Diweddarwyd ar 24 Tachwedd 2022 

Yn gynharach eleni, lansiwyd Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae’r tasglu’n dod â phrif chwaraewyr at ei gilydd o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy ac Ofwat, gyda chyngor annibynnol gan Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr. 

Mae’r tasglu wedi datblygu cynlluniau gweithredu ar y cyd i gasglu mwy o dystiolaeth o effaith gorlifoedd stormydd ar ein hafonydd, i leihau eu heffeithiau, i wella rheoleiddio ac i addysgu’r cyhoedd ar gamddefnyddio carthffosydd. Cafodd map ffordd ei gyhoeddi a oedd yn amlinellu’r camau gweithredu hyn ym mis Gorffennaf 2022. 

Cyd-destun

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021-2026) yn nodi'r weledigaeth a'r uchelgais i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n ymrwymo i sicrhau bod natur a'r hinsawdd ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnesau yn y sector preifat. Mae hyn yn gofyn am reoli adnoddau naturiol yn integredig er mwyn sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl mewn ffordd deg, tra'n diogelu pob ecosystem a'r amgylchedd.

Mae amgylchedd dŵr ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau llewyrchus a bioamrywiaeth. Rhaid inni weithredu'n awr i sicrhau bod rheoli ein hamgylchedd dŵr yn gynaliadwy o fudd i bobl a chymunedau Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.

Yr angen i weithredu

Mae'r seilwaith sy’n ddelio â'n carthion yng Nghymru o dan bwysau oherwydd newid yn yr hinsawdd, newidiadau o ran dwysedd a dosbarthiad y boblogaeth, a datblygiadau newydd. Heb weithredu, bydd y pwysau hyn yn cyfrannu at gynnydd yn y llifau mewn gwaith trin, gan beryglu cynnydd yn nifer y gollyngiadau gorlifoedd stormydd (y cyfeirir atynt fel gorlifoedd) sydd â’r potensial i gael effaith andwyol ar ein hamgylchedd dŵr .

Mae gweithredu cyd gysylltiedig ar draws sefydliadau yn hanfodol os ydym am sicrhau newid a gwelliant i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifoedd yng Nghymru.

Ein Nodau

Er mwyn sbarduno ein camau i sicrhau  newid a gwelliant cyflym i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifoedd yng Nghymru , rydym am:

  • Roi cymorth di-dor i Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni eu huchelgeisiau o ran natur a newid yn yr hinsawdd
  • Lleihau effaith andwyol unrhyw ollyngiadau gorlifoedd ar yr amgylchedd drwy dargedu buddsoddiad a chymryd camau rheoleiddio lle bo angen i sicrhau gwelliannau
  • Gweithio i ddatblygu'r fframwaith rheoleiddio presennol i sicrhau bod  cwmnïau dŵr a gwastraff dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol.  Bydd rheoleiddwyr yn defnyddio eu pwerau presennol i yrru'r canlyniadau cywir a dwyn cwmnïau i gyfrif.
  • Casglu mwy o dystiolaeth o'r effaith ar ein hafonydd drwy fonitro'r gollyngiad a'r dŵr sy'n derbyn yn well a, thrwy hyn, gyrru tuag at rwydweithiau gwirioneddol glyfar gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg a rheoli amser real.
  • Gweithio gyda chwsmeriaid dŵr i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd.
  • Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth a rôl gorlifo yng Nghymru


Ein map ffordd ar gyfer gweithredu, newid a gwella

Er bod gwaith eisoes ar y gweill i wella gorlifiadau yng Nghymru, mae'r Tasglu wedi nodi 5 maes ar gyfer newid a gwella, a  nodir isod, lle mae angen cymryd camau ychwanegol er mwyn sbarduno newid, gwelliant a buddsoddiad cyflym i gyflawni ein nodau. 

