Mae prosiect Llechweddau Llon yn rhaglen bartneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddyluniwyd i leihau effaith tanau gwyllt ar draws Cymoedd De Cymru. Mae hwn yn brosiect cydweithredol, sy’n dod â Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ynghyd.

Ein nod yw gweithio gyda chymunedau i greu ymdeimlad o berchnogaeth o’u hardal leol trwy eu cefnogi i gymryd camau ymarferol o gwmpas eu cartrefi a’u gerddi i leihau eu risg o danau gwyllt.

Rydym yn blaenoriaethu addysg a thechnegau diffodd tân newydd i leihau’r difrod y mae tanau gwyllt yn ei achosi wrth losgi. Mae Llethrau Llon wedi ymrwymo i wella’r brithwaith o gynefinoedd sy’n unigryw i Gymoedd De Cymru, gan weithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i fabwysiadu cynlluniau sydd yr un mor fuddiol iddynt hwy a’r cymunedau sy’n ffinio â’u safleoedd.

Gyda’n hymyrraeth ni, gallwn adfywio llethrau’r Cymoedd i greu mannau gwyrdd mwy diogel sydd o fudd i’r cymunedau sy’n byw arnynt.

Ffeithiau am danau gwyllt

  • Yn gyffredinol mae’r tymor tanau yn cyrraedd ei brig rhwng mis Mawrth a mis Mai.
  • Mae dros 60% o danau gwyllt yn digwydd rhwng 4yh a hanner nos.
  • Bydd cynnau tanau glaswellt bwriadol yn arwain at gofnod troseddol am oes i chi. Gallai’r rhai sy’n cael eu dal yn cynnau tanau glaswellt yn fwriadol gael eu cosbi gyda hyd at ddwy flynedd yn y carchar neu dderbyn dirwy o £5,000.
  • Dros yr 20 mlynedd diwethaf, bu 76,000 o danau gwyllt ar draws Cymoedd De Cymru – cafodd 96% o’r tanau gwyllt hyn eu cynnau’n fwriadol.
  • Rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021, mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i 1,053 o danau gwyllt bwriadol, gyda 297 o’r rhain yn Rhondda Cynon Taf.
  • Mae tanau gwylllt wedi’i gydnabod yn swyddogol fel un o brif beryglon y DU, a nodir yng Nghofrestr Risg Genedlaethol Argyfyngau Sifil. Cost flynyddol ymladd tanau gwyllt yn y DU yw 55 miliwn o bunnoedd.

Ein gwaith

Mae Llethrau Llon yn hyrwyddo defnyddio gwahanol ffyrdd o reoli’r dirwedd i atal tanau gwyllt; mae hyn yn cynnwys defnyddio peiriannau arloesol fel cerbydau pob tir llawn offer a hofrennydd. Ers dechrau’r prosiect, mae Llethrau Llon wedi ariannu offer rheoli tir fel torwyr brwsh a pheiriannau torri gwair i gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gyflawni eu hymrwymiad i reoli tir.

Yn ogystal ag edrych i’r dyfodol ar gyfer technegau atal tanau gwyllt, rydym hefyd yn cymryd ysbrydoliaeth o’r gorffennol. Defnyddir ceffylau trwm i rolio a thorri rhedyn, gan ddarparu dewis amgen hynod effeithiol ac ecogyfeillgar yn lle peiriannau.

Yn ogystal â chymryd camau rhagweithiol i leihau’r dinistr y mae tanau gwyllt yn ei achosi, mae Llethrau Llon hefyd yn ariannu offer ymladd tân. Mae’r prosiect wedi cefnogi unig hofrennydd ymladd tân Cymru i brynu ‘snorcel’ – teclyn tebyg i bibell y mae’r hofrennydd yn ei ddefnyddio i lenwi ei danc dŵr trwy seiffno dŵr o lynnoedd, afonydd, neu ffynonellau eraill.

Mae angen y prosiect hwn oherwydd bod yr hyn a ragwelir o ran newid yn yr hinsawdd yn golygu bod disgwyl i danau gwyllt ddigwydd yn amlach wrth i hafau poeth, sych barhau. Oherwydd llwyth tanwydd uchel, rhagwelir y bydd Cymru, heb ymyrraeth frys, yn profi'r tanau gwyllt y mae Gwlad Groeg a Phortiwgal yn eu profi ar hyn o bryd.

Drwy gydweithio ar draws y llywodraeth, elusennau, tirfeddianwyr a'n gwasanaethau cyhoeddus gallwn greu dull cynaliadwy o atal tanau gwyllt ar raddfa fawr. Gall pecyn o ymyriadau addysg, gwaith rheoli tir a thechnegau diffodd tân sicrhau dull o leihau'r risg o danau gwyllt at y dyfodol ar gyfer Cymru gyfan.

Cymryd Rhan

Mae gennym gyfle yn awr i gydweithio a chreu dyfodol cynaliadwy i Gymru. Mae'r pwysau'n cynyddu ar ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n golygu bod angen i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru wydn sy'n ddoeth o ran tanau gwyllt ac sy'n addasu i'r amgylchedd newidiol a wynebwn.

I gael rhagor o wybodaeth am Llethrau Llon, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @Hillsides_Wales lle gallwch gael gafael ar awgrymiadau diogelwch a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith diweddaraf. I gymryd rhan yn y prosiect, e-bostiwch LlethrauLlon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Facebook: Hillsides Wales

Twitter: @Hillsides_Wales

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru