Cwmni Dŵr yn cael dirwy o £40,000 mewn erlyniad gan CNC ar ôl i 500 o bysgod gael eu lladd

Mae gweithredwr gwaith trin dŵr yn Abertawe wedi cael dirwy o £40,000 yn Llys Ynadon Abertawe ar ôl i wastraff cemegol ladd dros 500 o bysgod.

Digwyddodd y digwyddiad yng ngwaith trin dŵr Felindre Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW), sydd wedi ei leoli tu allan i Abertawe, yng Ngorffennaf 2018.

Felindre yw un o’r gweithiau trin dŵr mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu dŵr ar gyfer bron i 400,000 o gwsmeriaid yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Digwyddodd y llygriad pan arllwysodd slyri calch a oedd yn cael ei drosglwyddo i’r draen dŵr wyneb oedd yn arwain i Afon Lliw.

Mewn archwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), daeth swyddogion o hyd i bysgod marw yn cynnwys brithyllod, llysywod pendoll, pennau lletwad ac infertebratau gan gynnwys 200 berdys dŵr croyw, clêr Mai a phryfed pric.

Roedd cyfanswm o dri chwarter milltir (1.2 kilometr) o’r afon wedi ei effeithio.

Disgwylir y bydd yn cymryd rhwng tair a phedair blynedd i boblogaethau pysgod yn yr afon gael eu hadfer.

Cyfaddefodd DCWW iddo achosi’r llygriad mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Abertawe.

Dywedodd Chris Palmer, uwch swyddog cyfarwyddeb fframwaith dŵr ar gyfer CNC:

“Mae ein hafonydd yn bwysig i’n bywyd gwyllt, ein heconomi, ein hiechyd a’n lles ac rydym wedi ymrwymo i osgoi digwyddiadau llygru beth bynnag fo’u tarddiad.
“Er gwaethaf ymdrechion DCWW i atal y gollyngiad, aeth cryn dipyn o lygredd i’r afon, a chafodd effaith sylweddol ar bysgod a bywyd gwyllt arall.  Bydd yn cymryd blynyddoedd i’w adfer.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r cwmni er mwyn lleihau’r perygl y bydd hyn yn digwydd eto, a gwella ei berfformiad amgylcheddol er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau llygru yn y dyfodol.”

Yn ogystal, gorchmynnwyd y cwmni i dalu costau o £8,980.99 a gordal dioddefwr o £170.