Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020 - Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyflwyniad gan Syr David Henshaw

Bydd llawer ohonoch sy'n darllen hwn yn cofio'r golygfeydd eithriadol a welsom ledled Cymru ym mis Chwefror 2020 wrth i'r genedl ddioddef tair storom a enwir o fewn pedair wythnos.

Mae delweddau o gerbydau a ynyswyd ac eiddo yn ildio i ddyfroedd llifogydd yn cael eu galw i gof ar unwaith wrth i’r glawiad a llifoedd afon uchaf erioed arwain at lifogydd mewn 3,130 eiddo.

Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda'r rhai y cafodd eu tai eu difrodi ac y cafodd eu bywoliaeth eu bygwth, a chyda’r rhai sy’n dal ar ganol y gwaith o adfer ac ailadeiladu ar ôl y digwyddiadau eithriadol hyn.

Ni welwyd mis Chwefror gwlypach erioed yng Nghymru ers dechrau'r cofnodion ym 1862. Dyma hefyd oedd y pumed mis gwlypaf erioed yn y cofnodion, gan arwain at rai o'r llifogydd mwyaf sylweddol a welwyd yng Nghymru ers y 1970au.

Er yr oedd yn gyfnod a wnaeth herio ac ymestyn gwydnwch pawb a oedd yn ymwneud â'r ymateb, roedd hefyd yn gyfnod a wnaeth ysgogi cymunedau a dangos nerth amlwg preswylwyr ac ymatebwyr brys. Roedd yr ymrwymiad, gwaith caled a charedigrwydd ysbryd a ddangoswyd ar yr adeg honno yn rhywbeth i'w edmygu.

Roeddwn yn gallu gweld graddfa effeithiau strwythurol a dynol y dyfroedd llifogydd yn ystod fy ymweliadau â rhai o'r ardaloedd a wnaeth ddioddef fwyaf. Mae'n sobreiddiol ystyried beth allai'r canlyniad fod pe bai'r stormydd wedi digwydd yn ystod y dydd pan fyddai mwy o bobl allan o'u cartrefi ac yn gwneud eu gwaith beunyddiol.

O ychwanegu effeithiau pandemig byd-eang COVID-19 a ddaeth wedyn, nid yw'n anodd gweld pam nad yw'r emosiynau na'r problemau a gafwyd wedi bod mor gyflym i adfer fel y gwnaeth y dyfroedd ar y pryd.

Roedd ymrwymiad aelodau tîm Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu pobl ac adeiladau mewn amodau mor heriol yn ddiwyro. Rwy'n hynod falch o'r rôl hanfodol y gwnaethom ei chwarae yn yr ymdrech honno ac rwy'n ymwybodol iawn o'r niwed emosiynol a chorfforol ar gydweithwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Gwnaeth y buddsoddiadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru – a sefydliadau eraill – i wella gwydnwch Cymru i effeithiau glaw trwm drwy amddiffynfeydd, modelu, rhagweld a systemau rhybuddio cadarnach dros y degawdau'n sicr wedi helpu i atal llifogydd mwy difrifol ac eang ym mis Chwefror.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd hyn yn fawr o gysur i'r rheiny yr effeithiwyd arnynt gan y stormydd eithriadol, a ddigwyddodd ar ôl gaeaf hynod wlyb. 

Yn sicr, dyma gyfnod a brofodd allu, systemau a gwasanaethau ein sefydliad ein hunain i’r eithaf.

Ar ôl pob achos o lifogydd difrifol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith adfer ac adolygu i sicrhau bod ein sefydliad yn dysgu'r gwersi o'r profiad ac yn gwneud gwelliannau lle y bo'n bosib. Mae cyfleu profiadau ein staff a'n partneriaid wedi bod yn hanfodol wrth lywio'r darnau sylweddol hyn o waith ac rwyf yn hynod ddiolchgar am eu cyfraniadau.

Mae ein hadolygiad llifogydd yn ystyried yr hyn a wnaeth weithio'n dda ond hefyd yn nodi meysydd lle mae angen i ni wella'n gweithrediadau ein hunain, a'r camau gweithredu y dylem eu cymryd i sicrhau ein bod yn barod i ymateb i'r digwyddiad nesaf orau y gallwn.

Yn ôl yr adolygiad, gwnaeth y penderfyniadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan gydweithwyr medrus a phrofiadol Cyfoeth Naturiol Cymru chwarae rôl sylweddol wrth reoli'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu, gan leihau effeithiau a allai fod wedi bod llawer yn fwy difrifol. Gwnaeth llawer o'n strwythurau a'n systemau weithio'n dda, ac roedd y mesurau amddiffyn rhag llifogydd a weithredwyd ers y 1970au yn golygu ein bod yn gallu atal llifogydd i ddegau o filoedd o adeiladau ledled Cymru.

Fodd bynnag, canfuwyd hefyd nad oedd ein hadnoddau'n gallu ymdopi'n llawn â maint y dasg ar gyfer digwyddiad o'r raddfa ac arwyddocâd hwn. Roedd swm y dŵr a oedd yn disgyn mewn cyfnod byr yn ystod y stormydd yn golygu, er na wnaeth yr amddiffynfeydd fethu, y gwnaeth y dŵr fynd dros eu pennau mewn mannau.

Canfu'r adolygiad hefyd na allai ein hadnoddau ymdopi'n llawn â maint y dasg dan sylw ar gyfer digwyddiad o'r raddfa hyn.

O'r 430 o rybuddion llifogydd a ddyrannwyd yn ystod mis Chwefror, dyrannwyd 18 o rybuddion yn hwyr neu ddim o gwbl. Roedd cyflymder a graddfa'r digwyddiadau'n sicr yn ffactorau a wnaeth gyfrannu at hyn, ond mae hyn yn disgyn yn is na'r safon gwasanaeth rydym am ei darparu.  Ers hynny, rydym wedi gwneud gwelliannau i'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i helpu i leihau'r tebygolrwydd o hyn yn digwydd eto mewn digwyddiad o faint tebyg.  

Fel rhan o waith adfer y sefydliad, rydym wedi ymgymryd ag asesiad trylwyr o'n hasedau ac wedi gwneud atgyweiriadau i amddiffynfeydd ac adeileddau llifogydd. Mae gwaith atgyweirio tymor hwy hefyd wedi'i gynllunio am yr wythnosau a misoedd i ddod neu bydd yn destun rhagor o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru lle mae angen mwy o fuddsoddiad.

Ond eto mae gwaith sylweddol i'w wneud o hyd, a bydd llawer o'r camau gweithredu a nodwyd yn llywio'r ddadl ehangach y mae ei hangen ynghylch sut bydd perygl llifogydd yn cael ei reoli a sut bydd adnoddau'n cael eu darparu ar ei gyfer yn y dyfodol.

Fel rhan o'n gwaith adolygu, rydym wedi llunio crynodeb manwl o ddata allweddol sy'n nodi graddfa wirioneddol y digwyddiadau ym mis Chwefror, o'r glawiad uchaf erioed i’r llifoedd afonydd mwyaf erioed. Rydym hefyd wedi adolygu unrhyw oblygiadau y gallai'r llifogydd eu cael ar sut rydym yn rheoli'r tir yn ein gofal.

Bydd adolygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ymchwiliadau ar wahân gan awdurdodau lleol i'w gweithrediadau rheoli llifogydd eu hunain ac achosion y llifogydd yn eu hardaloedd priodol yn llunio’r broses o wneud penderfyniadau ar sut rydym yn rheoli dŵr yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r awdurdodau hyn a chyrff partner eraill sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd i adolygu'r hyn sy'n ymarferol bosib i liniaru effeithiau glawiad eithafol yn y blynyddoedd i ddod.

Ond y ffaith yw bod yn rhaid i ni i gyd dderbyn i fod yn anochel y bydd cymunedau yng Nghymru'n cael llifogydd eto, a'i fod yn debygol y bydd y bygythiad yn dod yn fwy difrifol ac yn fwy aml.  Er y gallwn leihau rhai o'r risgiau drwy reoli tebygolrwydd effeithiau llifogydd, ni allwn reoli'r tywydd. Mae graddfa a her y newid yn yr hinsawdd yn sylweddol ac yn cynyddu a bydd yn rhaid i ni reoli disgwyliadau ar faint o lifogydd y bydd modd eu hatal mewn gwirionedd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan argyfwng yn yr hinsawdd ac mae graddfa'r her honno'n tyfu. Mae'r cyfnodau estynedig o dywydd sych a welsom dros y gwanwyn a'r haf eleni, wedi'u dilyn yn agos gan ddwy storom a enwir dros bythefnos ym mis Awst, yn dangos yr her hinsawdd eithafol ac anrhagweladwy rydym yn ei hwynebu.

Mae arbenigwyr yn yr hinsawdd yn dweud wrthym y bydd tymereddau cynhesach a achosir gan y newid yn yr hinsawdd yn gwneud y cyfnodau hyn o dywydd eithafol yn fwy tebygol ac yn fwy difrifol yn y dyfodol.

Wrth i Gymru geisio dilyn llwybr gwyrdd tuag at adfer ar ôl COVID-19, dylem wneud mwy na chydnabod yn unig ffaith wyddonol ac effaith y newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod rheoli perygl llifogydd a sut rydym yn dysgu byw gyda mwy o ddŵr a'i reoli fel cenedl yn ganolog i'n trafodaeth.

Nawr yw'r amser i feddwl a gweithredu'n wahanol. Mae Strategaeth Genedlaethol Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru'n nodi sut mae'n bwriadu rheoli'r risgiau o lifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru dros y degawd nesaf. Ni allwn osgoi'r ffaith y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu polisi tymor hir. Bydd yn rhaid i Gymru fod yn ddewrach wrth ystyried cynllunio gofodol a phenderfyniadau datblygu a rhoi ystyriaeth ofalus i'r hyn y mae Cymru'n barod i fuddsoddi ynddo o ystyried gwydnwch y genedl i lifogydd.  

Mae'n rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd sy’n heneiddio, ond mae'n rhaid i ni hefyd ategu'r gofyniad hwn â mesurau eraill. Gallai hyn gynnwys ymgorffori mwy o fesurau rheoli llifogydd yn naturiol lle y bo'n briodol, dal dŵr yn ôl yn uwch i fyny yn y dalgylch, neu wneud lle i ddŵr lle y bo'n bosib a lle gall wneud gwahaniaeth. 

Er bod y buddsoddiad parhaus dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod gennym i gyd fwy o wybodaeth i baratoi ein hunain, a'n heiddo, yn well rhag effeithiau posib stormydd difrifol, mae angen i ni hefyd helpu cymunedau i gydnabod eu perygl llifogydd eu hunain a'u cefnogi i gymryd mwy o gyfrifoldeb personol i ddiogelu eu hunain a'u heiddo cyn iddi ddechrau bwrw glaw. 

Fodd bynnag, nid oes un ateb sy'n iawn i bawb, a bydd angen i ni ystyried gweithredu amrywiaeth o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r her sydd o'n blaenau.

Ond er mwyn gwir ddysgu'r gwersi o ddigwyddiadau llifogydd mis Chwefror 2020, mae angen ystyriaeth sylfaenol o'r dewisiadau y mae'n rhaid i ni i gyd eu gwneud am sut caiff y risgiau eu rheoli a sut y gwneir adnoddau ar gael i wneud hynny.

Dim ond trwy ddwyn ynghyd bob lefel o lywodraeth, cyrff cyhoeddus, busnesau, cymunedau, teuluoedd ac unigolion i ymateb i’r bygythiad gwirioneddol hwn y gallwn wneud Cymru'n gryfach wrth addasu i lifogydd yn y dyfodol.  Rydym ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i wneud hynny.

Syr David Henshaw
Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Ein hadolygiadau

Ar ôl pob digwyddiad llifogydd sylweddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd ag adolygiad mewnol cynhwysfawr o'r hyn a ddigwyddodd. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o'n systemau, ein gweithdrefnau a'n camau gweithredu i'n galluogi i nodi'r gwersi i'w dysgu a’r hyn a aeth yn dda a'r hyn nad aeth yn dda, ac i wella'r ffordd rydym yn gweithredu yn y dyfodol.

Mae'r crynodeb hwn yn adlewyrchu sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig. Mae gofyn i awdurdodau lleol ymchwilio i achosion llifogydd hefyd yn eu hardaloedd eu hunain a, lle y bo'n briodol, rydym yn eu cefnogi drwy'r broses hon.

Mae ein hymchwiliadau ein hunain yn nodi barn ac adborth cydweithwyr ar draws y sefydliad a phrofiadau'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a'r partneriaid a oedd ynghlwm i ddeall yr hyn a aeth yn dda a'r hyn y mae modd ei wella.

Rydym wedi dadansoddi ac adolygu data a gasglwyd yn ystod y stormydd ac ar eu holau i roi cyd-destun i natur eithafol y stormydd yn ystod y mis a'n perfformiad ein hunain yn yr amgylchiadau hynny.

Rydym wedi ystyried perfformiad ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd a'r Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd, o ddarogan hyd at gyhoeddi rhybuddion.

Rydym hefyd wedi ystyried sut rydym yn rheoli'r tir yn ein gofal i ddeall os gwnaeth unrhyw weithrediadau rheoli tir a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y digwyddiadau llifogydd gyfrannu at yr effaith ar eiddo. 

Rydym wedi gweithio i fynd i'r afael ag effaith uniongyrchol gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan flaenoriaethu thrwsio difrod i asedau.  Mae'r gwaith adfer hwn wedi'i ysgogi gan ein hymrwymiad i sicrhau y byddwn yn barod, os bydd llifogydd eto ac ar yr adeg honno, i ymateb iddynt hyd eithaf ein gallu.

Ond yn yr un modd ag y mae cymunedau’n cymryd amser i adfer, mae’r un peth yn wir amdanom ni. Mae'r daith tuag at adfer yn hir ac mae'r gwaith sydd ynghlwm yn sylweddol. Er bod y broses hon yn datblygu'n dda, mae yna lawer i'w wneud o hyd, gyda gwelliannau tymor hwy i'w gwneud hefyd.

O safbwynt sefydliadol, rydym yn ddyledus i gydweithwyr am y ffordd maent wedi ymateb a’r adborth a roddwyd am eu profiadau cyn, yn ystod ac ar ôl y stormydd. Mae'r dystiolaeth hanfodol hon wedi'n galluogi i nodi'r agweddau ar ein gweithrediadau a oedd yn effeithlon ac yn gweithio'n dda, yn ogystal â nodi materion y mae modd mynd i'r afael â hwy ar unwaith neu eu hychwanegu at raglen waith tymor hwy. 

Gan weithio'n unol â chanllawiau coronafeirws iechyd y cyhoedd, mae ein staff wedi bod yn ymgymryd â rhaglen gynhwysfawr o archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd ac asesu ein hasedau tir i wneud atgyweiriadau hanfodol i helpu i ddiogelu pobl, eiddo a busnesau a diogelwch y rheiny sy'n defnyddio'n hystâd.

Roedd y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol cysylltiedig yn gwneud ein lefel arferol o ymgysylltu â chymunedau ar ôl llifogydd yn fwy heriol. Er nad oeddem bellach yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus mawr, roeddem yn gallu ymgysylltu'n rhithwir â chynrychiolwyr o'r gymuned, cynghorwyr, Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol ac roeddem yn gallu cwrdd ag unigolion a grwpiau llai wrth i'r gyfyngiadau godi.

Mae gwersi i'w dysgu'n amlwg ac mae angen gwneud gwelliannau i'r holl gyrff sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Mae ein hadolygiadau'n nodi gwersi, argymhellion a chamau gweithredu y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd o ganlyniad i wella'n gwasanaethau a gwneud cymunedau'n fwy gwydn i effeithiau digwyddiadau tywydd eithafol yn y dyfodol.

Bydd adroddiadau ar wahân a gynhelir gan awdurdodau lleol ar eu gweithrediadau eu hunain yn penderfynu ar ragor o gamau gweithredu ar gyfer yr awdurdodau rheoli llifogydd perthnasol.

Y stormydd

Trosolwg

Roedd y llifogydd a welwyd ar draws rhannau o Gymru ym mis Chwefror 2020 yn hynod, o ran eu graddfa a'u difrifoldeb. Daeth glaw mawr a thair storm a enwir yn olynol, sef ‘Ciara’ (8-9 Chwefror), ‘Dennis’ (15-17 Chwefror) a ‘Jorge’ (28 Chwefror – 1 Mawrth), yn syth ar ôl y gaeaf gwlypaf a welwyd yn y DU ers dechrau'r cofnodion ym 1862.

Cafwyd pob cyfnod o law trwm yn gyflym dros ddalgylchoedd dirlawn i afonydd nad oeddent eto wedi cilio'n llawn o ddigwyddiadau blaenorol.

