Ymweld â Gogledd Ceredigion yn gyfrifol yr haf hwn

Plant yn defnyddio binocwlars ger llyn

Gofynnir i rai sy’n ymweld ag ardal y llynoedd a rhaeadrau yng ngogledd Ceredigion ddiogelu a pharchu’r amgylchedd yr haf hwn drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a helpu i fynd i’r afael â thaflu sbwriel a gwersylla anghyfreithlon.

Gan fod mwy o bobl wedi bod yn ymweld ag ardaloedd yn nes at adref yn ystod cyfnodau clo Covid-19, mae parciau cenedlaethol, coedwigoedd a gwarchodfeydd Cymru wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel gwersylla ar dir heb ganiatâd y tirfeddianwr, sy’n arwain at ddifrod amgylcheddol.

Mae gwersylla anghyfreithlon yn gallu arwain at gorlenwi, pryderon iechyd y cyhoedd a chynnydd yn y tebygolrwydd o danau gwyllt.

Wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) baratoi i groesawu mwy o ymwelwyr i'w goetiroedd a'i Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yr haf hwn, mae'r corff amgylcheddol yn galw ar bobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac i ystyried sut y gallant wneud eu rhan i leihau'r pwysau ar fannau agored a thirweddau.

Dywedodd Glyn Fletcher,Uwch Swyddog Tîm Rheoli Tir CNC:
“Mae’r ardal y llynoedd a’r rhaeadrau yn ngogledd Ceredigion le gwych i bobl ymlacio a mwynhau. Ond mae’n rhaid inni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a chyfrifoldebau pob un ohonom i ddiogelu natur ac i barchu cymunedau lleol.
“Rydym yn awyddus i wneud popeth a allwn i sicrhau fod pobl yn gallu ymweld â’n safleoedd yn ddiogel, ac mae hyn yn cynnwys annog pobl i gynllunio ymlaen llaw a gwneud cynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y gyrchfan wreiddiol yn rhy brysur ar ôl iddynt gyrraedd yno, eu hannog i fynd â’u sbwriel adref a pharcio yn ystyriol i gadw llwybrau mynediad brys yn glir.
“Mae’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n ymweld â’n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth inni agosáu at gyfnod prysura’r flwyddyn.”

Mae’r cyfnod diweddar o dywydd poeth a sych wedi arwain at cynydd ym mhoblogrwydd nofio yn y Gwyllt. Mae CNC yn annog pobl ond i nofio ble mae ganddynt yr hawl i wneud hynny, a’u bod yn dilyn y Cod Nofio yn y Gwyllt.

Parhaodd Glyn:
“Gall gwybod sut i ddelio â dŵr agored oer sy'n symud yn gyflym achub eich bywyd, p'un a ydych yn bwriadu mynd i mewn i'r dŵr neu’n disgyn i ddŵr ar ddamwain. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r Cod Nofio yn y Gwyllt cyn mynd mewn i ddyfroedd mewndirol.”

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad llwyddiannus, mae CNC yn annog pobl i wneud y canlynol:

  • Cynllunio ymlaen llaw – darllenwch we-dudalen y coetir neu’r warchodfa cyn cychwyn
  • Osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gofalwch fod gennych gynllun wrth gefn rhag ofn y bydd eich cyrchfan wreiddiol yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd yno
  • Parcio yn gyfrifol - parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd neu rwystro llwybrau mynediad brys. Cofiwch na chaniateir parcio dros nos ym meysydd parcio CNC
  • Dilyn y canllawiau – ufuddhewch i arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel
  • Mynd â’ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad
  • Dilyn Y Cod Cefn Gwlad – cadwch at y llwybrau, gadewch giatiau fel yr oeddent, a chadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw ci, peidiwch â chynnau tân

Gellir gweld y Cod Cefn Gwlad ar wefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/codcefngwlad

Ceir rhagor o fanylion ar gyfer cynllunio ymweliad â choetiroedd a gwarchodfeydd CNC yn adran ‘Ar grwydr’ gwefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/argrwydr