Cyfuno ac adolygu trwydded amgylcheddol ar gyfer ffatri Byrddau Gronynnau'r 'Kronospan' Waun

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau gronynnau a byrddau ffeibr dwysedd canolig (MDF) yn y Waun, Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae'r gweithgareddau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu'r byrddau wedi gofyn am sawl trwydded amgylcheddol i reoli lefelau'r allyriadau a allai fod yn niweidiol o ganlyniad i'r gweithgareddau ac i sicrhau bod y technegau a ddefnyddir yn unol â datblygiadau technegol a safonau'r diwydiant. Yr enw ar y safonau hyn yw’r ‘Technegau Gorau sydd ar Gael’.

Mae’r gweithgareddau yn y Weithfa (safle) sy’n cael eu rheoleiddio gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 wedi bod yn destun cyfarwyddiadau amrywiol gan y llywodraeth. Yn fwyaf nodedig oedd y cyfarwyddyd cyntaf yn 2003, a oedd yn rhannu’r gwaith rheoleiddio hwnnw rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)).

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd pellach (‘Cyfarwyddyd 2018’) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno’r ddwy drwydded bresennol ar gyfer y safle yn un, ac yna cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded honno.

Mae CNC bellach wedi cwblhau’r gwaith o amrywio a chyfuno trwyddedau’r ddau reoleiddiwr ac wedi dyroddi trwydded gyfunol i’r gweithredwr ar 4 Hydref 2022. Golyga hyn mai CNC bellach fydd unig reoleiddiwr y safle ac y bydd yn cynnal yr holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded i’r dyfodol.

Mae’r hysbysiad amrywio, y drwydded gyfunol a’n dogfen penderfyniad manwl yn cael eu cadw ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.  

Mae’r drwydded gyfunol yn cynnwys nifer o amodau gwella y gall y gweithredwr eu rhoi ar waith dros y 18 mis nesaf. Byddwn yn gweithio’n agos ag ef i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.

Yn fwyaf diweddar, rydym wedi amrywio'r drwydded gyfunol i ymgorffori adolygiad o weithgareddau, dan arweiniad rheoleiddwyr, yn erbyn y technegau gorau sydd ar gael, fel y’u cyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer sectorau diwydiant penodol. Bydd amrywiadau pellach i'r drwydded yn cael eu gwneud i'w chadw'n gyfredol.

Fel gyda phob safle gweithredu a thrwydded, rydym yn ymwybodol y bydd y gweithredwr yn dymuno amrywio ei weithgareddau ac yn sgil hynny, ei drwydded. Bydd yn rhaid iddo wneud hyn drwy gyflwyno cais amrywio i CNC ynghyd â’i gynigion. Byddwn yn dilyn ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd drwy roi ystyriaeth i ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer unrhyw geisiadau gan weithredwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf