CNC yn annog ymbellhau cymdeithasol

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i roi’r gorau i bob teithio diangen er mwyn atal lledaeniad Coronafeirws.

Meddai Clare Pillman, llefarydd CNC

"Er ein bod yn gwybod y bydd pobl yn awyddus i dreulio amser yn yr awyr agored dros yr wythnosau nesaf, rydym yn gofyn i bobl ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda golwg ar ymbellhau cymdeithasol
Cofiwch osgoi criwiau bach a mawr o bobl mewn mannau cyhoeddus a pheidiwch â theithio yn ddiangen.
"Ein cyngor ni yw eich bod yn gofalu amdanoch eich hun a phan fo'n bosibl, ymlacio a chadw'n brysur ac yn actif drwy barhau i archwilio a mwynhau mannau lleol sy’n agos i’ch cartref."

Oni fydd pobl yn ufuddhau i’r canllawiau hyn, bydd yn rhaid i CNC gymryd camau llym i amddiffyn y cymunedau a'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru, megis cau meysydd parcio a llwybrau.

Yn y cyfnod heriol hwn bydd CNC yn canolbwyntio ei holl ymdrech, egni ac adnoddau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf er mwyn cynnal ei wasanaethau craidd.

Byddwn yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru unwaith y bydd y sefyllfa wedi gwella.