Diweddariadau Map Llifogydd Cymru’n mynd yn fyw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio diweddariad i’w wasanaeth mapio llifogydd ar-lein sy’n bwriadu dod â data llifogydd perthnasol a chywir i bobl Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio diweddariad i’w wasanaeth mapio llifogydd ar-lein sy’n bwriadu dod â data llifogydd perthnasol a chywir i bobl Cymru.

Bellach, gellir defnyddio’r data newydd, a gasglwyd rhwng 2017 a 2019, i gynllunio ar gyfer digwyddiadau llifogydd a datblygu cynlluniau rheoli llifogydd ledled y wlad.

Mae’r offeryn mapio llifogydd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth eisoes gan y diwydiant yswiriant, awdurdodau rheoli risg, Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd i helpu i ddiogelu dros 240,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru, sef 1 o bob 8 yn y wlad.

Y tro diwethaf i ddiweddariad fel hyn ddigwydd oedd yn 2013, ond wrth i newidiadau naturiol a newidiadau drwy law dyn effeithio ar sut y mae amgylchedd Cymru’n ymateb i dywydd eithafol, mae angen gwybodaeth fwy diweddar er mwyn cadw’r map yn gywir.

Mae’r map yn ystyried y perygl llifogydd o afonydd, dŵr wyneb, y môr a dyfrffyrdd llai o faint er mwyn categoreiddio lleoliadau yn ôl ardaloedd risg uchel, canolig ac isel. Mae hefyd yn dangos gwybodaeth ychwanegol, fel lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd a’r manteision lleol a ddaw yn eu sgil.

Gellir defnyddio’r data hwn wedyn i ragweld effeithlonrwydd costau cynlluniau atal llifogydd, rhagweld sut y gall newid hinsawdd a thwf mewn poblogaeth effeithio ar debygolrwydd llifogydd ac archwilio senarios posibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau tywydd eithafol.

Yn ôl Mark Pugh, prif ymgynghorydd dadansoddi perygl llifogydd CNC:
“Gall llifogydd ddistrywio cymunedau, a dyna pam mae gennym sawl adnodd ar gael i helpu i rybuddio pobl a busnesau Cymru, a rhoi gwybod iddyn nhw pan fydd perygl llifogydd.
“Mae ein map perygl llifogydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd i benderfynu faint o berygl sydd o lifogydd, i ddatblygu cynlluniau rheoli llifogydd ac i helpu i benderfynu ar nifer o faterion eraill y gall llifogydd effeithio arnynt.
“Bydd y diweddariad newydd hwn yn gwneud yr adnodd amhrisiadwy hwn hyd yn oed yn fwy cywir, gan olygu fod modd gwarchod ardaloedd ledled Cymru’n well yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol.”

Mae'r diweddariad yn cyd-fynd â lansio Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, sef fframwaith ynglŷn â sut y mae'n bwriadu rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru dros y degawd nesaf.

Gan groesawu'r strategaeth, dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn gam mawr ymlaen o ran rheoli perygl llifogydd yn ein hinsawdd sy'n newid yn barhaus.
"Mae'r llifogydd dinistriol a gafwyd ledled Cymru ym mis Chwefror eleni, a’r cyfnodau estynedig wedyn o dywydd sych dros y gwanwyn a'r haf, yn dangos yr heriau eithafol ac annisgwyl sy'n ein hwynebu.
"Fel y gallwn fynd ati’n gywir i reoli’r perygl llifogydd a achosir gan yr hinsawdd newidiol hon, bydd angen inni feddwl yn eang er mwyn bod ar y blaen, a defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni.  Mae buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn hollbwysig ond ni fydd hynny ohono’i hun yn mynd i'r afael â heriau argyfwng yr hinsawdd.
"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid i weithredu a bwrw ymlaen â’r fframwaith polisi o fewn y strategaeth hon, a hynny’n rhan o'n huchelgais ar y cyd i sicrhau bod Cymru'n gwrthsefyll llifogydd yn well yn y dyfodol."

Gellir gweld y data a gynhwysir yn y diweddariad ar wefan CNC ac mae ar gael ar wefan Lle Llywodraeth Cymru, er mwyn i sefydliadau eraill allu defnyddio’r wybodaeth fwyaf cyfredol hefyd, wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Bydd diweddaru’r map llifogydd yn brosiect parhaus sy’n gwella gydag amser o ganlyniad i adborth gan ddefnyddwyr. Bydd CNC yn annog defnyddwyr i lenwi arolwg byr ar ei wefan, a fydd yn rhoi mewnbwn i’r modd y bydd y gwasanaeth yn datblygu a gwella.