR wedi’i gasglu dros Gymru ar adegau amrywiol o’r 1990au ymlaen.                      
“Casglwyd y setiau data am wahanol resymau, sy’n golygu bod data tameidiog yn bodoli sy’n anghyson o ran technoleg, cwmpas ac eglurder.
“Mae llawer o’r ardaloedd mynyddig, uchel heb eu cofnodi o gwbl, a chynefinoedd ac ecosystemau allweddol heb eu mapio o hyd.                                  
“Bydd y set ddata newydd, gyflawn hon yn ein helpu i reoli risg llifogydd, ymateb i newid yn yr hinsawdd, rheoli adnoddau naturiol a defnydd tir, mapio cynefinoedd a diogelu bioamrywiaeth, datblygu seilwaith, monitro llygredd a chynhyrchu pŵer.”

Mae LiDAR yn golygu canfod a sganio â golau (light detecting and ranging), sy’n cyfeirio at y dechnoleg synhwyro o bell a ddefnyddir – gan allyrru pelydrau o olau a mesur yr amser y mae’n ei gymryd i’r synhwyrydd ddarganfod yr adlewyrchiadau.                  

Yn y tymor hir, y nod yw ailadrodd y broses casglu data bob hyn a hyn i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael bob amser i fonitro newidiadau, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.