Galwad am dystiolaeth i lywio gwaith CNC o ddatblygu dull rheoleiddio i ryddhau adar hela (ffesantod a phetris coesgoch ) yng Nghymru

Heddiw mae CNC wedi lansio galwad am dystiolaeth ar ffordd y mae adar hela yn cael eu rhyddhau i gefn gwlad Cymru

Mewn blog, gofynnom i Nadia DeLonghi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC, esbonio ychydig mwy am y dystiolaeth rydym yn gofyn amdani a rhoi ychydig o gefndir i'r gwaith.

Dyma oedd gan Nadia i’w ddweud:
"Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion o Lywodraeth Cymru ystyried opsiynau ar gyfer rheoleiddio sut mae adar hela’n cael eu rhyddhau yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd, mae angen caniatâd gan CNC i ryddhau adar hela o fewn ffin Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Fodd bynnag, y tu allan i'r ffiniau hynny, prin yw'r gwaith o reoleiddio, rheoli neu fonitro eu heffaith.
"Ac felly rydyn ni'n dechrau'r prosiect gyda galwad am dystiolaeth. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn nifer yr adar hela a ryddheir, lle maen nhw’n cael eu rhyddhau a'u heffaith ar yr amgylchedd. Rydym hefyd am gael tystiolaeth o effeithiau cadarnhaol gweithgareddau rheoli sy'n gysylltiedig â saethu adar hela.
"A hoffem ofyn i chi helpu drwy anfon tystiolaeth a allai fod gennych a allai ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir.
"Gwyddom fod adolygiadau tystiolaeth tebyg wedi'u cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn dweud mwy am hyn ar dudalen y prosiect, sydd dipyn yn fanylach. Ond rydym yn siŵr bod mwy o dystiolaeth ar gael – boed hynny’n astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru'n unig, neu dystiolaeth a gasglwyd ar ôl i'r adolygiadau cynharach hyn ddod i ben.
"Unwaith y byddwn wedi cael amser i ystyried y dystiolaeth, y cam nesaf i ni fydd ystyried y ffordd orau o reoli unrhyw risgiau ecolegol heb achosi niwed anghymesur i’r manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil saethu adar hela. Byddwn yn ymgynghori ar yr opsiwn a ffefrir gennym.
"Dylem ei gwneud yn glir nad yw'r Gweinidog wedi gofyn am atal yr arfer o ryddhau adar hela – ond am ddod o hyd i ffordd sy'n cydbwyso anghenion yr holl randdeiliaid a'r amgylchedd ei hun."

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth sydd o ddiddordeb i ni – a'r hyn sydd y tu allan i gwmpas y prosiect hwn – yn ogystal â sut i gyflwyno eich tystiolaeth, ewch i https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/evidence-policy-and-permitting-tystiolaeth-polisi-a-thrwyddedu/galwad-am-dystiolaeth-i-lywio-gwaith-cnc-o-ddatbly

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru