Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Trwyddedau i reoli cigfrain

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn pryderu am gyhoeddi trwyddedau i saethu cigfrain, rydym wedi creu'r dudalen Cwestiynau Cyffredin isod a gobeithio bydd hyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych

Faint o drwyddedau i ladd Cigfrain sydd wedi’u cymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae cyfanswm o bedair trwydded wedi’u cymeradwyo ar gyfer saethu cigfrain ers i CNC gael ei ffurfio ar 1af Ebrill 2013. Roedd dwy o’r rhain ar gyfer yr un safle, a oedd â phroblemau gyda chigfrain yn ymosod ar da byw mewn dwy flwyddyn wahanol. 

Ble y rhoddwyd y trwyddedau hyn?

Dwy yn Sir Ddinbych, un yng Ngwynedd, ac un ym Mro Morgannwg. 

Pam fyddai angen trwydded fel hyn?

Efallai y bydd angen trwydded i ladd rhywogaethau penodol o anifail os yw'r rhywogaeth honno'n berygl i iechyd y cyhoedd neu i dda byw. Byddai'n rhaid i ymgeisydd roi cynnig ar ddulliau nad ydynt yn lladd i ddelio â'r mater cyn gwneud cais am drwydded rhywogaeth. 

Pa amodau a gaiff eu cynnwys yn y trwyddedau hyn?

Caiff amodau amrywiol eu cynnwys mewn trwydded i reoli adar gwyllt. Gallant gynnwys y canlynol: 

  • Y nifer fwyaf o adar y gellir eu rheoli dan y drwydded
  • Cyfanswm y bobl sydd â’r awdurdod i reoli adar gwyllt dan y drwydded
  • Y dulliau rheoli, er mwyn sicrhau y gellir lladd yr adar yn llwyr a di-boen, pan fo trwyddedau’n cynnwys dulliau rheoli marwol
  • Yr angen i gael caniatâd y tirfeddiannwr cyn mynd i’r afael ag unrhyw weithgareddau dan y drwydded
  • Dylai’r offer a’r dulliau a ddefnyddir at ddibenion y drwydded achosi cyn lleied ag y bo modd o greulondeb, dioddefaint neu anaf i’r adar ifanc neu’r adar llawndwf
  • Rhaid defnyddio technegau dychryn nad ydynt yn rhai marwol ar y cyd ag unrhyw ddulliau rheoli marwol
  • O fewn pedair wythnos ar ôl i’r drwydded ddod i ben, mae’n ofynnol i ddeiliad y drwydded gyflwyno manylion i CNC ar y ffurflen adrodd swyddogol am y gweithgareddau a’r gweithrediadau yr aeth i’r afael â nhw yn rhinwedd y drwydded 

A oes yna unrhyw gyfyngiadau o ran pwy a all wneud cais am drwydded i reoli Cigfrain?

Gall unrhyw unigolyn wneud cais am drwydded i reoli cigfrain efo tystiolaeth fod angen un. Dim ond os yw pwrpas y drwydded wedi’i gynnwys yn adran 16(1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 y gall CNC roi’r drwydded (er enghraifft, ar gyfer amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd, neu er mwyn atal niwed difrifol i stoc). Fydd CNC yn gwrthod trwydded i unrhyw un sydd methu cyflwyno tystiolaeth addas. 

Faint o Gigfrain y gellir eu lladd fesul trwydded?

Mae’r nifer yn unigryw ar gyfer pob trwydded. Mae’n dibynnu ar natur y broblem a faint o gigfrain sy’n achosi’r broblem dan sylw. 

Pa ddulliau marwol o reoli Cigfrain sydd wedi’u cymeradwyo fel rhan o unrhyw drwydded?

Mae amodau trwyddedau’n nodi’r ffyrdd y mae’n rhaid eu defnyddio i reoli cigfrain neu sut y dylid dinistrio’r wyau/nythod. Yn ôl y drwydded, y dulliau marwol mwyaf di-boen yn unig o reoli cigfrain y caniateir eu defnyddio. 

Pa dystiolaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno wrth wneud cais am drwydded i reoli cigfrain?

Mae’r ffurflen gais ar gyfer rheoli adar gwyllt yn cynnwys adran yn ymwneud â natur y broblem. Rhaid i’r ymgeisydd nodi pam y mae’r cigfrain yn achosi problem. Efallai y bydd CNC yn gofyn am dystiolaeth o’r niwed a achosir. Yn ôl Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’n drosedd i unrhyw ymgeisydd gyflwyno datganiad anwir ar y ffurflen. 

A oes disgwyl i ymgeiswyr am drwyddedau fod wedi defnyddio dulliau nad ydynt yn rhai marwol i reoli Cigfrain cyn gwneud cais am drwydded i’w lladd? Os felly, beth yw’r dulliau hyn? Hefyd, sut y caiff y dystiolaeth hon ei hasesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos eu bod wedi defnyddio dulliau nad ydynt yn rhai marwol i ymdrin â’r broblem cyn gwneud cais am drwydded i ladd cigfrain. Trwyddedau i ategu technegau dychryn yn unig a roddir gennym; dim ond pan fetho popeth arall y dylid lladd cigfrain. Fel y nodir uchod, ceir adran yn y ffurflen lle y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddangos y mesurau sydd eisoes ar waith. 

Sut y mae CNC wedi mynd ati i asesu pa un a fydd rhoi trwydded i reoli Cigfrain yn cael effaith ar statws cadwraethol y rhywogaeth?

Fel arfer, mae’r trwyddedau a roddir gennym yn cynnwys amodau’n amlinellu nifer fach o adar y gellir eu lladd. Oherwydd hyn, rydym o’r farn mai effaith fach iawn a geir ar boblogaeth y rhywogaeth.

Hefyd, rydym fel arfer yn ymgynghori â’n hadaregwyr mewnol i geisio’u cyngor ynghylch pa un a ddylid rhoi trwydded, ai peidio (yn enwedig ar gyfer ceisiadau’n ymwneud â nifer fwy o adar). 

A oes unrhyw un o’r ardaloedd lle y rhoddwyd trwyddedau yn gorgyffwrdd â Pharciau Cenedlaethol? Os felly, pa rai?

Nid oes unrhyw un o’r trwyddedau a roddwyd ers i CNC gael ei ffurfio (Ebrill 2013) wedi gorgyffwrdd â Pharciau Cenedlaethol. 

Pwy sy'n cael ei ymgynghori fel rhan o'r penderfyniad i gyhoeddi trwyddedau i ladd cigfrain?

Ni ymgynghorir â sefydliadau allanol fel arfer. Fel yr amlinellir uchod, ymgynghorir ag adaregwyr o fewn y tîm ecoleg yn CNC fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae ein hadaregwyr yn ystyried yr effeithiau posibl ar boblogaethau adar a chynghori ar gamau gweithredu eraill neu ychwanegol y gall ymgeisydd eu cymryd lle bo hynny'n briodol.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.