CNC yn ymuno â grŵp amlasiantaeth i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog sefydliadau'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector i ymuno â grŵp gweithredu sy'n bwriadu mynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru.

Bydd Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn uno sefydliadau o'r un anian i ddiogelu ecosystemau a bioamrywiaeth drwy fynd i'r afael ag effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar amgylchedd, pobl ac economi Cymru.

Mae mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol yn costio dros £125M y flwyddyn i economi Cymru, gall niweidio cynefinoedd bregus, niweidio iechyd pobl, difrodi eiddo personol ac achosi dirywiad yn ein rhywogaethau cynhenid ein hunain fel y wiwer goch.

Mae CNC yn gofyn i sefydliadau ymuno â'r rhwydwaith a chyflwyno eu syniadau, eu gwybodaeth a'u harferion gorau fel y gellir sefydlu dull cyson, cydlynol ac effeithiol o ymdrin â'r broblem.

Gyda'i gilydd, bydd y sefydliadau hyn yn cyfrannu at ddatblygu cynllun cydlynol ar gyfer Cymru gyfan er mwyn delio â rhywogaethau estron goresgynnol; byddant yn creu pecyn cymorth i randdeiliaid ar sut i wneud hyn ac yn ystyried cyfleoedd ariannu a fydd yn galluogi camau gweithredu i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol a diogelu ecosystemau bregus Cymru.

Mae'r grŵp eisoes yn cael ei gefnogi gan CNC, Dŵr Cymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr.

Dywedodd Jennie Jones, cynghorydd arbenigol CNC ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol:

"Mae gan ardaloedd yng Nghymru rai o'r lefelau uchaf o fioamrywiaeth yn y DU ac maen nhw o bwysigrwydd rhyngwladol, felly mae diogelu'r cynefinoedd hyn yn un o sylfeini ein gwaith.
"Bydd WaREN yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd wedi delio â rhywogaethau estron goresgynnol yn uniongyrchol, a bydd yn cyfuno eu harbenigedd fel y gallwn ni greu dull effeithiol o reoli ac atal y difrod maen nhw’n ei achosi.
"Mae gennym nifer o sefydliadau profiadol iawn eisoes ac rydyn ni'n gobeithio y bydd llawer mwy yn ymuno i helpu i warchod ecosystemau unigryw Cymru ar gyfer heddiw a’r dyfodol."

Gall sefydliadau sy'n dymuno ymuno â WaREN gael rhagor o wybodaeth yma.