Ymgynghoriad ar gyfleuster crynhoi yn Aber-miwl wedi i gais gael ei ail-gyflwyno

Cynhelir ymgynghoriad chwe wythnos ar gais am drwydded ar gyfer cyfleuster crynhoi gwastraff arfaethedig yn Aber-miwl. Daw hyn ar ôl i gais gael ei ail-gyflwyno.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o'r farn bod y cais gafodd ei gyflwyno gan Gyngor Sir Powys yn cynnwys digon o wybodaeth i ddechrau asesiad llawn.

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai Cyngor Sir Powys yn defnyddio'r cyfleuster i grynhoi gwastraff nad ydynt yn beryglus gyda’i gilydd a gesglir o gartrefi. Bydd y deunyddiau yn cyrraedd y safle wedi eu gwahanu cyn cyrraedd ac ni fydd angen didoli na gwahanu â llaw.  Ar ôl eu crynhoi gyda'i gilydd, byddai'r deunyddiau'n cael symud oddi ar y safle.

Cafodd y cais ei gyflwyno ar 9 Mehefin wedi i gais blaenorol ar gyfer y safle gael ei wrthod gan CNC ym mis Mawrth 2022 oherwydd pryderon yn ymwneud â Chynllun Atal a Lliniaru Tân y cais.

Gan fod digon o wybodaeth i’w asesu, ceir ymgynghoriad gyhoeddus llawn ar y cais.  Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio am 12pm ar 12 Hydref a bydd yn gorffen ar 23 Tachwedd.

Gan fod yna deimladau cryf yn y gymuned ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig, bydd CNC yn trin y cais fel cais o ddiddordeb cyhoeddus uchel.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC yn y canolbarth:
"Rydyn ni'n gwybod bod gan bobl farn gref am y datblygiad arfaethedig. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn gyfle i'r pryderon hyn gael eu clywed.
"Bydd ein swyddogion wedyn yn ystyried adborth yr ymgynghoriad wrth gynnal asesiad technegol llawn o'r cais."

Ar ôl asesu’r cais, bydd CNC yn dod i benderfyniad drafft i naill ai ganiatáu neu wrthod y cais am drwydded. Os taw penderfyniad i ganiatáu y bydd hwnnw, bydd CNC wedyn yn ail-ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y penderfyniad drafft, gan ystyried eto unrhyw sylwadau perthnasol cyn dod i benderfyniad terfynol.