Tasglu a arweinir gan CNC i gyflymu adferiad gwyrdd yng Nghymru

Bydd adferiad gwirioneddol wyrdd o bandemig y coronafeirws yn allweddol i gyflymu'r broses o newid Cymru i economi carbon isel a chenedl iachach, fwy cyfartal.

Dyna'r alwad i weithredu gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Syr David Henshaw heddiw (14 Gorffennaf) wrth iddo amlinellu ei gynlluniau i hyrwyddo tasglu a fydd yn gyfrifol am roi cynlluniau hinsawdd wrth galon adferiad economaidd cynhwysol a chynaliadwy Cymru.

Wrth i'r genedl ddechrau adfer ar ôl argyfwng Covid-19, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi gofyn i Syr David arwain cynghrair o arbenigwyr i ddatblygu syniadau sy'n cysylltu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd â chreu swyddi, twf economaidd cynhwysol a theg, a blaenoriaethau datblygu eraill.

Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar ddarparu camau gweithredu ymarferol a blaenoriaethau sy'n defnyddio'r offer yn neddfwriaeth Cymru a'r arbenigedd sy’n greiddiol i’w chymunedau i lywio cynigion hirdymor sy'n canolbwyntio ar:

  • Risg allyriadau carbon a'r hinsawdd
  • Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth
  • Cysylltu pobl a natur trwy fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd

Yn ymuno â Syr David ar y panel mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, ynghyd ag uwch gynrychiolwyr busnes, sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, y sector ffermio, y trydydd sector a Llywodraeth Leol.

Gofynnir i bob un ohonyn nhw gyfrannu eu hystod eang o arbenigedd, a chasglu barn eu rhwydweithiau eu hunain, er mwyn helpu i nodi dulliau arloesol a theg sy'n diwallu anghenion cymunedau yng Nghymru, wrth gyflymu'r ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC:

"Mae pandemig y coronafeirws wedi gorfodi'r byd i oedi ac wedi caniatáu i ni fyfyrio ar y Gymru rydyn ni eisiau ei gweld wrth i ni ddod i ddiwedd un o gyfnodau mwyaf heriol ein bywydau.
"Mae angen i ni ddeall yn well pa fath o amgylchedd naturiol mae pobl Cymru eisiau ei weld yn y dyfodol drwy ofyn beth maen nhw'n ei werthfawrogi amdano, beth yw'r cyfleoedd y gall eu darparu a beth sydd angen i ni ei wneud i'w gyflawni."
"Drwy fanteisio ar yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennyn ni yn ein sector amgylcheddol, sector preifat a’r trydydd sector, gallwn ni sicrhau bod yr argyfyngau hinsawdd a natur rydyn ni’n parhau i'w hwynebu yn cael eu hymgorffori fel pileri allweddol yn natblygiad cynlluniau adfer Cymru.
"Dim ond drwy gydweithio, rhoi'r polisïau cywir ar waith a buddsoddi'n gynnar y gallwn ni weithio tuag at sicrhau economi deg, gynaliadwy, a niwtral o ran yr hinsawdd i Gymru yn y dyfodol. Rwy'n falch o fod wedi cael cais i arwain y gynghrair Cymru gyfan hanfodol hon i ar gyfer adferiad gwyrdd ac rwy'n edrych ymlaen at gychwyn y daith bwysig hon gyda'n gilydd.”

Mae datganiad Llywodraeth Cymru o Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 bellach wedi'i adleisio â dyhead cynyddol gan gyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau i chwarae mwy o ran yn y gwaith o leihau allyriadau, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a diogelu'r amgylchedd naturiol.

Wrth amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer y tasglu, dywedodd Lesley Griffiths:

"Mae'r grŵp mae Syr David yn ei gadeirio yn rhan o'r gwaith ar draws Llywodraeth Cymru i wahodd pobl ag ystod eang o safbwyntiau i helpu i lywio a herio ein cynlluniau ar gyfer adfer. Mae effaith y pandemig Covid-19 wedi amharu'n ddifrifol ar waith sefydliadau sy'n hanfodol i ddiogelu natur yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith eithriadol o bwysig a wneir gan wirfoddolwyr. Rhaid i ni nawr ailadeiladu a chryfhau ein gallu i warchod natur, a chynyddu presenoldeb byd natur yn ein cymunedau er lles ein hiechyd a'n heconomi. I wneud hyn, byddwn yn gweithredu ar draws llywodraeth a thrwy bob cymuned ym mhob rhan o Gymru, a bydd y grŵp hwn yn sbardun grymus i'r gweithredu hwnnw."

Dyma'r cynrychiolwyr a'r cyrff sy'n cymryd rhan yn y tasglu:

  • Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru
  • Peter Davies, Cadeirydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
  • Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Chris Johnes – Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
  • Lesley Jones, Prif Weithredwr, Cadwch Gymru'n Daclus
  • Yr Athro Calvin Jones, Ysgol Fusnes Caerdydd
  • Y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru Welsh Water
  • Sue Pritchard, Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yr RSA
  • Vivienne Sugar, Cadeirydd, Sefydliad Bevan
  • David Lea Wilson, Halen Môn

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol:

"Rhaid i'r adferiad gwyrdd fod yn adfywiad gwyrdd dwfn - nid adfywiad arwynebol.
"Rhaid i ni ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd tuag at adferiad gwyrdd go iawn i Gymru sy'n gweithio i natur, pobl a'r hinsawdd, er lles pawb.
"Rwy'n falch y bydd y tasglu yn canolbwyntio ar weithredu ymarferol sy'n rhoi blaenoriaeth i sicrhau manteision i'r amgylchedd a chymunedau, gan helpu i gyflymu'r hyn rydyn ni’n gwybod sy'n gweithio.
"Mae angen syniadau ysbrydoledig wrth ymateb i argyfwng COVID, fel y gallwn ddiogelu ein hunain rhag ansicrwydd argyfwng arall ar ffurf yr argyfwng hinsawdd a natur. Mae hwn yn gyfle i greu newid gwirioneddol – mae’n bryd mynd amdani."

Cyfranwch eich syniadau mawr am adferiad werdd