Gwnaeth hyn arwain at y gyfres fwyaf sylweddol o ddigwyddiadau llifogydd yng Nghymru ers llifogydd mis Rhagfyr 1979, a wnaeth hefyd effeithio ar sawl un o'r un cymunedau. Roedd lefelau afonydd a gofnodwyd ym mis Chwefror eleni'n uwch na'r rhai a gofnodwyd dros 40 mlynedd yn ôl mewn rhai achosion, ond roedd yr effeithiau dilynol yn sylweddol llai.

Dyrannwyd 243 o rybuddion llifogydd – byddwch yn barod, 181 o rybuddion lifogydd a chwe rhybudd llifogydd difrifol ym mis Chwefror, sef y nifer uchaf erioed.   Pan oedd Storm Dennis ar ei hanterth, roedd 61 o rybuddion llifogydd – byddwch yn barod, 89 o rybuddion llifogydd a dau rybudd llifogydd difrifol ar waith – mwy nag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dyrannu ar gyfer storm unigol erioed o'r blaen. Cofnodwyd y lefelau dŵr uchaf erioed ar 22% o fesuryddion afonydd Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru yn ystod Storm Dennis, sef ystadegyn hynod a sobreiddiol sy'n dangos graddfa'r digwyddiadau.

Glawiad

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd glaw a llifoedd afonydd neilltuol ar draws y DU, gan arwain at ei gofnodi yn llyfrau hanes y Swyddfa Dywydd fel y mis Chwefror gwlypaf a'r pumed mis gwlypaf ers dechrau'r cofnodion ym 1862.

Hwn hefyd oedd y pumed gaeaf gwlypaf a gofnodwyd gyda glawiad eithafol mis Chwefror yn disgyn ar ddalgylchoedd roedd eisoes yn dirlawn.

Mae cael digwyddiadau glaw eithafol mor eang yn yr un mis calendr yn hynod anfynych. Yn wir, pan fydd y Swyddfa Dywydd yn llunio data glawiad, mae’n nodweddiadol i’w mapiau gofnodi hyd at 200% o lawiad ar gyfartaledd. Ym mis Chwefror 2020, aeth y raddfa y tu hwnt i 400% mewn rhai ardaloedd.

Mae'r cofnodion yn dangos i 288 mm o law gwympo ar gyfartaledd ledled Cymru yn y mis hwnnw, ond gyda rhai ardaloedd yn derbyn hyd at bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd misol y tymor hir.

Gwnaeth Storm Ciara effeithio ar ddalgylchoedd Gogledd Cymru fwyaf difrifol, gyda dalgylchoedd afonydd Conwy, Elwy a Dyfrdwy Uchaf yn derbyn y symiau mwyaf o law ac yn cael rhai o'r lefelau afon uchaf.

Gwnaeth Storm Dennis gynhyrchu glaw eithafol dros gyfnod byr ond dwys iawn. Gwnaeth hwn gwympo ar draws Cymoedd De Cymru a Bannau Brycheiniog, gyda chanolbwynt yn nalgylch afon Taf ac yn uchel yn nalgylch afon Wysg.

Effeithiwyd ar bob rhan o Gymru.  Gwnaeth y mesurydd glaw yn afon Fyrnwy ym Mhowys gofnodi 515 mm o law ym mis Chwefror, gan ei wneud y mis Chwefror gwlypaf yn yr ardal ers dechrau'r cofnodion ym 1908.

Lefelau a llifoedd afonydd

Mae llawer o afonydd yng Nghymru, yn enwedig yng Nghymoedd De Cymru a rhannau o Ogledd Cymru, yn weddol serth ac yn llifo drwy gymoedd cul gyda sail daeareg anhydraidd.

O ganlyniad, mae dŵr ffo o flaenddyfroedd yn dilyn glaw dwys yn cyrraedd prif afonydd yn gyflym iawn, ac mae lefelau afonydd yn ymateb yn gyflym.

Gwnaeth y glaw sylweddol dros y naw mis blaenorol hefyd gyfrannu at y llifogydd helaeth, am fod y pridd yn orlawn ac nad oedd modd iddo amsugno llawer o ddŵr ychwanegol. Roedd dilyniant, hyd a difrifoldeb glawiad mis Chwefror yn nalgylchoedd Cymru mor ddwys fel y gwnaeth llawer o lefelau afonydd ymateb yn hynod gyflym, gan gyrraedd lefelau a llifoedd na welwyd erioed o'r blaen.

Pan oedd Storm Dennis ar ei hanterth, cyrhaeddodd afon Taf ym Mhontypridd ei lefel uchaf ers dechrau'r cofnodion ym 1968.

Ar ei llif uchaf ar 15 Chwefror, amcangyfrifwyd bod 805 metr ciwbig yn pasio drwy Bontypridd fesul eiliad, sy'n ddigon i lenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn ychydig dros dair eiliad. Dros gyfnod o 22 awr, cynyddodd uchder yr afon 4.2 metr, gan gofnodi lefel 78 cm yn uwch na'r lefel uchaf gynt yn ystod llifogydd 1979, pan gafwyd llifogydd ar hyd a lled.  Er y gwnaeth sawl eiddo ddioddef llifogydd ym mis Chwefror, nid oedd i'r lefel a welwyd ym 1979 oherwydd y buddsoddiadau a wnaed mewn amddiffynfeydd dros y degawdau diwethaf.

Ar hyd afon Wysg, torrwyd y lefel afon uchaf erioed a osodwyd ym 1994 yn Llan-ffwyst gan y lefelau a gyrhaeddwyd yn ystod Storm Dennis, yn cyrraedd 5.6m ar y pwynt uchaf.

Yn ystod Storm Ciara, amcangyfrifwyd bod y lefelau afon yn Llanelwy ar afon Elwy ar y lefel uchaf ers dechrau'r cofnodion ym 1974 – yn uwch nag ym mis Tachwedd 2012 pan gafwyd llifogydd sylweddol, sy'n dangos manteision buddsoddiad uwch Cyfoeth Naturiol Cymru mewn amddiffynfeydd yn Llanelwy. Gwnaeth y cynllun atal ailadroddiad o'r llifogydd eang a gafwyd yn 2012. Cafodd peth llifogydd lleol ac mae mwy o waith dadansoddi gyda Chyngor Sir Ddinbych yn parhau.

Cofnododd bron i chwarter (22%) o'r rhwydwaith o 231 o fesuryddion afon Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru eu lefelau dŵr uchaf erioed ym mis Chwefror.  Mae'r dystiolaeth a'r ffeithiau'n tanlinellu bod y rhain yn ddigwyddiadau eithriadol.

Rheoli'r llifogydd

Rolau a chyfrifoldebau

Mae'n wireb, pan fydd llifogydd yn effeithio ar eich cartref neu fusnes, na fyddwch yn treulio'ch amser yn ystyried o ble y daeth y dŵr, na phwy sy'n gyfrifol. Yn syml, rydych am weld camau gweithredu.

Yn yr un modd, mae rheoli perygl llifogydd a phenderfynu ar achosion llifogydd yn faterion hanfodol a chymhleth, yn enwedig pan nad oes gan ddyfroedd lawer o barch tuag at ffiniau sefydliadol ac achosir llifogydd gan ffactorau gwahanol.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Awdurdod Rheoli Risg sydd â phwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, ond rheolir llifogydd o gyrsiau dŵr llai, dŵr wyneb a daear, a systemau carthffosiaeth gan awdurdodau lleol a chyrff eraill.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ddyrannu rhybuddion llifogydd, ond mae cyrff eraill yn arwain ar ymatebion brys fel pwmpio dŵr llifogydd a rheoli gweithdrefnau gwacáu.

Felly, pan fydd llifogydd yn digwydd, mae cyrff gwahanol sy'n gyfrifol am agweddau gwahanol ar reoli llifogydd yn dod ynghyd i gydlynu a darparu'r ymateb brys.

Fodd bynnag, pan fydd y llifogydd yn dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys prif afonydd, cyrsiau dŵr lleol, cwlfertau tanddaearol a draeniau, gall wneud ymchwilio i union achosion a mecanweithiau llifogydd penodol, a’u deall, yn heriol. 

Er bod llawer o enghreifftiau o gydweithio da, mae angen i'r holl awdurdodau perthnasol ddod o hyd i ffyrdd eraill o wella ymhellach sut maent yn gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu'n cymunedau. 

Effeithiau

Yn ôl data awdurdodau lleol, gwnaeth 3,130 eiddo unigol ledled Cymru ddioddef llifogydd o ganlyniad i stormydd mis Chwefror.

