Dim ond wythnos ar ôl ar ymgynghoriad ar gyfleuster crynhoi gwastraff yn Aber-miwl

Dim ond wythnos sydd bellach ar ôl o ymgynghoriad a lansiwyd i gasglu barn y cyhoedd ar gais trwydded ar gyfer cyfleuster crynhoi gwastraff arfaethedig yn Aber-miwl.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lansio'r ymgynghoriad ar ôl ystyried bod y cais gafodd ei gyflwyno gan Gyngor Sir Powys yn cynnwys digon o wybodaeth i ddechrau asesiad llawn.

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai Cyngor Sir Powys yn defnyddio'r cyfleuster i grynhoi gwastraff nad ydynt yn beryglus gyda’i gilydd a gesglir o gartrefi. Bydd y deunyddiau yn cyrraedd y safle wedi eu gwahanu cyn cyrraedd ac ni fydd angen didoli na gwahanu â llaw. Ar ôl eu crynhoi gyda'i gilydd, byddai'r deunyddiau'n cael symud oddi ar y safle.

Cafodd y cais ei gyflwyno ar 9 Mehefin wedi i gais blaenorol ar gyfer y safle gael ei wrthod gan CNC ym mis Mawrth 2022 oherwydd pryderon yn ymwneud â Chynllun Atal a Lliniaru Tân y cais.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Tachwedd.

Gan fod y datblygiad arfaethedig eisoes wedi casglu teimladau cryf yn y gymuned, mae CNC yn trin y cais fel cais o Ddiddordeb Cyhoeddus Uchel.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Canolbarth Cymru:
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rheiny sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad hyd yn hyn. Rydym am gasglu mwy o adborth i lywio ein gwaith wrth gynnal asesiad technegol llawn o'r cais.
"Dyma'ch cyfle chi i ddweud eich dweud ar y cais am drwydded cyn i ni ddechrau ar yr asesiad llawn."

Ar ôl asesu’r cais, bydd CNC yn dod i benderfyniad drafft i naill ai ganiatáu neu wrthod y cais am drwydded. Os taw penderfyniad i ganiatáu y bydd hwnnw, bydd CNC wedyn yn ail-ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y penderfyniad drafft, gan ystyried eto unrhyw sylwadau perthnasol cyn dod i benderfyniad terfynol.