Slyri yn llygru 4km o afon yn Nghanolbarth Cymru

Pysgod marw ar lan afon Peris ar ôl llygredd

Mae slyri sydd wedi llifo i Afon Peris yng nghanolbarth Cymru wedi llygru o leiaf 4km o'r afon, cadarnhaodd arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw.

Mae effaith y llygredd ar yr afon, sy'n llifo trwy bentref arfordirol Llanon, wedi ei waethygu gan lefelau afonydd isel yn dilyn cyfnod o dywydd sych.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Cawsom alwadau ar ddydd Iau gan aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi sylwi ar lygredd a physgod marw yn afon Peris.
"Roedd swyddogion CNC yn bresennol ac yn gallu nodi ffynhonnell y llygredd i fferm
“Fe wnaethant weithio gyda'r ffermwr i roi mesurau brys ar waith i atal llygredd pellach rhag cael ei ryddhau.
"Bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau bod y datrysiad tymor byr yn effeithiol ac y bydd yn trafod mesurau mwy hirdymor i atal digwyddiad o'r fath rhag digwydd eto.
"Byddwn yn parhau i asesu effaith y llygredd ar yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt, ond gallai fod rhywfaint o slyri yn yr afon a fydd yn cymryd amser i weithio'i ffordd drwy'r system.
"Mae'r fferm dan sylw yn cydweithio â ni wrth i ni ymchwilio i'r rheswm pam y digwyddodd hyn.
"Pan fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau, byddwn yn penderfynu pa gamau pellach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys unrhyw gamau gorfodi."

Mae swyddogion CNC yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion - sydd wedi cau'r traeth yn Llanon ar gyfer mynediad cyhoeddus - i gyfyngu effaith y llygredd ar gymunedau lleol.

Gall pobl adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol i llinell gymorth 24 awr Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.