Mae'r eiddo y mae’n hysbys eu bod wedi dioddef llifogydd yn cynnwys 224 o eiddo yn ystod Storm Ciara, 2,765 o eiddo yn ystod Storm Dennis, a 141 o eiddo yn ystod Storm Jorge.

Gwnaeth yr effeithiau ymestyn o Grucywel a Brynbuga yn y De-ddwyrain i Bontypridd, Nantgarw, Ffynnon Taf, Pentre a llawer o gymunedau eraill yng Nghymoedd De Cymru. Gwnaeth cymunedau yng Nghonwy, Powys a Sir Ddinbych hefyd brofi llifogydd sylweddol.  Roedd yr effeithiau'n eang yn wir, ond yn ddi-os yn fwy amlwg yng Nghymoedd De Cymru, fel y dangosir gan nifer yr eiddo a ddioddefodd lifogydd yn yr ardal hon, sawl un am y tro cyntaf ers cyn cof.

Y gwersi a nodwyd

Y prif ganfyddiadau

Gwnaeth yr adolygiadau llifogydd nodi bod llawer o'n hadeileddau a'n systemau wedi gweithio'n dda ac yn ôl y disgwyl i ddiogelu miloedd o eiddo ledled Cymru o effeithiau'r glawiad eithafol.

Mae buddsoddiadau a wnaed i adeiladu amddiffynfeydd ers digwyddiadau llifogydd sylweddol blaenorol wedi gwneud gwelliannau sylweddol i wydnwch Cymru yn erbyn glawiad eithafol. Er enghraifft, mae'r gwelliannau a wnaed i amddiffynfeydd ers llifogydd 1979 yn Ne Cymru'n golygu bod miloedd mwy o eiddo mewn perygl llai.

Ar y cyfan, gwnaeth cynllun lliniaru llifogydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Llanelwy, a adeiladwyd i ddiogelu 293 o gartrefi a 121 o fusnesau yn y ddinas, berfformio'n dda, gan atal ailadroddiad o'r llifogydd a gafwyd yn 2012 lle cafodd marwolaeth o'u herwydd. Gallai effeithiau'r llifogydd yn Llanrwst ar hyd afon Conwy hefyd fod wedi bod llawer yn waeth heb y defnydd llwyddiannus o amddiffynfeydd symudol Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llifogydd o afon Conwy.

Mae'r buddsoddiad sylweddol mewn systemau darogan a rhybuddio hefyd yn golygu bod pobl yn gallu paratoi'n well ar gyfer digwyddiadau posib.

Eto i gyd, roedd graddfa a chyflymder y glawiad ym mis Chwefror yn golygu bod rhywfaint o lifogydd yn anochel, gan arwain at drawma ac effeithiau tymor hir sylweddol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Cafodd y gwasanaethau a'r rolau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â hwy yn ystod digwyddiad llifogydd sylweddol eu profi'n arw yn ystod y cyfnod hwn. Er bod llawer o enghreifftiau o arfer da ac o leoedd lle gwnaeth ein gwaith wahaniaeth go iawn, mewn rhai achosion cawsom ein hymestyn y tu hwnt i'n galluoedd.

Ers mis Chwefror, rydym wedi mynd i'r afael â llawer o'r problemau uniongyrchol drwy ein rhaglen o waith adfer. Mae elfennau o'r gwaith hwn yn parhau a bydd rhai o'r effeithiau, gwaith adfer a gwelliannau angenrheidiol ar ôl stormydd Ciara, Dennis a Jorge yn cymryd amser, adnoddau ychwanegol a buddsoddiadau i fynd i'r afael â hwy.

Mae modd crynhoi'r prif broblemau a nodwyd yn yr adolygiad llifogydd y mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd i'r afael â hwy dan bum thema allweddol:

  • Diffygion wrth ddarparu’r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, sy'n amlwg mewn digwyddiadau mor sylweddol ac eithafol.
  • Cyfyngiadau o ran y gallu (yn enwedig y tu allan i oriau craidd) i rybuddio ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd o'r raddfa sylweddol hon yn effeithiol.
  • Yr angen am fewnbwn sefydliadol cryfach, cyfannol i'n hymateb i lifogydd.
  • Mae angen gwelliannau yn ein camau gweithredu yn y cyfnod cyn digwyddiadau a'n gallu i adfer ar eu holau.
  • Mae angen gwneud dewisiadau anodd am lefel y gwasanaeth sy'n ymarferol, realistig a dichonadwy, a'r goblygiadau cysylltiedig am y buddsoddiad a fydd ei angen.

Yn ogystal â chydnabod yr elfennau da niferus yn y gweithrediadau, mae'r adolygiad llifogydd hefyd yn nodi deg maes allweddol gyda chamau gweithredu argymelledig ar gyfer gwella.

Gwnaeth yr adolygiad rheoli’r ystâd dir ystyried tair elfen rheoli tir allweddol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru:

  • Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd
  • Seilwaith a Pheirianneg Sifil
  • Gweithrediadau Coedwigaeth

Mae canfyddiadau'r adolygiad o sut rydym yn rheoli'r tir yn ein gofal wedi arwain at ddeg argymhelliad allweddol eraill ar sut dylem addasu ein dull cyfredol ar gyfer rheoli tir i helpu i leihau perygl llifogydd. Caiff y rhain eu crynhoi yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

Rhybuddion cynnar

Elfen hanfodol o reoli effeithiau digwyddiadau tywydd fel y rhai a gafwyd ym mis Chwefror, a maes sydd wedi gweld gwelliant a datblygiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yw'r gallu i ddarogan yn fyw cywir ac yn hwy i'r dyfodol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r Ganolfan Darogan Llifogydd yn y Swyddfa Dywydd i ddadansoddi'r wybodaeth ddarogan a pherygl llifogydd diweddaraf yng Nghymru ac yn crynhoi'r wybodaeth yn y Datganiad Canllawiau Llifogydd.

Dyma ddiweddariad sy'n mynd i awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys ac sy'n cael ei ddyblygu ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r gwasanaeth rhybuddio cynnar hwn yn caniatáu i sefydliadau baratoi ar gyfer yr effeithiau posib.  Mae’r rhagolwg llifogydd hwn yn cyd-fynd â’r rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd.

Ar yr un pryd, mae ansicrwydd sylweddol o hyd yn ymwneud â darogan y tywydd a'i effeithiau, yn enwedig mewn dalgylchoedd ymateb cyflym fel y rheiny a geir mewn sawl ardal yng Nghymru.  Er enghraifft, cyn Storm Ciara, gwnaeth y Datganiad Canllawiau Llifogydd gyrraedd statws risg isel yn unig, gyda'r effeithiau posib yn cael eu darogan fel sylweddol wrth i'r storm ddatblygu, ond gyda thebygolrwydd isel yn y rhagolygon. Er y bu datblygiadau sylweddol o ran modelu yn y blynyddoedd diwethaf, mae lle am welliant o hyd, gan gynnwys ystyried sut caiff y risgiau a'r effeithiau eu cyfleu i'n cynulleidfaoedd. 

Y Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd

Mae'r Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd a weithredir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd. Mae'n rhoi rhybudd ymlaen llaw ac felly amser i bobl gymryd camau gweithredu i ddiogelu eu hunain a'u heiddo. Mae yna dair lefel o rybuddion llifogydd – Byddwch yn Barod, Rhybudd Llifogydd a Rhybudd Llifogydd Difrifol. Mae gweithrediad y gwasanaeth yn dibynnu ar weithdrefnau, offerynnau a systemau a setiau data technegol rhyngberthnasol, yn ogystal ag arbenigedd staff arbenigol.

Mae lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid wedi gwella'n sylweddol dros amser, gyda chwmpas y gwasanaeth yn cael ei ehangu a gwelliannau mewn cywirdeb, datrysiadau ac amser arwain oherwydd datblygiadau mewn technoleg. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd fel dalgylchoedd ymateb cyflym Cymoedd De Cymru lle gall yr amser rhwng glaw, afonydd yn codi a llifogydd fod yn fyr iawn.

Mae rhybuddion hefyd wedi symud o ddalgylchoedd ehangach i rybuddion sy'n benodol i gymunedau, gan leihau'r risg o rybuddion anwir a chynyddu'r siawns y bydd pobl yn ymateb pan fydd rhybuddion yn cael eu dyrannu.

Amcangyfrifir ar ddechrau mis Chwefror 2020 fod dros 126,000 o eiddo wedi cael eu cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd yng Nghymru, gan eu galluogi i gymryd mesurau i baratoi eu hunain, eu cartrefi, eu busnesau a'u teuluoedd ar gyfer yr effeithiau.

Yn ystod Storm Dennis, cafwyd y nifer mwyaf o rybuddion y mae Cyfoeth Naturiol Cymru erioed wedi'u dyrannu am un digwyddiad – 65 o negeseuon am fod yn barod am lifogydd, 89 o rybuddion llifogydd a phedwar rhybudd llifogydd difrifol.

Yn ystod Storm Dennis, roedd yn glir fod y broses gymhleth o farnu a gwneud penderfyniadau a ddefnyddiwyd wrth ddyrannu rhybuddion llifogydd yn ystod cyfnod byr iawn, ac yn oriau mân y bore, yn dod yn fwyfwy heriol. 

Roedd y llwyth gwaith a'r pwysau ar y pryd yn sylweddol ac, yn y digwyddiadau a oedd yn gwaethygu'n hynod gyflym yn ystod y storm benodol honno, dyrannwyd rhai rhybuddion llifogydd yn hwyr (ar ôl i'r llifogydd ddechrau) neu na chawsant eu dyrannu o gwbl pan ddylent fod wedi.

Dyrannwyd tri rhybudd llifogydd yn hwyr yng Nghwm Taf isaf, dyrannwyd tri rhybudd llifogydd yn hwyr yn Nyffryn Teifi, ni chafodd 11 o rybuddion llifogydd eu dyrannu yng Nghwm Rhymni, ac ni ddyrannwyd un ar afon Tywi.  Yn amlwg, nid oedd y lefel wasanaeth rydym yn ceisio ei darparu wedi'i bodloni ar yr adeg hon, oherwydd galwadau'r digwyddiadau eithafol a gafwyd. Rydym yn cydnabod y rhesymau a arweiniodd at y diffygion hyn, ac mae camau gweithredu'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn dros y cyfnod byr a hwy.

Mae'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yn dibynnu ar sgiliau ac arbenigedd y staff sy'n cynnal y gwasanaeth ar rota dyletswydd ddydd a nos.   Yn ôl yr adolygiad, rhoddwyd y gallu hwn dan straen sylweddol, ac mae angen gwneud gwelliannau os ydym am ymdopi â digwyddiad o'r raddfa hon yn y dyfodol. 

Rydym yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â phroblemau o ran gallu ac rydym yn adolygu'r hyn y mae modd ei gyflawni'n realistig o fewn y lefelau gweithredol, staffio ac ariannu cyfredol. Rydym yn ystyried gwella'r prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â dyrannu rhybuddion llifogydd difrifol, ac a oes modd i ni symleiddio'r broses o ddyrannu'r rhybuddion llai sylweddol yn ystod digwyddiadau mawr.

Amddiffynfeydd rhag llifogydd

Mae rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ledled Cymru'n helpu i ddiogelu 73,000 o eiddo rhag llifogydd. Gwnaeth pob un berfformio'n dda ac yn ôl safonau dylunio yn ystod y stormydd, heb unrhyw fethiannau adeileddol sylweddol.

Roeddent yn effeithiol wrth ddiogelu oddeutu 19,000 o eiddo yn ystod Storm Dennis, gan gynnwys dros 1,000 yn Rhondda Cynon Taf.

Gwnaeth cau llifddorau, gosod rhwystrau symudol a chlirio adeileddau sicrhau nad oedd llifogydd mewn llawer o ardaloedd.  Yn ogystal â'r amddiffynfeydd sefydlog a symudol, gwnaeth y rhybuddion llifogydd a anfonwyd at unigolion ledled Cymru ganiatáu i lawer o bobl weithredu i leihau'r effaith arnyn nhw, eu teuluoedd a'u heiddo.  

Er hynny, gwnaeth llifogydd sylweddol ddigwydd ar draws rhannau o Gymru. Roedd rhai'n gysylltiedig â lefelau dŵr yn codi'n uwch nag uchder yr amddiffynfeydd, yn unol â safonau dylunio cenedlaethol cyfredol. 

Roedd llawer o ddigwyddiadau eraill yn ymwneud â llifogydd o gyrsiau dŵr arferol, draeniau ffyrdd a charthffosydd.

Rydym yn ddefnyddio technegau o'r radd flaenaf i fodelu afonydd er mwyn darogan ble bydd llifogydd yn digwydd ac i'n helpu i ymchwilio i'r hyn y gall gael ei wneud i liniaru'r effeithiau. Mae'r gwaith hwn yn parhau gyda ffocws cryf ar yr ardaloedd yn y perygl mwyaf, gan ystyried yn llawn ddigwyddiadau llifogydd yn y gorffennol fel y rhai a gafwyd ym mis Chwefror. Lle y bo'n ymarferol, caiff cynigion hyfyw eu datblygu, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddysgu o'u hymchwiliadau lleol eu hunain.

Byddai'n demtasiwn awgrymu mai'r ateb i gadw cymunedau'n ddiogel yw buddsoddi mewn adeiladu'n hamddiffynfeydd a'n rhwystrau'n uwch ac yn uwch.

Ond byddai hyn yn golygu costau amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol sylweddol. Byddai angen i gymunedau ystyried a oeddent am weld waliau concrit mawr yn cael eu hadeiladu yn eu trefi a'u pentrefi, gan eu gwahanu oddi wrth y mannau gwyrdd, yr afonydd a’r moroedd sydd mor bwysig wrth gynnal eu hiechyd a'u llesiant. 

Yn aml, mae cyfyngiadau lle ac amodau tir mewn cymunedau trefol yn gwneud adeiladu amddiffynfeydd eraill yn heriol. Mae adeileddau uwch hefyd yn gwneud y perygl yn sgil methiant amddiffynfeydd yn fwy oherwydd yr effaith a geir yn sgil dyfroedd llifogydd cynt a dyfnach.

Nid yw adeiladu'n uwch ac yn uwch yn ddichonadwy ym mhobman ac mae angen i ni reoli disgwyliadau afrealistig fod modd atal yr holl lifogydd drwy adeiladu mwy o amddiffynfeydd yn unig. Bydd adeiladu amddiffynfeydd uwch mewn rhai ardaloedd ond yn sianelu'r dŵr ymhellach i lawr yr afon, gan gynyddu perygl llifogydd mewn cymunedau eraill.  Mae gan amddiffynfeydd rôl i’w chwarae, ond yn sicr nid ydynt yn darparu un ateb sy'n datrys popeth i'r heriau rydym yn eu hwynebu.  

Mae angen i ni ategu amddiffynfeydd â mesurau eraill, fel dal dŵr yn ôl yn uwch yn y dalgylch, gwneud lle i ddŵr mewn cymoedd, ac mewn rhai achosion derbyn, yn enwedig yn ystod digwyddiadau o'r raddfa hon, y bydd llifogydd yn digwydd. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod eiddo'n fwy gwydn yn erbyn llifogydd a buddsoddi mewn systemau rhybuddio a chymorth a chyngor cymunedol fel y gall cymunedau gymryd eu camau gweithredu eu hunain i leihau effeithiau llifogydd.

Yn ddi-os, mae yna benderfyniadau anodd eu gwneud. Mae'n rhaid i bob lefel o'r llywodraeth weithio ar y cyd gyda'r cyrff sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd a chymunedau mewn perygl i ddatblygu dull cydweithredol ar gyfer gwella rheoli llifogydd.

Ein hymateb gweithredol

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl argyfwng bwysig dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil ac mae'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill sy'n rhan o ymateb cenedlaethol Cymru i ddigwyddiadau ar raddfa fawr.

Roedd ein hymateb ar lawr gwlad cyn ac yn ystod y stormydd yn cynnwys gweithgareddau rhagweithiol ac adweithiol a oedd yn canolbwyntio ar weithrediad ein hamddiffynfeydd a chynnal a chadw ein hasedau. Er y rhoddwyd yr ymateb wrth reoli ein hasedau a'n hadeileddau dan straen, gwnaethom berfformio'n dda yn gyffredinol. Gwnaeth cau llifddorau, gosod rhwystrau symudol a chlirio adeileddau sicrhau y cafodd sawl ardal ei diogelu'n effeithiol rhag y dyfroedd.

Gwnaeth yr adolygiadau nodi problemau ar draws rhai meysydd o ymateb gweithredol oherwydd y gallu ychwanegol cyfyngedig a oedd gennym i ymateb yn rhagweithiol i ddigwyddiadau. Roedd hyn yn cynnwys ein gallu i ddarparu cymorth i sefydliadau partner, i ymateb i ddigwyddiadau anrhagweledig ar lawr gwlad, neu i gasglu arsylwadau mewn lleoliadau allweddol i roi adborth i ystafelloedd digwyddiadau i gefnogi’r gwaith o ddyrannu rhybuddion llifogydd.

Roedd graddfa'r digwyddiadau yn golygu, ar adegau, fod ein gweithrediadau o dan straen, ac mae angen gwneud gwelliannau o ran argaeledd staff ar gyfer rotas dyletswydd a sut rydym yn blaenoriaethu ein hymateb. Rydym yn cymryd camau i gynyddu nifer y staff sydd ar gael i ymgymryd â rolau ymateb i ddigwyddiadau drwy ymdrech recriwtio fewnol, a byddwn yn darparu mwy o hyfforddiant i'n staff lle y bo angen.

Tynnir sylw at faterion gweithredol hefyd, fel addasrwydd ac argaeledd cerbydau a chyfarpar arall fel ffonau symudol sy'n gallu gwrthsefyll yr amodau tywydd a daearyddol, fel meysydd a oedd yn cyfyngu ar ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhai achosion.  Lle y bo'n briodol, caiff datrysiadau tymor byr eu gweithredu, a chaiff trefniadau wrth gefn eu rhoi ar waith lle bo angen i ni wneud gwelliannau tymor hwy.

Y cyfryngau

Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ymdrin â nifer sylweddol o geisiadau gan y cyfryngau yn ystod y digwyddiadau llifogydd ac ar eu holau. Gwnaeth stormydd Ciara a Dennis greu 500 o erthyglau mewn amrywiaeth eang o allfeydd cyfryngau a gefnogwyd gan waith cyfathrebu Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhoddwyd dros 40 o gyfweliadau yn y cyfryngau gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ymddangos sawl gwaith ar draws allfeydd darlledu yng Nghymru a'r DU. Roedd ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn hanfodol yn ystod digwyddiadau mis Chwefror, gan ein galluogi i rannu negeseuon allweddol i rybuddio a hysbysu'r cyhoedd, a chael cipolwg defnyddiol ar yr hyn yr oedd cymunedau'n ei brofi.

Un o’r effeithiau mwyaf sylweddol ar bresenoldeb cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru oedd methiant ein gwefan i ymateb ar ddau achlysur i'r ymchwydd sylweddol mewn ymweliadau â hi, a pherfformiodd yn wael am dair awr a hanner dros benwythnos Storm Dennis - gan gynnwys rhai cyfnodau lle nad oedd ar gael.  Gwnaeth hyn atal aelodau'r cyhoedd a phartneriaid rhag cael gwybodaeth am rybuddion llifogydd, lefelau afonydd, a'r hyn i'w wneud yn ystod digwyddiad llifogydd ac ar ôl hynny.

Mae camau eisoes wedi cael eu cymryd i wneud gwelliannau i wydnwch ein gwefan i sicrhau y gall barhau i ddarparu gwybodaeth hanfodol yn ystod cyfnodau o ymweliadau mynych pe bai’r un galw arni mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Rheoli ein hystâd dir

Fel rhan o'n hadolygiad o sut rydym yn rheoli'r tir yn ein gofal, rydym wedi ceisio nodi lle mae tystiolaeth yn dangos y dylai arferion cyfredol gael eu diwygio i leihau'r perygl o lifogydd.

Mae coedwigoedd yn dylanwadu ar ddŵr mewn ffordd gadarnhaol yn bennaf, ond nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu bod ganddynt effaith addasu sylweddol yn ystod digwyddiadau llifogydd o’r maint a'r raddfa a welwyd ym mis Chwefror, ni waeth beth yw'r arfer rheoli.

Fodd bynnag, mewn rhai dalgylchoedd llai lle mai coedwigaeth yw'r prif ddefnydd o'r tir, gall coetir gael effaith gadarnhaol yn ystod amodau llai eithafol.  Gall y gwaith rydym yn ei wneud ar ein tir i ddal dŵr yn ôl ac oedi rhyddhau dŵr gyfrannu'n gadarnhaol at reoli llifogydd i lawr yr afon, yn enwedig ar y cyd â chamau gweithredu eraill ar draws y dalgylch. Ond mae'n cael effaith gyfyngedig yn ystod digwyddiadau llifogydd ar raddfa fawr pan fydd tir yn ddirlawn.

Rydym wedi dod i'r casgliad bod yna newidiadau y gallem ac y dylem eu gwneud i sut rydym yn cynllunio'n coedwigoedd, sut rydym yn dylunio ac yn gofalu am  seilwaith ein coedwigoedd, a sut rydym yn ymgymryd â gweithrediadau coedwigoedd a fydd yn helpu i leihau'r risg o lifogydd ar raddfa fach a chanolig ar lefel leol.

Oherwydd y tebygolrwydd cynyddol o ddigwyddiadau glaw eithafol, mae angen i ni wneud mwy i feddwl am symiau dŵr yn ogystal ag ansawdd dŵr. Gallwn gryfhau'r defnydd o offer presennol i nodi perygl llifogydd a chyfleoedd lliniaru fel y gallwn flaenoriaethu'r ardaloedd lle ceir y risg uchaf ar ystâd Cyfoeth Naturiol Cymru a chynnwys hyn yn y Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ar gyfer yr ardaloedd hynny.

Argymhellir rhagor o fuddsoddiad ar gynllun tymor hir i archwilio, cynnal a chadw a diweddaru adeileddau draenio hefyd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio yn ôl eu dyluniad. Gall mwy gael ei wneud hefyd i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid lleol i gynyddu eu hymwybyddiaeth o rôl yr ystad goetir i helpu i liniaru perygl llifogydd, ond hefyd ei chyfyngiadau wrth atal llifogydd fel y digwyddiadau a gafwyd ym mis Chwefror.

Mae llawer o'r camau gweithredu rydym yn eu nodi eisoes ar waith, fel presenoldeb offer a gwybodaeth angenrheidiol am berygl llifogydd, y rhaglen diweddaru Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd, a llawer o'r gwaith adfer o lifogydd mis Chwefror 2020.

Eto mae gweithrediad llawn yr argymhellion rydym yn eu gwneud ar sail ein canfyddiadau'n gofyn am lawer o waith a allai olygu adleoli adnoddau oddi ar weithgareddau eraill yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol sylweddol.

Gan ystyried cyd-destun y 157,000 hectar o dir rydym yn ei reoli, ni allwn fynd i'r afael â phopeth ar yr un pryd. Mae angen i ni nodi'r ardaloedd lle ceir risg uwch a lle bydd addasiadau i'r tir rydym yn ei reoli yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar y cymunedau hynny sydd yn y perygl mwyaf o lifogydd, fel y gallwn ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ar gael yn y ffordd orau. Mae faint mwy a wnawn a pha mor gyflym rydym yn ei wneud yn dibynnu ar y dewisiadau a wneir ynghylch blaenoriaethu adnoddau yn gymharol yn erbyn buddion cyhoeddus pwysig eraill.

Fel rhan o'r adolygiad rheoli tir, rydym hefyd wedi ystyried rheoli tir Ystad Goetir Llywodraeth Cymru uwchben Pentre yn Rhondda Cynon Taf i benderfynu ar unrhyw gyfraniad y mae gweithrediadau tir wedi’i wneud o bosib at effeithiau llifogydd yn yr ardal hon. Gwnaeth hyn lywio'n gwaith adfer.

Yn ôl yr adolygiad, a gynhaliwyd yn y diwrnodau ar ôl y digwyddiad, gwelwyd bod ein gweithrediadau ar y safle uwchben y pentref yn cadw at safonau arfer da, ac nad oedd y gweithrediadau hyn yn debygol o fod yn brif achos y llifogydd ym Mhentre.

Rydym am sicrhau'r gymuned y byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Dŵr Cymru i ddeall achos y llifogydd ym Mhentre ym mis Chwefror a'r hyn y mae modd ei wneud i helpu i ddiogelu cymunedau mewn perygl yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a pherchnogion busnes wrth i'r ymchwiliadau hyn barhau.

Y camau rydym wedi eu cymryd ers mis Chwefror 2020

Ar lawr gwlad, rydym wedi archwilio 2,127 o amddiffynfeydd ac adeileddau llifogydd i sicrhau eu bod yn parhau i gynnig amddiffyniad ac wedi archwilio 170 o asedau risg uchel ar ystâd dir Cyfoeth Naturiol Cymru fel pontydd, a thros 100 o domenni glo.

