Coed llarwydd i gael eu torri yng Nghoed y Foel, ger Llangollen

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau cwympo coed llarwydd yng Nghoed y Foel, ger Llangollen, fis Tachwedd eleni.

Mae hyn yn rhan o Strategaeth Lleihau Llarwydd CNC i helpu i reoli lledaeniad Phytophthora ramorum, a elwir gan amlaf yn glefyd llarwydd.

Bydd CNC yna’n ailblannu coed i sefydlu coetir brodorol o fewn yr ardaloedd lle torrwyd y coed. Mae hyn yn rhan o'r dull cam wrth gam i gael gwared ar larwydd o Goed Foel yn gyfan gwbl yn y pen draw.

Bydd y gwaith yn golygu torri'r coed gan ddefnyddio  cynaeafwr a llif gadwyn. Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Tachwedd 2022 gyda'r nod o orffen erbyn Ebrill 2023.

Bydd y coed yna’n mynd i felinau llifio a bydd y pren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu tai, ffensys ac fel tanwydd.

Mae coetir Coed y Foel wedi'i leoli uwchben pentref Pentredŵr, tua thair milltir i'r gogledd o Langollen ac i'w weld yn amlwg o Fwlch yr Oernant.

Dywedodd Aidan Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig CNC:

"Mae cwympo'r coed llarwydd nawr yn caniatáu i ni gynllunio'n ddigonol ar gyfer gwaith sensitif heb y cyfyngiadau amser sydd ynghlwm wrth Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol.
"Drwy gael gwared ar goed llarwydd o'r Foel fesul cam, gallwn ail-greu cynefin coetir brodorol amrywiol a chydnerth a fydd o fudd i fywyd gwyllt a'r amgylchedd, a hynny er mwyn i bawb gael ei fwynhau.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Gwaith Coedwigaeth a'r gymuned leol ym Mhentredŵr drwy gydol y gwaith torri coed er mwyn lleihau amharu lle bynnag y bo modd."

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y gwaith sydd wedi'i drefnu, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwigoedd Gogledd Ddwyrain Cymru dros e-bost: ForestOperationsNE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Darllenwch ragor o wybodaeth am iechyd coed yng Nghymru.