Cysylltwch â natur yr Hydref hwn gydag ymgyrch Miri Mes

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i grwpiau addysgu a dysgu o bob cwr o Gymru i fynd allan i fyd natur yr hydref hwn i gasglu mes.

Bob blwyddyn, mae CNC yn cynnal yr ymgyrch Miri Mes i amlygu pwysigrwydd casglu hadau a helpu i dyfu mwy o goed sydd wedi’u casglu’n lleol.

Bydd y mes a gesglir yn helpu CNC i dyfu coed brodorol o stoc goed iach, lleol, ac yn annog dysgwyr mawr a bach i fynd allan i’r awyr iach yn yr Hydref a chysylltu gydag amgylchedd naturiol arbennig Cymru.

Meddai Aled Hopkin, Cynghorydd Arbenigol: Plant, Addysg a Dysgu a Sgiliau Gydol Oes Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r ymgyrch Miri Mes yn dychwelyd unwaith eto eleni ac yn cynnig y cyfle perffaith i fynd allan i’r awyr iach a dysgu am ein hamgylchedd naturiol, gan helpu i’w ddiogelu ar yr un pryd.
“Cynhaliwyd yr ymgyrch Miri Mes cyntaf yn 2017, ac mae’r fenter wedi mynd o nerth i nerth wrth i ddiddordeb ac ymwybyddiaeth gynyddu, gyda grwpiau o ysgolion a meithrinfeydd i glybiau Brownis a Ffermwyr Ifanc yn cymryd rhan.”

Llwyddodd ymgyrch Miri Mes y llynedd gasglu mes yn pwyso dros dunnell a gasglwyd gan 44 o grwpiau addysg o bob cwr o Gymru – a fyddai’n ddigon i blannu ardal gyfwerth â 812.6 cae pêl droed yn llawn coed derw.

Mae cynyddu’r gorchudd coed ledled Cymru yn rhan hanfodol o’r ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu i gyflawni uchelgeisiau’r wlad o gyflawni sero net.

Trwy ddarparu rhaglenni fel Miri Mes, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan flaenllaw er mwyn gwireddu’r uchelgais hon.

Eleni, nid yn unig y bydd grwpiau cofrestredig yn cael eu talu am eu mes, ond byddant hefyd yn gallu cystadlu am ddwy wobr. Bydd y Fesen Aur yn cael ei rhoi i’r lleoliad sydd wedi casglu’r mes o’r safon orau. Bydd Gwobr y Fesen Ddigidol yn cael ei chyflwyno i’r grŵp sy’n rhannu’r flog amgylcheddol gorau sy’n dogfennu eu hantur Miri Mes.

Bydd angen i’r unigolion neu’r grwpiau fynd â’r mes i swyddfa CNC o’u dewis erbyn 28 Hydref 2022.

Ychwanegodd Aled:

“Gobeithiwn y bydd grwpiau o bobl rhan o Gymru yn mynd allan, codi rhywfaint o arian, anelu at y gwobrau sydd ar gael a’n helpu i sicrhau y bydd digonedd o goed derw Cymreig i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.”

Am ragor o fanylion ynglŷn â Miri Mes a sut i gymryd rhan, ymunwch ag un o’r gweminarau a gynhelir rhwng 20 Medi a 23 Tachwedd.