5 maes ar gyfer newid a gwella

Ail-greu effaith weledol (Gosod Sgriniau)

Wrth fynd i'r afael â'r effeithiau gweledol a welir yn ein hafonydd, mae angen  rhaglen o  asesu gorlifoedd lle nad yw sgrinio ar waith ar hyn o bryd neu, lle mae ar waith, efallai na fydd yn ddigonol ar gyfer defnydd amwynder modern.

Bydd y cwmnïau dwr yng Nghymru yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol i bennu meini prawf asesu ac yna'n cynnal asesiadau o fewn y cyfnod AMP7 presennol. Bydd yr asesiadau hyn yn nodi lle mae angen gosod sgrin  bellach ac yn llywio achos cwmnïau dros fuddsoddi mewn AMP8 a rhaglenni buddsoddi  dilynol.  Gan weithio gyda rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru, disgwylir i gwmniau dŵr nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar yr asedau hynny yr ystyrir bod angen rhoi sylw brys ac uniongyrchol iddynt, gan ail-flaenoriaethu gwariant y cytunwyd arno eisoes ar gyfer Cynlluniau Busnes AMP7.

Ansawdd elifiant ac ansawdd afonydd

Er mwyn llywio'r gwaith o ddarparu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen gwell gwybodaeth  am  ansawdd rhyddhau o orlifoedd a'r effaith ar ansawdd y dŵr sy'n eu dderbyn. Bydd monitro elifiant gwell ar safleoedd wedi'u targedu, ynghyd â monitro hyd digwyddiadau sydd eisoes ar waith,  yn gwella'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn galluogi targedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol.  Rhaid i fonitro gorlifoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol hefyd weithio ochr yn ochr â rhaglenni monitro ar gyfer ffynonellau llygredd o amaethyddiaeth, ffynonellau gwasgaredig a sectorau eraill.

Bydd rhaglen monitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu rhwng CNC a'r cwmniau dwr  i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifo ledled Cymru. Bydd yr angen i fonitro ar gyfer ystod ehangach o lygryddion gan gynnwys micro-blastigau, cynhyrchion fferyllol a pharamedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael ei asesu.

Bydd cwmnïau dŵr hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a thystiolaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys atebion a thechnoleg arloesol.  Gall dinasyddion a grwpiau lleol chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i daclo llygredd ansawdd dŵr gan ddarparu gwybodaeth fonitro ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.  Byddwn yn gweithio'n galed gyda gwyddonwyr dinasyddion i ddeall sut mae eu gwaith yn rhan o'n rhaglen waith derfynol.

Rheoleiddio amgylcheddol y gorlifoedd  

I sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol, mae angen newidiadau i'r dulliau rheoleiddio presennol a chryfhau rheoleiddio amgylcheddol.

Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol yn adolygu ac  yn gweithredu newidiadau lle y bo'n briodol i'r fframwaith rheoleiddio presennol er mwyn sicrhau  canllawiau, prosesau ac offer rheoleiddio clir ar gyfer gwella asedau sy'n perfformio'n wael.  Dylid profi a mireinio mesurau caniatáu ac adrodd yn ôl  yr angen.

Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol a'r cwmnïau dŵr yn sicrhau bod data gorlifoedd yn hawdd ei gyrraedd ac yn ddealladwy i ystod eang o randdeiliaid a'r cyhoedd, gan adeiladu ar y dulliau presennol o adrodd data.  Yr uchelgais yw monitro gorlifoedd mewn amser real, gan ganiatáu i rheini sydd â diddordeb gael gafael ar ddata yn ôl yr angen.

Byddwn yn cydweithio â’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gyflawni ei raglen Pobl a'r Amgylchedd, er mwyn gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cysylltiad rhwng ein gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ac iechyd ein hafonydd a'n hamgylchedd dŵr.

Capasiti'r rhwydwaith – cynllunio ar gyfer y tymor hir

Er mwyn sicrhau rhwydwaith sy'n addas i'r diben, yn awr ac yn y dyfodol, mae  angen inni gryfhau'r gofynion cynllunio hirdymor ar gyfer seilwaith carthffosiaeth.

Mae Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr (DWMP) yn rhoi cyfle i gwmnïau dŵr a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu neu broses gynllunio strategol 25 mlynedd a gynlluniwyd i edrych ar ddalgylchoedd carthffosiaeth. Felly, rhaid i aelodau Tasglu weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r fframwaith  rheoleiddio i gefnogi DWMPs yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu DWMPs, mae angen i ni ystyried sut y gellir mynd i'r afael â rheoli ffynonellau ac ymddygiad cwsmeriaid drwy addysg, ymgyrchoedd atal llygredd neu ddeddfwriaeth well. Mae atal dŵr glaw a phlastig rhag mynd i mewn i'r system garthffosiaeth yn hanfodol ar gyfer y tymor hwy os ydym am fynd i'r afael â phroblemau.

Dealltwriaeth ac ymgysylltiad cyhoeddus

Mae angen i ni ddatblygu a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o orlifoedd a'u cyswllt â materion ansawdd dŵr eraill. Dylid hefyd ddefnyddio ymgysylltiad â chwsmeriaid a rhanddeiliaid i lywio dealltwriaeth o sut mae pobl yn ymwneud â'u hafonydd a'u hamgylchedd a sut y cânt eu hysgogi i gymryd camau i leihau eu heffeithiau eu hunain ar ansawdd dŵr.

Mae angen cyfathrebu cyd-gysylltiedig ac amlwg gan reoleiddwyr, y Llywodraeth, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth o'r swyddogaeth y mae gorlifoedd yn eu chwarae wrth atal llifogydd i eiddo mewn system garthffosiaeth gyfun.  Rhaid i'r cyfathrebu hwn hefyd amlygu sut mae ymddygiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid yn effeithio'n uniongyrchol ar effeithiolrwydd y rhwydwaith – ac y gall camddefnyddio carthffosydd arwain at niwed amgylcheddol.

Byddwn yn ceisio datblygu'r pecyn o gyngor ac offer sydd ar gael ynghylch camddefnyddio carthffosydd,  camgysylltu carthffosydd a  lleihau rhwystrau.  Byddwn hefyd yn ystyried datblygu ymgyrch integredig ar draws sefydliadau partner ar 'Wella Ansawdd Dŵr' ehangach gan gyfeirio'n benodol at orlifoedd.

Gwell Ansawdd Afonydd yng Nghymru

Mae'r tasglu'n cydnabod mai dim ond un o nifer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â hwy yw gweithredu ar orlifoedd os ydym am wella ansawdd afonydd yng Nghymru.  Gan gymryd data a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cynlluniau Basn Afon ym mis Ionawr 2022, nodwyd bod gorlifoedd wedi bod yn rheswm dros beidio â chyflawni Statws Da mewn 3.7% o'r cyrff dŵr ledled Cymru. Gyda 4 o'r methiannau wedi'u cadarnhau fel rhai sy'n cyfrannu a 27 yn cael eu hasesu fel rhesymau tebygol dros fethu a 4 corff dŵr arall yn cael eu hamau.

Bydd CNC yn parhau i  adolygu'r rhesymau dros beidio â sicrhau statws da yn erbyn dosbarthiad  Cyfarwyddeb Fframwith Dwr 2021 a diweddaru ac adrodd ym mis Gorffennaf 2022 ochr yn ochr â chyhoeddi'r Cynlluniau Basn Afon.

Dyma pam mai ffocws uniongyrchol y Tasglu ar orlifoedd fydd y cam pwysig cyntaf ar y daith tuag at weithredu cyd-gysylltiedig a phenodol mewn meysydd eraill  a fydd yn sicrhau gwelliannau o ran rheoli'r amgylchedd dŵr yn  gynaliadwy  yng Nghymru, gan sicrhau gwelliannau hirdymor a chynaliadwy i ansawdd afonydd.

Caiff yr uchelgais hwn ei  gefnogi  yn yr un modd gan gynlluniau gweithredu cyd-gysylltiedig i fynd i'r afael â meysydd a sectorau eraill sy'n effeithio ar ansawdd dŵr yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf