Holi dyn am rwydo anghyfreithlon

Illegal fishing net

Cafodd dyn ei holi yr wythnos yma (Mercher 19 Mehefin) ar ôl ei ganfod liw nos yn defnyddio rhwyd mewn afon yng ngogledd Cymru.

Daliwyd y dyn 31 mlwydd oed o ardal Dolgellau gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gyda chefnogaeth tîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru, tra ar batrôl ar lan yr afon.

Fe wnaeth swyddogion CNC gadw y rhwyd ac offer arall yn ystod y digwyddiad ar yr afon Wnion.

Gall rhwydo anghyfreithlon yn afonydd Cymru niweidio poblogaethau o rywogaethau pwysig fel eogiaid a sewin.

Dywedodd Matt Roberts, arweinydd tîm troseddau amgylcheddol CNC:

“Mae yna reolau a deddfau i ddiogelu rhywogaethau o bysgod sy'n rhan bwysig o'r amgylchedd a'r economi yn yr ardal yma.
“Gall troseddau fel y rhain effeithio ar ei poblogaethau am flynyddoedd i ddod ac effeithio ar y diwydiant pysgota sy'n werth miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn. 
“Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gawn gan bysgotwyr a phobol i dargedu ein gwaith gorfodi, felly rydym yn annog unrhyw un sy'n gweld potsio neu bysgota anghyfreithlon i'w riportio i ni ar 0300 065 3000.”