Gwnaeth archwiliadau a gynhaliwyd yn dilyn y llifogydd nodi 101 o ddiffygion y mae angen eu trwsio.  Roedd yr holl waith i'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd a ystyriwyd yn waith brys a oedd angen sylw uniongyrchol wedi cael ei gwblhau i sicrhau bod gan gymunedau yr un lefel o amddiffyniad rhag llifogydd â chyn gaeaf 2019/20.

Ar ôl y digwyddiad, gwnaethom drwsio sawl ased llifogydd mewn lleoliadau a oedd yn cynnwys Abergele, Llanrwst, i fyny'r afon ac yn Llanfair Talhaearn, Pont-hir, tref Brynbuga, ac ar afon Elwy i fyny'r afon o Lanelwy. Mae nifer o asedau hefyd wedi cael eu nodi y mae angen gwaith arnynt yn y tymor byr ac mae'r rhain wedi cael eu hymgorffori yn ein rhaglen waith ar gyfer eleni. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ym Machen, Rhisga, y Clas-ar-Wy a Thowyn.

Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau yr effeithiwyd arnynt, neu sydd yn y perygl mwyaf, i benderfynu a all unrhyw atebion tymor hir eraill gael eu gweithredu. Fodd bynnag, dyma faterion mwy cymhleth a bydd yn cymryd mwy o amser a buddsoddiad i fynd i'r afael â hwy. Mae hyn yn cynnwys adolygu opsiynau ar gyfer rhannau isaf afon Taf (o Bontypridd i Gaerdydd), sef gwaith sylweddol sydd wedi dechrau gydag adolygiad o'r modelu. Mae hefyd yn cynnwys gwaith mewn lleoliadau fel Ystradmynach, Bedwas a Bangor Is-coed, ac ar amddiffynfeydd sydd wedi'u difrodi mewn lleoliadau yng Nghaerdydd.

Gwnaeth rhai amddiffynfeydd gael eu difrodi yn dilyn y llifogydd ac, mewn rhai achosion, aeth y dŵr dros ben rhai amddiffynfeydd oherwydd y llif dŵr eithafol a gafwyd a oedd yn drech na’r safonau dylunio. Fodd bynnag, ni chafodd unrhyw adeileddau eu torri ac ni wnaeth yr un ohonynt gwympo.

Am y nifer bach o faterion a nodwyd ar domenni glo ar ein hystad, comisiynwyd a chyflawnwyd gwaith adfer a nodwyd yn gyflym. Yn syth ar ôl y digwyddiadau, gwnaed peth gwaith brys i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru hefyd, lle roedd angen trwsio seilwaith allweddol er mwyn caniatáu mynediad ar gyfer gweithrediadau coedwig a mynediad trydydd parti. Mae cynllun tair mlynedd wrthi’n cael ei ddatblygu i fynd i'r afael â'r difrod arall i'r asedau ar yr ystâd.

Bydd y gwaith adfer yn parhau dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a phobl Cymru mewn sefyllfa gref i wynebu unrhyw ddigwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Mae gwelliannau uniongyrchol wedi cael eu gwneud i wydnwch ein gwefan a'n systemau rhybuddio ac rydym yn gweithio i gynyddu nifer yr aelodau staff ar rotas digwyddiadau, ond bydd camau gweithredu ychwanegol a nodwyd yn cymryd mwy o amser i'w gweithredu.

Paratoi ar gyfer effeithiau’r newid yn yr hinsawdd

Ym mis Chwefror, gwelsom effaith ddinistriol y glawiad mwyaf erioed a digwyddiadau llifogydd eithafol ar draws ardaloedd eang yng Nghymru. Gwelsom mor aflonyddgar y gall llifogydd fod i gartrefi a busnesau, a sut gall y gofid a'r costau economaidd barhau ymhell ar ôl i’r dyfroedd gilio.

Er bod y ffigurau'n awgrymu bod y digwyddiadau llifogydd a gafwyd yn eithriadol, mae gwyddor hinsawdd yn awgrymu efallai na fyddant mor eithriadol yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'n rhaid i ni dderbyn na allwn atal y glaw ac y bydd peth llifogydd yn anochel. Wrth i’r newid yn yr hinsawdd arwain at dywydd mwy eithafol, byddwn yn sicr yn gweld mwy o'r mathau o stormydd rydym wedi'u gweld eleni yn y dyfodol.

Er bod mis Chwefror yn eithriadol ac yn torri pob record, mae'n rhaid i'n ffocws fod ar y cofnodion na ragorwyd arnynt eto a chymryd y camau angenrheidiol i wella gwydnwch y genedl i lifogydd o'r fath.

Mae'r dasg o reoli symiau dŵr mor fawr yn heriol iawn ac mae'n rhaid ei gwneud mewn ffordd gydweithredol.

Mae Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yng Nghymru'n darparu man cychwyn cadarn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni i gyd addasu'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio wrth i'r argyfwng yn yr hinsawdd ddatblygu – er mwyn dysgu sut i fyw gydag amrywiadau mewn tymheredd a rhagor o ddŵr ac i gefnogi'n cymunedau i ddod yn fwy gwyliadwrus a gwydn i ddigwyddiadau tywydd eithafol amlach.

Mae hyn yn golygu gwybod ein perygl llifogydd, paratoi ymlaen llaw, cofrestru i'r system rhybuddio am lifogydd, a chymryd y camau cywir i ddiogelu ein hunain, ein cartrefi a'n heiddo. Drwy ein cynlluniau llifogydd cymunedol, rydym yn gweithio gyda phobl i'w helpu i ddeall y camau gweithredu y gallant eu cymryd i leihau eu risg eu hunain a'r mesurau y gallant eu rhoi ar waith i gynyddu lefel ddiogelwch eu heiddo.

Mae'n rhaid hefyd i reoli dŵr a pherygl llifogydd fod wrth wraidd y penderfyniadau cynllunio a wneir ar lefel llywodraeth leol ar leoliad pobl, eiddo, cymunedau a busnesau.

Lle mae'r risg honno’n rhy fawr, dylai adrannau cynllunio ddefnyddio golwg tymor hwy a bod yn ddigon hyderus i wrthod cynigion os oes angen.  Rydym wedi datblygu yn hyn o beth dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen i hynny barhau.

Mae gan Gymru rwydwaith estynedig o amddiffynfeydd rhag llifogydd, sy’n lleihau'r perygl o lifogydd i gymunedau a busnesau yn ogystal â chysylltiadau cludiant, cyflenwadau dŵr, darpariaeth pŵer a gwasanaethau allweddol eraill.  Dylai'r rhwydwaith hwn gael ei ystyried fel rhan allweddol o seilwaith hanfodol y genedl ac mae angen buddsoddi ynddo er mwyn iddo fod yn addas i'r diben neu ei ddisodli lle bo angen.  Mae buddsoddiadau parhaus mewn gwaith cynnal a chadw yn ogystal â gwaith cyfalaf yn hanfodol ac yn angenrheidiol er mwyn i'r rhwydwaith hwn barhau i weithredu’n effeithiol fel y gall cymdeithas, yr economi a natur weithredu a ffynnu.

Gall amddiffynfeydd rhag llifogydd hefyd gael eu hategu ag atebion seiliedig ar natur fel dal dŵr yn ôl yn yr ucheldiroedd, creu lle am ddŵr, plannu coed ac annog ymdreiddiad.

Gallai cynyddu lefelau’r diogelwch i eiddo, fel gosod llifddorau, olygu hefyd fod modd symud yn ôl i’r eiddo yn gyflym pan fydd llifogydd yn digwydd.  Mae gan y defnydd o amddiffynfeydd dros dro neu symudol a dulliau eraill o reoli perygl llifogydd i gyd eu rhannau i’w chwarae hefyd, ond maent yn dibynnu ar gael yr adnoddau angenrheidiol i'w defnyddio.

Ond ni all un ateb unigol ddatrys y broblem a bydd angen cyfuniad o'r holl fesurau hyn yng Nghymru er mwyn helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn. Gyda hynny daw'r angen am fwy o fuddsoddiad yn ein hadnoddau dynol hefyd. Bydd angen mwy o staff arbenigol a medrus i fynd i’r afael â’r materion cymhleth hyn oherwydd bod yr angen yn fwy o ran graddfa ac yn hwy na’r hyn sydd gennym i’w ddefnyddio ar hyn o bryd.

Bydd cyflawni gwelliannau allweddol i'r gwasanaeth yn gofyn am gymorth digonol o ran ariannu ac adnoddau a bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda Llywodraeth Cymru. Amcangyfrifir y bydd angen oddeutu 60-70 o aelodau staff ychwanegol dros y tymor hir i gynnal y gwasanaeth yn gyffredinol ac i fynd i'r afael â'r camau gweithredu a nodir yn ein hadolygiad llifogydd. Bydd angen adnoddau ychwanegol hefyd i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed i leihau perygl llifogydd fel a nodir yn yr adolygiad rheoli tir.  

Ond er mwyn dysgu'r gwir wersi o ddigwyddiadau llifogydd mis Chwefror 2020, mae angen ystyriaeth sylfaenol o'r dewisiadau sydd gan lywodraethau, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau a'r gymdeithas ar sut y gellir rheoli'r risgiau.

Mae Strategaeth Genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn nodi sut mae'n bwriadu rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol i bobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae'n amlinellu'r amrywiaeth lawn o opsiynau sydd ar gael i helpu i reoli risgiau, gan gynnwys (ymhlith eraill) ddulliau rheoli dalgylch a mesurau y bwriedir iddynt gryfhau arferion cynllunio a datblygu er mwyn peidio â rhoi rhagor o gymunedau mewn perygl.  

Fodd bynnag, yn y cyd-destun hwn, mae angen gwneud dewisiadau o hyd am lefel y gwasanaeth sy'n ymarferol, realistig a dichonadwy, a'r goblygiadau cysylltiedig am y buddsoddiad y bydd ei angen.

Mae angen i bobl a lywodraethau ar phob lefel ar draws Gymru benderfynu pa lefel o wasanaeth rheoli perygl llifogydd maent am ei gweld ac yn barod i’w chefnogi. Mae hyn yn cynnwys a ydym am weld, a chefnogi, mwy o fuddsoddiad yn yr amrywiaeth eang o fesurau y mae modd eu defnyddio i reoli perygl llifogydd, fel systemau rhybuddio a hysbysu, adeiladu amddiffynfeydd, sicrhau bod ein heiddo ein hunain yn fwy gwydn i lifogydd, a'r holl ymyriadau eraill posib.

Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried lefel y gwasanaeth y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei darparu. Yn gynhenid i'r syniad o reoli perygl llifogydd yw ei bod yn broses rheoli risg, a gellir cyflawni’r gweithgareddau a wneir i reoli'r risg ar wahanol lefelau.  Mae yna gysylltiad clir rhwng lefel y gwasanaeth y mae modd ei darparu a'r adnoddau a'r gallu sydd ar gael i'w chyflawni.  Felly, gall mwy gael ei wneud i reoli'r risgiau ymhellach, ond bydd angen mwy o adnoddau er mwyn gwneud hyn. Yn yr un modd, gallem wneud llai a derbyn y bydd y perygl llifogydd o ganlyniad i hynny'n fwy.

Casgliad pwysig o'r adolygiad hwn yw nad oedd graddau'r adnoddau a oedd gennym yn cydweddu â maint y dasg wrth law am ddigwyddiad o'r raddfa ac arwyddocâd hwn.  Yn ogystal, mae'r disgwyliadau wrth gyflawni gan yr holl randdeiliaid yn cynyddu drwy'r amser. 

O ganlyniad, nid oedd lefel y gwasanaeth roeddem yn gallu ei darparu gyfwerth â lefel y gwasanaeth yr oedd sawl un yn disgwyl gennym. 

Tybiwyd gan lawer fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod ac yn meddu ar yr adnoddau digonol i reoli risgiau ar lefel sy'n gallu mynd i'r afael â graddfa eithriadol digwyddiadau fel a gafwyd ym mis Chwefror. 

Ond er gwaethaf ymroddiad ac ymdrechion yr holl gydweithwyr dan sylw, dengys y dystiolaeth nad oeddem yn gallu cyflawni lefel y gwasanaeth yr oedd ei hangen na'i disgwyl yn llawn a bod diffyg mewn rhai meysydd. 

Gyda gwyddor yr hinsawdd yn nodi y bydd mwy o gyfnodau o dywydd eithafol yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni fod yn realistig am yr hyn y gallwn ei wneud i gau'r bwlch hwnnw. Gall gwelliannau gael eu gwneud i rai elfennau o'n gwasanaeth cyfredol gan ddefnyddio adnoddau presennol a byddant yn cael eu gwneud, ond, yn y bôn, mae arnom angen dealltwriaeth gyffredin o lefel y gwasanaeth y mae Cymru ei heisiau ac yn barod i’w chefnogi.

Mae'n hanfodol bod didwylledd am berygl llifogydd yn y dyfodol ymhlith ein holl gynulleidfaoedd, a dylai hyn gael ei annog fel bod pawb yn deall y risgiau ac yn gweithio ar y cyd i gynyddu gwydnwch preswylwyr a busnesau, fel eu bod mewn sefyllfa well i adfer yn gynt ar ôl dioddef llifogydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i chwarae rôl arweiniol yn yr ymdrech i wneud cymunedau'n fwy gwydn i ddigwyddiadau tywydd eithafol. Byddwn yn gwneud mwy i gyfathrebu â chymunedau am ein gweithrediadau ac yn parhau i gyflenwi'r gwasanaeth rheoli perygl llifogydd gorau y gallwn, gan gydnabod a bod yn realistig am ein cyfyngiadau wrth fynd i'r afael â grym natur.  Byddwn hefyd yn chwarae ein rhan wrth lunio ymateb Cymru i heriau sylweddol yr argyfwng yn yr hinsawdd yn y dyfodol.   

Ond ni allwn fynd i'r afael â'r materion ar ein pennau ein hunain. Dim ond drwy ymgymryd â dull cyfannol ar draws llywodraethau, awdurdodau, dalgylchoedd, busnesau a chymunedau y gallwn wneud penderfyniadau doethach am y camau gweithredu a'r buddsoddiadau y mae angen i ni eu gwneud yng Nghymru i liniaru risgiau yn y dyfodol mewn hinsawdd sy'n newid.

Casgliad

Does dim amheuaeth y gwnaeth y glaw eithafol a’r amodau hynod heriol ym mis Chwefror roi straen ar bawb a oedd yn rhan o'r gwaith.  Drwy bopeth, roedd ymdrechion cymunedau a'r sefydliadau ymateb yn sylweddol a dylent gael eu cydnabod felly.

Er nad oes modd dibrisio effaith llifogydd ar fwy na 3,100 o eiddo, mae tystiolaeth gref fod gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a'r buddsoddiad a wnaed mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi atal llifogydd i lawer mwy.  Mae'r cyngor rydym yn ei ddarparu ar benderfyniadau cynllunio hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i leihau perygl llifogydd ledled Cymru.

Bydd y gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn ddiweddar i'n gwasanaethau digidol ar ein gwefan bellach yn darparu lefel wasanaeth hyd yn oed yn fwy i ardaloedd mewn perygl, gan roi gwybodaeth gynhwysfawr ac mewn amser real am berygl llifogydd, lefelau afonydd, glaw a lefel y môr i aelwydydd, busnesau a chymunedau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd y canlyniadau a'r camau gweithredu argymelledig yn ein hadolygiadau'n hynod o ddifrif, gan gydnabod lle maent wedi myfyrio'n gadarnhaol a'r hyn rydym wedi'i wneud i ddiogelu cymunedau dros y blynyddoedd a derbyn yn llwyr lle mae angen gwneud newidiadau i wella’n barhaus y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Ymhlith y materion y gwnaeth ein hadolygiadau eu nodi, mae yna bethau yr oedd modd i ni fynd i'r afael â hwy'n gynt, gan gynnwys archwilio ac atgyweirio ein hamddiffynfeydd a'n hadeileddau lle roedd angen.

Bydd elfennau eraill gwelliant yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol, gwaith dylunio a chynllunio a byddant yn cymryd amser, efallai blynyddoedd, i'w gweithredu’n llawn. Bydd angen i'r buddsoddiad hwnnw hefyd gael ei ategu â’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni hyn. Bydd angen i'r buddsoddiadau hyn gael eu hategu â newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn rheoli perygl llifogydd yng Nghymru, gan addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a derbyn y bydd rhai llifogydd yn anochel.

Mae angen mwy o drafodaeth ar yr elfennau hyn sy'n ymwneud â lefel y gwasanaeth y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei gweithredu a'i darparu o fewn ei adnoddau cyfredol.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl, technoleg, seilwaith, systemau a phrosesau i ymgymryd â'n dyletswyddau rheoli perygl llifogydd ac i ddiogelu'n cymunedau. Ond mae effaith y newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth i ni i gyd fynd i'r afael â hi ar y cyd ac mae'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar unwaith.