Cwympo coed yn Rhyslyn, Parc Coedwig Afan

Mae coed sydd wedi’u heintio â chlefyd llarwydd yn cael eu cwympo yn rhan Rhyslyn o Barc Coedwig Afan. Dyma’r lle gorau i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir ddiweddaraf.
Diweddariad ar waith cwympo coed yn Rhyslyn
Yn anffodus, mae'r gwaith o gwympo a gwaredu’r coed sydd wedi’u heintio yn ardal Rhyslyn yn cymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Mae sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf diogel posib yn ystod gwaith cwympo ar dir mor heriol, ac amgylchiadau annisgwyl a wynebodd y cwmni pren, wedi golygu bod y gwaith wedi’i ohirio a bydd yn rhaid iddo barhau trwy fisoedd yr haf.
Mae ail dîm cynaeafu wedi ei benodi, a bydd yn dechrau yn fuan. Bydd hyn yn sicr yn helpu’r gwaith cwympo coed i symud ymlaen a hefyd yn galluogi CNC i gadw cymaint â phosib o’r llwybrau coedwig ar agor.
Gobeithir y bydd y contractwyr cynaeafu yn nesáu at ddiwedd cam un a dau ymhen 4-6 wythnos. Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i ddargyfeiriadau a’r llwybrau a fydd yn cau cyn i gamau 3 a 4 gychwyn.
Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw cymaint â phosib o’r llwybrau ar agor gan hefyd gynnal safonau diogelwch. Byddwn yn eich diweddaru am y rheiny cyn gynted ag y cânt eu trefnu.
Rydym yn tynnu’r coed hyn gan eu bod wedi'u heintio â chlefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum.
Mae hwn yn glefyd tebyg i ffwng sy'n achosi difrod helaeth a marwolaethau mewn amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gael gwared ar goed llarwydd sydd wedi’u heintio, o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol - Symud (SPHNm) - a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Rhaid torri pob llarwydden yng Nghymru fel rhan o’n strategaeth genedlaethol i atal lledaeniad pellach.
Amseriad y gwaith
Penderfynodd timau Coedwigaeth Afan yn bwrpasol i osgoi dechrau’r gwaith cwympo coed yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn lleihau’r effaith ar fusnesau lleol sy’n dibynnu ar ymwelwyr â’r goedwig, sy’n dod yno i fwynhau cerdded, rhedeg, marchogaeth, beicio a beicio mynydd.
Dargyfeiriadau a chau llwybrau

Bydd rhai o’r llwybrau cerdded a beicio mynydd yn cael eu cau a’u dargyfeirio wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’r union fanylion yn cael eu cadarnhau a byddant yn cael eu hychwanegu at yr hwb gwybodaeth hwn.
Rydym ni’n deall pwysigrwydd Parc Coedwig Afan o safbwynt hamdden ac rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar bobl sy’n dymuno ymweld â’r goedwig, gan barhau i sicrhau diogelwch ar y lefel uchaf posibl i ymwelwyr a chontractwyr.
Disgwyliwn y bydd y llwybrau canlynol yn cael eu heffeithio:
Llwybrau MTB:
Y Wal – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd newidiadau dros dro yn cael eu gwneud gan gynnwys dechrau a diwedd swyddogol yn Bryn Bettws Lodge gydag addasiadau i’r llwybr.

Yn dilyn cyfres o waith cwympo, bydd angen cau rhannau o’r llwybrau canlynol, gan gynnwys:
Brickworks, Alpha, Elevator, 6ft Under, Resurrection, Stage 4, Zig Zags ac Omega
Llwybr Rookie Glas – yn ystod y gwaith cynaeafu yn yr ardal hon, bydd y Llwybr Rookie Glas ar gau.
Rheilffordd – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd Llwybr y Rheilffordd ar hyd ffordd goedwig Rhyslyn ar gau. Bydd dal modd cael mynediad i’r Llwybr Rheilffordd ar hyd y llwybr Sustrans.
Llwybrau cerdded
Llwybr Pen-rhys – yn ystod y cyfnod cynaeafu yn yr ardal hon, bydd Llwybr Pen-rhys ar gau.
Llwybr Afon a Rheilffordd – yn ystod y gwaith cynaeafu yn yr ardal hon, bydd Llwybr Afon a Rheilffordd yn cael ei addasu dros dro i gynnwys taith gylchol fer, gan ddefnyddio disgyniad Llwybr Rookie Glas.
Llwybr Crib Gyfylchi – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd newidiadau dros dro yn cael eu gwneud gan gynnwys dechrau a diwedd swyddogol yn Bryn Bettws Lodge gydag addasiadau i’r llwybr.

Hawliau tramwy cyhoeddus – mae’r cwmni sy’n prynu’r pren, WBE (Western Bio Energy) wedi gwneud cais i gau’r holl hawliau tramwy cyhoeddus yn ffurfiol o fewn y llannerch ac ar hyd y ddau lwybr tynnu coed hyd at yr ardal stacio coed.
Bydd y canlynol yn parhau i fod ar agor:
- Pob maes parcio
- Llwybr White’s Level
- Llwybr Blade
- Llwybr Awyrlin
- Richard Burton Birthplace Trail
- Llwybr Rookie Gwyrdd
- Llwybr Blue Scar
- Ardal sgiliau ar y Llwybr Rookie
- Taith Hen Ffordd y Llan
Clefyd Llarwydd
Rydym ni’n tynnu’r coed yma gan eu bod wedi’u heintio â chlefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum.
Mae hwn yn glefyd tebyg i ffwng sy’n achosi difrod sylweddol a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Er nad oes modd i ni atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i’w arafu.
Mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnom ni i waredu’r coed llarwydd sydd wedi’u heintio dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symudiad – a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid cwympo’r holl goed llarwydd fel rhan o’n strategaeth genedlaethol i atal lledaeniad pellach.
Helpwch ni i osgoi oedi
Rydym ni’n annog unrhyw un sy’n ymweld â Choedwig Afan yn ystod y gwaith cwympo i ddilyn y dargyfeiriadau a’r arwyddion yn nodi bod llwybrau ar gau.
Pan fo pobl yn anwybyddu dargyfeiriadau ac arwyddion bod llwybrau ar gau, gallant fynd i mewn i safleoedd gweithredol peryglus, gan orfodi contractwyr i oedi’r gwaith nes bydd aelodau’r cyhoedd wedi symud o’r ardal. Gall yr amhariadau hyn arwain at oedi wrth ail-agor y llwybrau sydd wedi’u heffeithio.
Pwyntiau gwybodaeth
Byddwn yn diweddaru arwyddion llwybrau ac yn gosod pwyntiau gwybodaeth mewn meysydd parcio ym Mharc Coedwig Afan cyn dechrau ar y gwaith cwympo.
Ar ôl cynaeafu
Ar ôl cwblhau’r gwaith cynaeafu, bydd yr holl lwybrau sydd wedi’u heffeithio’n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl, a bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i rai ardaloedd.
Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau golygfannau newydd o’r afon.
Bydd gwaith ail-stocio sylweddol yn cael ei wneud drwy blannu coed llydanddail a chonwydd cymysg i dyfu coetir iachach a chryfach.