Ein hymateb i bandemig y coronafeirws
Newyddion ynglŷn â sut rydym yn rheoli ein gwasanaethau...
Os na allwch roi llofnodion ysgrifenedig ar bob dogfen, byddwn yn derbyn llofnodion electronig yn eu lle.
Mae hyn yn cynnwys dogfennau ar gyfer llwythi gwastraff ar draws ffiniau a nodiadau cludo gwastraff.
Ceir mwy o wybodaeth yn y penderfyniad rheoleiddiol isod.
Mae hwn i'w weithredu fel mesur wrth gefn mewn argyfwng yn unig. Mae'n destun adolygiad.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i ofynion cadw cofnodion ar gyfer trosglwyddo gwastraff nad yw'n beryglus ac anfon gwastraff peryglus. Mae wedi'i greu yn sgil y pryderon sy'n gysylltiedig â lledaeniad y coronafeirws.
Mae gweithwyr sy'n trin gwastraff fel arfer angen llofnodi'r ddogfennaeth sy'n cofnodi trosglwyddiadau ac anfoniadau er mwyn profi cadarnhad y partïon sy'n rhan o'r gweithgareddau hyn.
Fodd bynnag, os ydych yn dilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, gallwch gwblhau'r gweithgaredd trosglwyddo neu anfon heb ddarparu llofnodion y partïon dan sylw.
Ni fydd yn ofynnol gennym bod deiliad gwastraff yn llofnodi'r ddogfennaeth lle caiff yr amodau canlynol eu bodloni. Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:
Mae'n rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgarwch yn peryglu iechyd dynol, neu’r amgylchedd. Ni ddylech wneud y canlynol:
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn cyn belled â'ch bod yn sicrhau'r canlynol:
Caiff y penderfyniad rheoleiddiol hwn ei adolygu erbyn 31 Awst 2021.
Sylweddolwn y bydd yr epidemig COVID-19 wedi effeithio mewn sawl ffordd ar gynnal cymhwysedd technegol.
Rydym wedi addasu ein dull rheoleiddio i gydnabod problemau yn y meysydd canlynol:
Ceir mwy o fanylion yn ein penderfyniad rheoleiddio isod.
Deallwn y bydd nifer o weithredwyr yn bryderus ynghylch sut y gallant fodloni’r gofynion i fod yn bresennol ar safleoedd tra bydd lefelau staffio is i’w cael a phan fydd staff, o bosibl, yn sâl neu’n hunanynysu. Byddwn yn rhoi dull pragmataidd ar waith.
Dylai gweithredwyr wneud y canlynol:
Pan na lwyddir i wneud trefniadau amgen, a phan gaiff un o amodau’r drwydded ei dorri, yna bydd CNC yn cofnodi hyn mewn adroddiad CAR a bydd y sgôr yn cael ei gohirio.
Dim ond i weithredwyr sydd ar hyn o bryd yn cydymffurfio â’r amodau sylfaenol a’r gofynion parhaus o ran cymhwysedd cyn 16 Mawrth 2020 y bydd y canlynol yn berthnasol.
Gan fod canolfannau profion Pearson VUE ynghau yn awr, nid yw profion Cymhwysedd Parhaus ar gael ar hyn o bryd. Hyd nes y bydd cyngor y Llywodraeth yn newid, os methwch â chwblhau asesiad cymhwysedd parhaus a oedd i fod i gael ei gynnal ar ôl 16 Mawrth 2020, ni fyddwn yn ystyried hyn fel methiant i gydymffurfio â chynllun Cymhwysedd Gweithredwyr CIWM/WAMITAB.
Bydd yn ofynnol ichi ddangos eich bod wedi cofrestru efo WAMITAB i ymgymryd â’r prawf hwn. Os yw hyn yn berthnasol i chi neu eich Rheolwr Cymhwysedd Technegol, cysylltwch â CNC a WAMITAB cyn gynted ag y bo modd i roi gwybod inni. Mae WAMITAB yn cadw cofnod o’r rhai sydd wedi cysylltu â nhw. Bydd CNC yn gwirio’r rhestr hon.
Pan gaiff cais am drwydded ei gyflwyno, a phan oedd angen cadarnhau’r cymhwysedd parhaus ar ôl 16 Mawrth, ni fyddwn yn ystyried hyn fel methiant i brofi cymhwysedd technegol a byddwn yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais yn y ffordd arferol.
Bydd yn ofynnol ichi ddangos eich bod wedi cofrestru efo WAMITAB i ymgymryd â’r prawf hwn a’ch bod eisoes yn meddu ar y cymwysterau sylfaenol perthnasol sy’n cyd-fynd â’r math o gyfleuster rydych yn gwneud cais ar ei gyfer.
