Gwaith ar atgyweiriad dros dro a chadarn i arglawdd Leri wedi'i orffen

Mae gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gorffen atgyweiriad dros dro a chadarn i arglawdd yr Afon Leri.

Cynlluniwyd y gwaith atgyweirio i ddarparu amddiffyniad cadarn a dibynadwy o'r môr i breswylwyr, eiddo a Chors Fochno yn ystod misoedd y gaeaf. Mae cynlluniau ar droed i osod atgyweiriad tymor hwy yn y gwanwyn.

Roedd yr amodau a'r adeg o'r flwyddyn yn golygu nad oedd yn bosibl gosod atgyweiriad tymor hwy mewn pryd ar gyfer y gaeaf. Ni fyddai unrhyw waith atgyweirio o'r fath wedi cael amser i setlo a glaswelltu cyn cael ei daro gan amodau gaeaf llym. Byddai hyn wedi niweidio'r atgyweiriad ar unwaith.

Gwnaethpwyd yr atgyweiriad dros dro gan ddefnyddio bagiau tunnell wedi'u llenwi â charreg a chlai o chwarel leol. Yna, gorchuddiwyd y bagiau gyda cherrig a chlai, gorchudd plastig cadarn gan adio mwy o gerrig yn olaf.

Mae'r dull adeiladu yn caniatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ddatgymalu'r mesur dros dro yn hawdd ac i osod atgyweiriad tymor hwy o’r arglawdd yn y gwanwyn.

Dywedodd Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn llwyr werthfawrogi bod y difrod i arglawdd Leri wedi achosi llawer o bryder i drigolion lleol a chefnogwyr ein gwaith yng Nghors Fochno. Roeddem yn benderfynol o gael atgyweiriad cadarn a dibynadwy yn barod i ddiogelu'r ardal dros fisoedd y gaeaf.

"Roeddem yn amharod iawn i ddefnyddio deunyddiau plastig yn y gwaith atgyweirio, ond roedd amodau a'r angen i gael atgyweiriad cadarn yn barod cyn y llanw mawr yn golygu ei fod yn angenrheidiol i amddiffyn pobl, eiddo a Chors Fochno. Byddwn yn gwaredu'r plastig yn briodol ac yn ei ailgylchu lle bynnag y bo modd ar ôl i'r strwythur gael ei ddatgymalu yn y gwanwyn."

"Rydym yn ddiolchgar iawn i ffermwr lleol a gynigiodd lawer iawn o bridd clai i ni i drwsio'r difrod. Ar ôl cymryd sampl i sicrhau bod y pridd yn briodol i'w ddefnyddio yn y gwaith atgyweirio tymor hwy, rydym yn gwneud trefniadau i gasglu'r pridd a'i storio mewn depo Cyfoeth Naturiol Cymru cyn ei ddefnyddio yn y gwanwyn.

"Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi i lefelau'r môr godi a chreu bygythiad cynyddol i gymunedau arfordirol. Rhaid inni weithio gyda chymunedau mewn ardaloedd isel fel y rhain i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac ystyried cynaliadwyedd hirdymor amddiffynfeydd fel y rhai ar y Leri. Byddwn yn gweithio gyda thrigolion ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein cynlluniau i osod y gwaith atgyweirio tymor hwy yn ystod y misoedd nesaf."

Er i rywfaint o ddŵr môr fynd drwy'r toriad yn ystod y tywydd stormus diweddar, ni wnaeth hynny yn ddigonol i beryglu unrhyw eiddo neu bobl. Ni achoswyd unrhyw ddifrod i Gors Fochno na bywyd gwyllt arall gan y dŵr halwynog, gan fod y dŵr wedi'i gyfyngu i berimedr y gors. Fe ddraeniodd y dŵr yn ôl i'r Leri yn fuan wedi hynny.

Gwnaed y gwaith atgyweirio toriad gan ddefnyddio cyllideb beirianneg Cyfoeth Naturiol Cymru ac ni dderbyniwyd unrhyw arian ychwanegol i wneud y gwaith hwn.