Adfywiad - effaith y torrwr gwair anferth

Datgelwyd tegeirianau prin a phlanhigion pwysig eraill ar warchodfa yng nghanolbarth Cymru.

Datgelodd gwaith torri gwair a wnaed gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron (GNG) fwy o degeirianau ar y safle.

Mae migwyn (sphagnum) hefyd wedi'i weld wrth i'r glaswellt ymledol gael ei dorri.

Prynwyd y peiriant cynaeafu gwlyptir (sef y torrwr gwair anferth) gan y prosiect ym mis Mawrth i dorri glaswellt ymledol fel glaswellt y gweunydd (Molinia) i adfer mwsoglau, planhigion a blodau pwysig y cynefin.

Dywedodd Rhoswen Leonard, Swyddog Monitro Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE:

“Ar ôl dim ond tair wythnos o dorri’n ôl ym mis Mawrth mae’r canlyniadau’n drawiadol.
“Mae presenoldeb migwyn a thegeirianau yn y rhan benodol hon o’r gors yn dangos fod cael gwared o’r glaswellt yn darparu’r golau a’r gofod sydd mor angenrheidiol i’r cynefin hwn lle gall y blodau a’r planhigion pwysig hyn ffynnu.”

Nodwyd sawl rhywogaeth o degeirianau fel tegeirian brych y rhos a thegeirian llydanwyrdd bach. Mae tegeirianau yn rhai o flodau mwyaf egsotig Prydain ond maent wedi prinhau dros yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd rheolaeth tir dwys.

Mae migwyn yn rhan annatod o gyforgorsydd ac yn pydru’n araf mewn amodau dwrlawn i ffurfio pridd mawn brown tywyll. Gall ddal mwy nag wyth gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr ac mae'n helpu i gadw'r gors yn wlyb ac yn sbyngaidd. Mae hyn yn cadw'r mawn yn wlyb sy'n golygu ei fod yn gallu storio mwy o garbon a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Dywedodd Iestyn Evans, Rheolwr GNG Cors Caron ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gweithio ochr yn ochr â’r prosiect hwn yn golygu ein bod yn gallu rhoi cynnig ar ddulliau newydd ac arloesol o reoli cynefinoedd unigryw fel Cors Caron, gyda’r nod o greu amgylchedd iachach a mwy gwydn.”

Bydd gwaith lladd gwair yn ailddechrau eto’r mis yma, gan fod y gwaith wedi gorfod cael ei ohirio oherwydd y tymor bridio adar sy'n rhedeg o fis Ebrill i fis Awst.

Prynwyd y torrwr gwair anferth gan y prosiect ym mis Mawrth 2019 a bydd yn torri, trin ac yn rholio'r glaswellt i greu ardaloedd mwy agored a ddylai roi hwb pellach i'r tegeirianau a'r mwsogl.