CNC ar y blaen wrth arbed dŵr

mesuryddion dŵr a systemau cynaeafu dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ennill Marc Gwirio Waterwise ar gyfer pedwar o'i adeiladau ar draws Cymru, gan ddangos ei ymrwymiad i ddefnyddio adnoddau dŵr yn fwy effeithlon. 

Cafodd y Marc Gwirio - achrediad wedi'i ddilysu'n annibynnol - ei ddyfarnu i Ganolfannau Ymwelwyr Coed y Brenin, Ynyslas, Bwlch Nant yr Arian a Garwnant a swyddfeydd CNC yng Nghaerdydd, Bangor a Llandarsi.

CNC yw'r rheoleiddiwr cyntaf yn y DU i ennill cydnabyddiaeth am ei ymdrechion i arbed dŵr ar ei ystâd, fel ffordd o liniaru effeithiau posibl newid hinsawdd. 

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae mesurau effeithlonrwydd yn ein hadeiladau wedi arbed cymaint â llond tri phwll nofio Olympaidd a hanner o ddŵr. 

Mae’r systemau a osodwyd ar y safleoedd yn cynnwys pennau awyru ar gawodydd a thapiau, toiledau fflysh ddeuol, wrinalau di-ddŵr, mesuryddion dŵr a systemau cynaeafu dŵr glaw ar gyfer fflyshio toiledau, sef systemau y gellir eu gosod yn hawdd mewn busnesau a chartrefi i wella effeithlonrwydd dŵr. 

Meddai Brendan Hardiman, Cynghorydd Adnoddau Dŵr: 

"Mae CNC wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd yng Nghymru. Mae'r heriau sy’n deillio o newid hinsawdd yn rhoi pwysau newydd ar ein hadnoddau dŵr, sy'n hanfodol ar gyfer ecosystem wydn a chyflenwadau dŵr cynaliadwy.
"Mae'r camau ydym wedi'u cymryd i leihau ein hôl troed dŵr a charbon ar draws y busnes yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd naturiol. Maen nhw’n helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ac yn amlygu ein hymrwymiad i sicrhau effeithlonrwydd adnoddau a'r arbedion ariannol a ddaw yn sgil hyn.
"Mae dŵr yn nwydd gwerthfawr. Ychwanegir at sawl cronfa ddŵr sy'n cyflenwi dŵr cyhoeddus drwy dynnu dŵr o afonydd. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod effaith ganlyniadol gwastraffu dŵr yn ddiangen yn y cartref ac yn y gwaith, yn enwedig yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych, a hefyd tra'n cynnal canllawiau COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy olchi dwylo'n rheolaidd."

Meddai Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Yn Cyfoeth Naturiol Cymru rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r rheoleiddiwr cyntaf yn y DU i ennill Marc Gwirio Waterwise, sy’n amlygu ein hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr yn ein swyddfeydd a'n canolfannau ymwelwyr.
Rydym yn cydnabod manteision amgylcheddol defnyddio un o adnoddau naturiol mwyaf hanfodol Cymru yn effeithlon, ac rydym wedi ymrwymo i wneud rhagor o arbedion effeithlonrwydd ar draws ein hystad, gan leihau ein hôl troed dŵr a'n heffaith ar yr hinsawdd.
"Byddwn yn ceisio rhannu ein profiad a'n gwybodaeth gyda phartneriaid, fel y gall pob un ohonom chwarae ein rhan i wneud arbedion effeithlonrwydd dŵr a helpu i greu'r Gymru yr ydym am ei gweld yn y dyfodol."

Meddai Dr Kate Marx, Rheolwr Ymchwil Gymdeithasol ac Ymgyrchoedd Waterwise:

"Mae’n bleser mawr dyfarnu Marc Gwirio Waterwise i'r safleoedd hyn sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, i gydnabod eu hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr. Maent wedi dangos diwylliant o gynaliadwyedd a defnydd doeth o ddŵr, ac rydym yn annog busnesau a rheoleiddwyr i ddilyn eu harweiniad. "