Rheoli dŵr mwyngloddiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ar frig yr agenda mewn cynhadledd ryngwladol

Bydd gorffennol diwydiannol Cymru a sut y mae'n llywio ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cael ei drafod ym mhedwaredd gyngres ar ddeg Cymdeithas Ryngwladol Dŵr Mwyngloddiau (IMWA), i'w chynnal rhwng 12 ac 16 Gorffennaf.

Mae'r digwyddiad yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo a Phrifysgol Caerdydd.

Eleni, am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd y gyngres yn ddigwyddiad rhithwir ond mae'n cadw proffil byd-eang digwyddiadau blaenorol gyda chynrychiolwyr o Tsieina, Korea, Kenya, Ghana, De Affrica, Ewrop, Rwsia, Japan, Awstralia, Seland Newydd, Periw, Canada ac UDA eisoes wedi cofrestru.

Mae IMWA yn sefydliad rhyngddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar ddŵr mwyngloddiau, gan gynnwys hydroleg, cemeg, bioleg, effeithiau amgylcheddol ac ailddefnyddio posibl yn ogystal â'r ffordd orau o'i reoli drwy ei ragfynegi, ei reoli a’i drin yn well.

Mae'r gynhadledd yn gyfle i aelodau a gwesteion IMWA rannu syniadau ar fynd i'r afael ag effeithiau parhaus hen safleoedd diwydiannol.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Peter Stanley, Uwch-gynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Mwyngloddiau Segur:

"Roedd ein sector mwynau unwaith yn cyflenwi glo, llechi a metelau i bedwar ban y byd. Er mai ychydig o gronfeydd a ddefnyddir o hyd, rydym yn cadw nifer o lofeydd, mwyngloddiau glo brig a chwareli ynghyd â thros 1300 o fwyngloddiau metel segur sy'n effeithio ar dros 700 km o rannau o afonydd.
"Mae deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn sicrhau bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus yma gydweithio i wella ein hamgylchedd a sicrhau manteision lluosog i'w ddiogelu yn y tymor hir.
"Am wlad fach, rydym yn hoffi anelu'n uchel a gwneud yn well na’r disgwyl ac mae'r gyngres yn ein galluogi i rannu ein huchelgeisiau gyda'r byd."

Mae'r digwyddiad yn dechrau gyda chyfres o gyrsiau byr i'w cynnal ar benwythnos Gorffennaf 10-11 cyn i'r brif gyngres ddechrau:

Bydd Dr Mike Müller o Hydro Computing GmbH & Co sydd wedi'i leoli yn yr Almaen yn darparu cwrs byr 1.5 diwrnod ar Fodelu Hydrodynameg ac Ansawdd Dŵr Llynnoedd Pyllau, gyda Dr Martin Boland o Piteau Associates ar ganllaw Ymarferol i reoli dŵr mwyngloddiau pyllau agored a thanddaearol; bydd Dr Patrick Byrne o Brifysgol John Moores Lerpwl yn egluro dosraniad Ffynhonnell llygredd mwyngloddiau mewn cefndeuddyfroedd: a bydd Dr Denys Villa Gomez o Brifysgol Queensland yn egluro am Biotechnolegau ar gyfer trin dŵr gwastraff mwyngloddio a metelegol yng nghyd-destun adferiad metel.

Bydd y gynhadledd yn rhannu profiad o bob cwr o'r byd, gan helpu gwledydd i ddatblygu technoleg, arloesedd, ymarfer a pholisi i helpu i ddefnyddio ac adfer ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Tra mewn rhannau eraill o'r byd mae echdynnu mwynau a seilwaith cysylltiedig fel argaeau sorod wedi achosi effeithiau ofnadwy ar gymunedau a'r amgylchedd,

 Yng Nghymru, gall etifeddiaeth mwyngloddiau segur a gollyngiadau mwyngloddiau metel effeithio ar afonydd y genedl fel y rhai o Fynydd Parys. Mae tomenni pyllau glo Cymru hefyd wedi dangos y gall sefydlogrwydd a dŵr ffo gael effaith sylweddol ar gymunedau cyfagos yn ystod cyfnodau o lawiad dwysedd uchel.

Mae prif siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys:

  • Dr Peter Brabham o'r Rhondda Fawr a Phrifysgol Caerdydd a fydd yn rhannu trosolwg o gloddio metel a glo yng Nghymru
  • Dr Kym L Morton o Johannesburg a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Tailings Dam Monitoring, wedi’i ysgogi gan fethiannau diweddar sydd wedi arwain at newidiadau ysgubol yn arferion y diwydiant.
  • Sut y defnyddir Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth weithredu'r Rhaglen Mwyngloddiau Metel a bydd yr Athro Mike Christie o Brifysgol Aberystwyth yn esbonio dull o briodoli gwerth i wasanaethau ecosystemau mewn hinsawdd sy'n newid.
  • Bydd yr Awdurdod Glo yn arwain gyda phrif araith gan eu Prif Swyddog Gweithredol Lisa Pinney MBE ac yn cyflwyno am fanganîsmewn dyfroedd pyllau glo a sut y caiff ei reoli, dosio perocsid hydrogen yn y fan a’r lle a sut y gall hynny gynorthwyo triniaeth oddefol.
  • Bydd CNC a Noddwyr y Gynhadledd, WSP [gan gynnwys Golder Associates (UK) Ltd a gafaelwyd yn ddiweddar] yn tynnu sylw at ddatblygiad pwysig system trin dŵr mwyngloddiau metel sodiwm carbonad cyntaf y DU ac o bosibl y byd, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn Abbey Consols, Pontrhydfendigaid, Ceredigion, gydag phrif araith gan Dr Devin Sapsford o Brifysgol Caerdydd a Dr Bill Perkins o Brifysgol Aberystwyth ar systemau trin goddefol.
  • Bydd yr Athro Jose Miguel Nieto o Brifysgol Huelva yn cyflwyno canlyniadau profion colofnau a gynhaliwyd ar ddyfroedd mwyngloddiau o Fynydd Parys sydd wedi helpu i gynllunio treialon trin goddefol pwrpasol, sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd yng Nghwm Rheidol gyda chymorth Statkraft ac yn yr un modd ym Mynydd Parys gyda chymorth Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch. Bydd Dr Tobias Roetting o Golder Associates yn cyflwyno ar y treialon hyn.
  • Nodwedd ar y treialon triniaeth sono-electrocemeg Power & Water llwyddiannus yng Nghwm Rheidol sydd wedi darparu teclyn trin ychwanegol ac sy'n cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn dwrfeithriniad ac amaethyddiaeth.
  • Mae ymgynghoriaeth a chwmnïau arbenigol o Gymru sy'n cymryd rhan ac yn cyflwyno yn cynnwys SRK ar wasgariad geocemegol mewn gwastraff mwyngloddiau Namibia, Mine Environment Management Ltd (MEM) sy'n darparu cyfres o gyflwyniadau ar y cyd â'r labordy geocemegol sy'n cael ei redeg gan Dr Andrew Barnes o Geochemic Ltd o Bont-y-pŵl, Maelgwyn Mineral Services a Cambrian Environment Technologies Ltd.
  • Bydd yr Athro Christian Wolkersdorfer, llywydd IMWA, a Dr Bob Kleinmann, ysgrifennydd IMWA, yn dechrau diwrnod olaf y gyngres ar 15 Gorffennaf gyda phrif araith ar y cyd.

I gael gwybod mwy neu i gofrestru ar gyfer un neu fwy o'r sesiynau, ewch i IMWA 2021 Cymru Wales