CNC yn ymchwilio i lygredd gwaddod yn Afon Drywi

Gwaddod trwchus yn mynd i mewn i'r Afon Drywi ac yn llifo ochr yn ochr â dŵr clir o fyny'r afon

Mae swyddogion Tîm Amgylchedd o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddigwyddiad llygredd gwaddod parhaus yn yr Afon Drywi yn Llwyncelyn, ger Aberaeron.

Er bod yr ymchwiliad wedi dod o hyd i bwynt mynediad y sylwedd i'r afon, mae swyddogion yn dal i ymchwilio i darddiad y deunydd. Credir bod y digwyddiad parhaus wedi dechrau o leiaf bythefnos cyn iddo gael ei adrodd i CNC am y tro cyntaf ar 16 Ebrill 2021.

Mae'r sylwedd wedi troi dyfroedd clir arferol y Drywi yn un â dŵr chwyrliog llwyd trwchus.

Mae swyddogion wedi bod ar y safle yn rheolaidd dros y pythefnos ers i'r digwyddiad gael ei adrodd. Mae'r ymchwiliadau, gan gynnwys dadansoddi samplau, wedi gallu diystyru ffynonellau tebygol y llygredd.

Er nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod y sylwedd yn niweidiol i iechyd pobl, cynghorir pobl i beidio â mynd i mewn i'r dŵr nes bod dadansoddiad pellach wedi'i wneud.

Er nad oes pysgod marw na thrallodus wedi'u gweld yn yr afon, credir ei fod yn anochel y bydd y gwaddod trwchus yn y dŵr ac sy’n leinio glannau'r afon wedi effeithio ar fioamrywiaeth yr afon.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion CNC,
"Rydym yn aros am ddadansoddiad pellach o'r samplau o'r afon a bydd hyn yn helpu i nodi ffynhonnell y gwaddod.
"Mae ein swyddogion wedi bod ar y safle'n rheolaidd, wedi siarad â thirfeddianwyr lleol ac wedi ymchwilio ardal Derwen Gam. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio gwybodaeth lloeren i lywio'r ymchwiliad.
"Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny. Os oes gan unrhyw un wybodaeth berthnasol am y digwyddiad neu os oes ganddynt bryderon, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000."