Disgwylir ichi aildrefnu eich prawf cyn gynted ag y bydd y canolfannau wedi ailagor.
Pan fydd trwydded yn bodoli eisoes, a phan fydd yn amhosibl cael cymhwysedd parhaus, bydd y manylion yn cael eu nodi mewn adroddiad asesu cymhwysedd, a’u sgorio, ond bydd y sgôr honno’n cael ei gohirio.
Os yw’r gweithredwr yn methu â sicrhau cymhwysedd parhaus ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae yna berygl y bydd y gweithredwr hwnnw yn torri amodau ei drwydded, neu fe allai hyn arwain at oedi cyn rhoi’r drwydded. Mewn achosion o’r fath, disgwylir i’r gweithredwr gael rhywun i gymryd lle’r Rheolwr Cymhwysedd Technegol er mwyn parhau i gydymffurfio.
Pan fydd gweithredwr yn dibynnu ar y dystysgrif EPOC i ymgeisio am drwydded neu ar gyfer safleoedd risgiau haen isaf (haenau WAMITAB), ni fydd yr anallu i gyflwyno’r EPOC er mwyn cymhwyso i wneud cais newydd am drwydded neu safleoedd risgiau haen isaf yn rhwystro’r cais rhag cael ei brosesu.
Bydd CNC yn parhau i brosesu ceisiadau am drwyddedau heb dystysgrifau EPOC, cyn belled â bod yr ymgeisydd wedi cofrestru bwriad i gwblhau’r EPOC.
Bydd yn ofynnol ichi ddangos eich bod wedi cofrestru gyda’r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a bydd yn rhaid ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon yn eich cais am drwydded. Bydd CNC yn gwirio hyn gyda CIWM.
Bydd yn rhaid i weithredwyr wneud pob ymdrech i ddatrys hyn cyn gynted ag y bo modd, pan fydd Cyrsiau EPOC ar gael.
Os yw trwydded yn cael ei rhoi, ac os yw’r ymgeisydd yn methu â sicrhau’r cymhwyster EPOC ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae yna berygl y bydd y gweithredwr hwnnw yn torri amodau ei drwydded.
Oherwydd y sefyllfa bresennol, efallai na fydd modd mynd ar safleoedd at ddibenion goruchwylio ac archwilio dan y cynllun Sgiliau Ynni a Chyfleustodau. Fel arfer, caiff y cynllun ei archwilio a’i drwyddedu gan Gyrff Ardystio achrededig, ac mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau goruchwylio rheolaidd i sicrhau bod y System Rheoli Cymhwysedd (CMS) yn parhau i fod yn effeithiol.
Pan fo modd, bydd CNC yn disgwyl i’r System Rheoli Cymhwysedd gael ei harchwilio o bell. Felly, bydd modd i bob Gweithredwr fynd i’r afael ag amserlen oruchwylio a fydd yn parhau i arddangos System Rheoli Cymhwysedd effeithiol a dangos y cydymffurfir â’r gofynion o ran cymhwysedd technegol.
Pan fydd proses o bell ar waith ar gyfer goruchwylio ac archwilio, bydd CNC yn disgwyl i’r Gweithredwr gadw cofnod o hyn a sicrhau bod y cofnod hwn ar gael i’w archwilio.
Mae System Rheoli Cymhwysedd yn sicrhau bod pob gweithiwr ar y safle yn cyfrannu at berfformiad cyffredinol y safle, a bod cymhwysedd y gweithwyr yn cael ei gynnal mewn amser real, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ar gyfer eu rôl. Pan na fydd hyn yn bosibl, disgwylir ichi roi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn inni allu asesu a oes yna achos o ddiffyg cydymffurfio.
Sylwer: Nid yw’r System Rheoli Cymhwysedd yn ei gwneud yn ofynnol ichi fod â rheolwr technegol gymwys ar bob safle, ond dylai un o gynrychiolwyr y rheolwyr fod ar gael i ddelio ag unrhyw faterion a allai effeithio ar gydymffurfio ag amodau’r drwydded amgylcheddol.
Nid yw’n ofynnol ychwaith ichi gofnodi’r amseroedd y bydd pobl ar y safle, oherwydd dull cyfannol yw hwn ac mae’n cydnabod bod pob gweithiwr ar y safle yn cyfrannu at berfformiad cyffredinol y safle.
Caiff y penderfyniad rheoleiddiol hwn ei adolygu erbyn 31 Awst 2021.
Mae angen cymryd camau gofalus cyn ailddechrau cyfleuster trin carthion ar ôl cyfnod o lif araf o elifion.
Yn ystod gweithrediad arferol, mae llif rheolaidd o elifion carthion yn cadw micro-organebau yn fyw yn y broses fiolegol. Mae'r cyfleuster trin carthion yn dibynnu ar y broses fiolegol i fwydo a chael gwared ar lygryddion, gan drin elifion carthion i ansawdd digonol cyn ei ollwng i ddŵr wyneb neu ddŵr daear.
Gall ailddechrau’r cyfleuster ar ôl iddo gael ei gau o ganlyniad i’r COVID-19 orlwytho'r micro-organebau. Gallai hyn arwain at elifion o ansawdd gwael yn llygru'r amgylchedd os nad yw’r gweithredwr yn cymryd camau gofalus i arwain y broses fiolegol.
Yng Nghymru, mae gollwng elifion carthion i ddŵr daear neu ddŵr wyneb yn cael ei reoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rhaid i'r gollyngiad fodloni'r safonau a nodir mewn trwydded amgylcheddol neu fodloni telerau esemptiad.
Mae gweithredwyr sy'n gollwng elifion o ansawdd gwael yn cymryd y risg o dorri’r rheolau neu esemptiad amgylcheddol os yw'r gollyngiad yn achosi llygredd dŵr wyneb neu ddŵr daear. Wrth i fusnesau agor, mae cynnydd yn y llif neu ddechrau’r cyfleuster trin yn sydyn yn debygol iawn o arwain at elifion o ansawdd gwael os nad yw’r gweithredwyr yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfleuster yn gallu gweithredu'n effeithiol.
Dylai gweithredwyr sydd wedi arfer ag amrywiadau tymhorol mewn llif a llwythi fel meysydd gwersylla, pentrefi gwyliau ac atyniadau i dwristiaid ddilyn eu gweithdrefnau arferol ar gyfer cynnydd yn y llif i'w cyfleusterau trin gan gydymffurfio â'u trwyddedau amgylcheddol.
Dylai gweithredwyr nad ydynt wedi arfer ag amrywiadau tymhorol mewn llifoedd carthion ofyn am gyngor technegol arbenigol ar gyfer ail-gomisiynu eu cyfleuster trin carthion. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu ag un o’r canlynol.
Fel rhan o'r broses ailddechrau, efallai y bydd angen ail-hadu’r cyfleuster parod â slwtsh o gyfleuster arall. Bydd angen i weithredwyr gofrestru esemptiad gwastraff U6 i gario’r slwtsh hwn o gyfleuster carthion arall.
Mae British Water wedi creu canllawiau ar gyfer ailddechrau cyfleuster parod i drin carthion ac mae rhestr o beirianwyr cynnal a chadw addas i'w gweld ar eu gwefan.
Efallai y bydd gan y cyfleuster trin hefyd gyn-driniaeth ar ffurf trapiau braster, olew a saim. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod y rhain yn barod i'w defnyddio eto pan fydd y cyfleuster trin yn weithredol neu gallwch fod mewn perygl o niweidio'r cyfleuster. Dylid defnyddio cynhyrchion glanhau yn gynnil gan y bydd y broses fiolegol yn y cyfleuster trin yn sensitif i lefelau gormodol o gemegau.
Ar ôl i gyfleuster trin gael ei ailddechrau neu fod llifoedd wedi cynyddu, rhaid i'r gweithredwr barhau i’w fonitro i sicrhau ei fod yn gweithredu'n gywir ac nad yw'n achosi llygredd.
Os oes pryderon bod llygredd yn digwydd dylai'r gweithredwr hysbysu ei gyswllt rheoliadol neu ffonio ein llinell gymorth 24 awr.
Rhaid peidio â thywallt diodydd gwastraff i lawr draeniau sy'n arwain at gyfleusterau trin carthion preifat neu'n uniongyrchol i ddŵr wyneb neu ddŵr daear oherwydd gall achosi llygredd.
Dim ond cludwyr gwastraff trwyddedig ddylai gael gwared â diodydd gwastraff a dylid ond eu gwaredu mewn cyfleusterau gwastraff a ganiateir, addas. Cysylltwch â Chymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain i gael cyngor neu cyfeiriwch at yr hierarchaeth wastraff.
Oherwydd bod ein swyddfeydd ar gau, nid ydym yn gallu darparu cardiau copi ar gyfer cludwyr gwastraff ar hyn o bryd.
Gellir defnyddio eich rhif cyfeirnod fel tystiolaeth o'ch cofrestriad.
Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach
Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach