Mynegwch eich barn ar wella ein hamgylchedd dŵr

View of the river basin

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar sut y gellir diogelu ac adfer yr amgylchedd dŵr yn ardaloedd basn afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru yn y dyfodol.

Bydd cynllun rheoli basn afon Hafren wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Cyhoeddwyd y cynlluniau rheoli basnau afonydd presennol yn 2015. Cânt eu hadolygu a'u diweddaru bob chwe blynedd.

Cynhyrchwyd cynlluniau rheoli basnau afonydd drafft wedi'u diweddaru ar gyfer ardaloedd basn afon Gorllewin Cymru a Dyfrdwy gan CNC gan weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan gynnwys cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, busnesau a diwydiant.  

Mae'r cynlluniau'n nodi sut y bydd sefydliadau, rhanddeiliaid a chymunedau yn gweithio gyda'i gilydd i wella'r amgylchedd dŵr a byddan nhw’n:

  • disgrifio'r pwysau sy'n wynebu'r amgylchedd dŵr ar gyfer ardal basn yr afon;
  • gosod amcanion ar gyfer afonydd, llynnoedd, aberoedd, dyfroedd arfordirol a thir rhwng 2021 a 2027;
  • amlinellu'r camau gweithredu arfaethedig sydd eu hangen i wella'r amgylchedd dŵr a'r manteision y gellid eu cyflawni.

Eglurodd Rhian Thomas, Arweinydd Tîm Cynllunio Dŵr Integredig CNC:

"Mae gennym ni amgylchedd gwych yng Nghymru, ac rydym ni i gyd yn ei ddefnyddio ac yn ei fwynhau mewn gwahanol ffyrdd. 
"Mae angen i ni ddod o hyd i well cydbwysedd sy'n diwallu anghenion natur a phobl, yn enwedig wrth ystyried newidiadau yn y dyfodol oherwydd effeithiau posibl newid hinsawdd."

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 22 Mehefin 2021 ac mae'n gofyn i bawb ystyried y materion sy'n effeithio ar yr amgylchedd dŵr yn ardaloedd basn afon Gorllewin Cymru a Dyfrdwy a'r camau sydd eu hangen i ddiogelu ac adfer yr amgylchedd dŵr.

Ychwanegodd Rhian:

"Dyma'r ymgynghoriad cyhoeddus terfynol ar y cynlluniau drafft a bydd yn sbardun pwysig i ddiogelu ein hamgylchedd.
"Mae'r gwaith hwn yn gofyn am gydweithrediad rhwng pob sector o gymdeithas, ac mae angen eich help arnom ni i lunio, datblygu a diweddaru'r cynlluniau basn afon, felly rhowch eich barn gynnar i ni drwy ymateb i'r ymgynghoriad."

Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld ar ganolfan ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru