Maes parcio Fforest Fawr i gau ar gyfer gwaith ail-wynebu

Llun o lwybr cerdded yn arwain i mewn i'r goedwig

Bydd gwaith i atgyweirio wyneb y ffordd fynediad i Fforest Fawr, coedwig gyhoeddus boblogaidd ger Tongwynlais, yn dechrau ddydd Llun 5 Mehefin.

Bydd angen i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n rheoli’r goedwig, gau’r ffordd fynediad a’r maes parcio am tua wythnos.

Bydd y llwybrau cerdded wedi'u harwyddo yn Fforest Fawr yn parhau ar agor, er y bydd mynediad iddynt o’r maes parcio ym mhen gogleddol y goedwig yn gyfyngedig.

Dylai ymwelwyr ystyried ffyrdd eraill i gael mynediad i'r goedwig, megis ar droed o Ffynnon Taf.

Dywedodd Jonathan Lee o dîm rheoli tir CNC:

“Mae Fforest Fawr yn darparu cefndir syfrdanol i Gastell Coch ac mae’n un o’n coedwigoedd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

“Mae angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y ffordd fynediad i’r maes parcio, sy'n cael ei defnyddio'n helaeth, er mwyn sicrhau bod pobl a cherbydau’n gallu mynd i mewn i’r goedwig yn ddiogel.

“Dyma pam mae’n rhaid i ni gau’r ffordd fynediad a maes parcio’r goedwig tra bod y gwaith atgyweirio hwn yn cael ei wneud.

“Byddwn yn anelu at gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosib ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir i ymwelwyr.”

Rhagor o wybodaeth am Fforest Fawr.