Ymgynghoriad ar Gynllun Adnodd Coedwig ar gyfer Abergele

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd am eu barn ynglŷn â’r modd y bydd coedwig yn sir Conwy yn cael ei rheoli yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Gynllun Adnodd Coedwig ar gyfer Coedwig Abergele ac yn gofyn i’r cyhoedd ac i randdeiliaid am eu barn.

Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o gyflawni rheolaeth gynaliadwy CNC o goedwigoedd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac yn gosod amcanion tymor hir.

Cynhelir yr ymgynghoriad fel rhan o broses ardystio Cynllun Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig i sicrhau fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i farn pobl ynghylch rheoli ac amcanion yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 15 Tachwedd ac yn dod i ben ar 12 Rhagfyr.

Meddai Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd CNC:

“Mae CNC yn gweithio i sicrhau fod y goedwig yn cael ei rheoli’n gynaliadwy yn ystod y cynllun hwn ac rydym yn awyddus i gynifer o bobl ag sydd bosibl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
“Rydym eisiau clywed gan y cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn gwybod eu barn ynglŷn â’n cynlluniau, a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd.
“Mae pawb yn elwa o gael coedwig sydd wedi’i rheoli’n dda; mae’n darparu mannau gwyrdd y gall pobl eu mwynhau mewn modd cyfrifol, pren cynaliadwy, mae’n atafaelu carbon ac yn fantais fawr i fioamrywiaeth leol.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i ddweud eich dweud ewch i Gynllun Adnodd Coedwig ar gyfer Coedwig Abergele neu e-bostiwch