Deorfa Bysgod Rithwir LIFE Afon Dyfrdwy

Rydym yn gyffrous iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) i gynnig cyfle rhyngweithiol i ddysgu am frithyllod brown dros y wythnosau nesaf, trwy wylio wyau pysgod yn deor mewn ffrwd fyw!

Ydych chi erioed wedi meddwl pa newidiadau sy’n digwydd wrth i wyau pysgod ddatblygu o fod yn wyau bychan i silod mân, ac yna yn bysgodyn? Mae hi bron yn amhosibl gweld y datblygiadau hyn wrth iddynt ddigwydd ar wely’r afon, felly dyma gyfle arbennig i chi wylio wyau Brithyll Brown yn deor ac yn datblygu yn fyw ar eich cyfrifiadur.

Dros yr wythnosau nesaf bydd yr wyau yma welwch chi isod, sydd wedi eu lleoli yn ein deorfa dros dro yng Nghanolfan Wardeiniaid Llyn Tegid, yn datblygu o fod yn wyau bychan i silod mân ac yna’n bysgod bychain. Pan fyddant yn ddigon mawr byddant yn cael eu rhyddhau i’w cynefin naturiol yn Afon Dyfrdwy lle bydd eu cylch bywyd yn parhau.

Clicwich y ddolen i weld yn fyw: https://www.eryri.llyw.cymru/looking-after/trout-hatchery-project )

Yn anffodus, nid oes disgwyl i bob un wy ddatblygu a goroesi, felly rhan bwysig o waith Arwel a Robat y Wardeiniaid sy’n goruchwylio’r ddeorfa, fydd tynnu unrhyw wyau marw o’r tanc rhag iddynt heintio’r wyau neu silod iach.

Pan fydd y brithyll bach wedi tyfu’n ddigon mawr i’w rhyddhau i’r afon, cyn gwneud hynny bydd rhaid ymgymryd â phrofion penodol mewn labordy er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt wedi eu heintio.

Pam sefydlu Deorfa Bysgod?

Mae’r prosiect hwn wedi ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc gyda’r nod o feithrin gwerthfawrogiad a diddordeb mewn bywyd dyfrol, ecoleg afon a’r amgylchedd naturiol yn gyffredinol.

Mae’r prosiect hwn dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ond yn dod o dan ymbarél ehangach prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sef prosiect aml-bartner sydd â’r nod o drawsnewid Afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer rhannau helaeth o’r afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Os hoffech wybod mwy am waith y prosiect yma gallwch ymweld â gwefan y prosiect yma

Dysgu am Frithyll Brown

Er mwyn cyfoethogi eich profiad o ddysgu am gylch bywyd Brithyll Brown rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau addysg sydd ar gael ar wefan APCE. Mae yno hefyd ganllaw i athrawon gydag awgrymiadau ynghylch gweithgareddau i’r disgyblion. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu gyda Thîm LIFE Afon Dyfrdwy ar  lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddariadau gan y Warden

Bydd Arwel a Robat, Wardeiniaid Llyn Tegid yn cadw golwg agos ar y pysgod trwy gydol y cyfnod datblygu, a byddant yn eich diweddaru ynghylch unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol ar hyd y daith.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru