Afonydd mewn perygl yn sgil tynnu graean a newid sianelau

Mae gwaith anghyfreithlon sy'n digwydd ar gyrsiau dŵr yn parhau i gael effaith negyddol ar yr anifeiliaid, y pysgod a'r planhigion sy’n byw yn afonydd a nentydd Cymru ac o'u cwmpas.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar dirfeddianwyr i beidio â gwneud gwaith heb ganiatâd ar nentydd ac afonydd yn dilyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau am ddifrod a achosir gan dynnu graean, ailbroffilio glannau a sythu sianelau ledled Cymru.

Gall y gweithgareddau hyn ansefydlogi afonydd, gan achosi newidiadau i brosesau erydu a dyddodi a chynyddu'r perygl o lifogydd o bosib.

Mae cyrsiau dŵr iach yn elfen hanfodol o dirwedd Cymru ac maent yn gartref i lawer o rywogaethau, rhai ohonynt yn brin iawn, felly gall unrhyw aflonyddwch arwain at ganlyniadau difrifol.

Gall newid sianelau afonydd ddinistrio cynefinoedd pysgod a safleoedd nythu adar, tarfu ar rywogaethau a warchodir ac achosi lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol fel clymog Japan a Jac y Neidiwr.

Dywedodd Hilary Foster, sy’n gynghorydd arbenigol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw ar gyfer CNC:

"Mae diogelu ein hafonydd a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt yn flaenoriaeth i ni.
"Rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau am ddifrod i afonydd a achosir gan dynnu graean, ailbroffilio glannau a sythu sianelau ac rydym yn bwrw ymlaen â chamau gorfodi ar yr achosion hynny.
"Bydd unrhyw waith sy'n cael ei wneud ar afon neu nant yn effeithio ar nodweddion y sianel i fyny ac i lawr yr afon, a gall newidiadau i sianelau afonydd a wneir gan un tirfeddiannwr achosi problemau dros bellteroedd sylweddol i'w gymdogion.
"Dylid cyfyngu newidiadau i gyrsiau dŵr i sefyllfaoedd lle mae cyfiawnhad clir fel lliniaru'r perygl o lifogydd i adeiladau cyfagos. Byddwch hefyd angen trwydded neu ganiatâd gan CNC neu'r Awdurdod Lleol yn y rhan fwyaf o achosion."

Mae Cymru wedi colli mwy na 50% o'i basleoedd graean hanfodol bwysig mewn afonydd dros y ganrif ddiwethaf.

Mae basleoedd graean yn cefnogi mwy na 500 o rywogaethau o infertebratau, a dim ond yn y cynefinoedd hyn y ceir hanner ohonynt. Hefyd, mae graean afonydd yn hanfodol ar gyfer pysgod ac yn nodwedd allweddol o ecosystem afon iach.

Ychwanegodd Hilary:

"Os ydych yn ystyried gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr dylech gysylltu â CNC am gyngor. Byddwn yn darparu gwybodaeth am unrhyw ganiatâd a mesurau angenrheidiol i osgoi niwed amgylcheddol.
"Os nad ydych yn ymgynghori â CNC cyn gwneud gwaith ar afon neu nant, rydych yn mentro cyflawni trosedd. Gall mesurau gorfodi gynnwys y gofyniad i adfer y cynefin a ddifrodwyd".

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch CNC ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk. Os ydych chi'n gweld neu'n amau bod rhywun yn gweithio mewn afon yn anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.