Er mwyn y mawnedd - gwirfoddoli i arbed cynefin prinnaf Cymru.

Fel rhan o Wythnos Wirfoddoli Genedlaethol (1-7 Mehefin) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i ddiogelu rhai o gynefinoedd prinnaf Cymru a helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Gall unrhyw un dros 16 oed helpu i fonitro bywyd gwyllt a phlanhigion pwysig fel rhan o brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.

Nod y prosiect arloesol, gwerth £4 miliwn, yw adfer saith cyforgors yng Nghymru.

Mae cyforgorsydd yn bwysig oherwydd y migwyn (mwsogl y gors) sy'n byw yno.

Gall migwyn ddal mwy nag wyth gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr ac mae'n helpu i gadw'r gors yn wlyb ac yn sbyngaidd.

Mae hyn yn cadw'r mawn yn wlyb sy'n golygu y gall storio mwy o garbon a fydd yn  ymladd newid hinsawdd.

Dywedodd Jack Simpson, Swyddog Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE CNC:

“I rai, gall cyforgorsydd ymddangos yn ddibwys, ond nid yw hyn yn wir. Mae cyforgors iach yn dod â manteision mawr i fywyd gwyllt a phobl
“Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i fonitro a chasglu gwybodaeth am fywyd gwyllt fel ymlusgiaid a phathewod, yn ogystal â phlanhigion a lefelau dŵr.
“Bydd y data a gesglir yn ein helpu i ofalu am y mawnogydd a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma a deall eu pwysigrwydd wrth ymladd newid hinsawdd yn well.”
“Bydd unrhyw beth o awr yr wythnos i ychydig ddyddiau'r mis yn helpu - y cyfan sydd ei angen arnoch yw diddordeb yn yr amgylchedd, cadwraeth a rhywfaint o frwdfrydedd.”

Bydd y gwirfoddolwyr yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd.

Nid oes angen sgiliau arbenigol er bod dymuniad i weithio y tu allan ym mhob tywydd yn hanfodol.

Ychwanegodd Jack:

“Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm ymroddedig a phrosiect arloesol a gwneud cyfraniad gwirioneddol i gadwraeth amgylcheddol.”

Gall pobl gofrestru eu diddordeb a chael gwybod mwy am rolau gwirfoddoli'r prosiect trwy gysylltu â LIFEadfywiocyforgorsydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk