Tro ar fyd: cynlluniau cyffrous ar gyfer llwybr beicio mynydd newydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau’r gwaith o adeiladu llwybr beicio mynydd newydd ger canolfan ymwelwyr yn y Canolbarth sydd wedi ennill gwobrau.

Mae Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, yn denu tua 140,000 o ymwelwyr y flwyddyn sy’n dod i fwynhau amryw o lwybrau ar gyfer cerdded, beicio mynydd, rhedeg, cyfeiriannu, a marchogaeth.

Ond y llwybr 9 cilomedr newydd hwn yw’r un cyntaf o’i fath yn yr ardal oherwydd ei fod wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer dechreuwyr sydd am roi cynnig ar feicio mynydd.

Dywedodd Sarah Parry, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian:

“Rydym yn falch o ofalu am safle mor arbennig lle y gall pobl gadw’n heini, ddod yn iachach, a mwynhau’r awyr agored.
“Mae’r llwybr newydd ‘Gradd Glas’ hwn wedi’i ddylunio ar gyfer beicwyr o bob oed sydd â sgiliau sylfaenol, gan olygu ei fod yn gam gwych cyn mynd i’r afael â rhai o’r llwybrau mwy, a mwy heriol, sydd gennym yma, os ydynt yn dymuno.
“Rydym yn gobeithio y bydd y llwybr wedi’i orffen erbyn diwedd mis Awst, ond yn amlwg bydd hynny’n dibynnu ar y tywydd.
“Bydd y llwybr gwych hwn yn ychwanegu at yr holl gyfleusterau eraill yr ydym yn eu darparu yn y lleoliad trawiadol hwn, gan ddenu beicwyr newydd a chefnogi’r economi leol.”

Bydd y llwybr yn cynnwys rhai nodweddion technegol fel mannau neidio bach, troadau ar lethrau serth, a ‘stepiau’ bach am i lawr.

Dyma’r cyfleuster diweddaraf ymhlith yr amrywiaeth eang o gyfleusterau sydd gyda’r gorau yn y byd y mae CNC yn eu darparu i feicwyr mynydd ym mhob rhan o Gymru.

Nododd Sarah yn ogystal:

“Gall rhai llwybrau fod wedi’u cau neu gael eu dargyfeirio tra bo’r llwybr newydd yn cael ei adeiladu – bydd arwyddion yn tynnu sylw at yr achosion hyn a byddant yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan.
“Gofynnwn i’n holl ymwelwyr ddilyn yr arwyddion hyn, nid yn unig am resymau diogelwch, ond er mwyn sicrhau y gall ein contractwyr gwblhau’r gwaith ar amser.”

Mae Bwlch Nant yr Arian yn lle gwych hefyd ar gyfer bywyd gwyllt – mae’n enwog am fod yn safle bwydo barcudiaid coch, lle y caiff hyd at 150 o farcudiaid eu bwydo ger y llyn bob dydd, sy’n olygfa drawiadol.

Mae modd hefyd weld llawer o adar eraill o amgylch y llyn, fel hwyaid danheddog, gwyachod bach a gwyddau Canada.

Mae’r cyllid wedi’i ddarparu drwy gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth, sydd wedi’i anelu at sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a sefydliadau dielw eraill, gan dargedu prosiectau seilwaith ar raddfa fach (amwynderau ymwelwyr) yn y sector twristiaeth yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Mae CNC hefyd yn gwneud gwaith i osod decin newydd o amgylch y ganolfan ymwelwyr yn lle’r un presennol, gan ei ehangu.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy ddilyn tudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian neu drwy ymweld â CyfoethNaturiol.Cymru/BwlchNantyrArian.