Caeodd pysgodfeydd cregyn fel rhagofal ar ôl i arllwysiad disel Llangennech ailagor

Llun o wagenni tren wedi dod oddi ar y trac

Mae pysgodfeydd cocos a physgod cregyn a gaewyd fel rhagofal yn dilyn digwyddiad ar 26 Awst, pan aeth trên nwyddau oddi ar y cledrau yn Llangennech gan arwain at dân ac arllwysiad diesel, wedi ailagor.

Cafodd Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn a physgodfeydd pysgod cregyn eraill yn yr ardal eu cau fel rhagofal, yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae llawer o waith samplu a monitro wedi’i wneud. Dengys gwaith dadansoddi cychwynnol ar gocos a misglod yr ardal, a gynhaliwyd i weld a oeddynt wedi’u halogi ag olew, eu bod o fewn terfynau statudol, a osodir i ddiogelu iechyd defnyddwyr ac ansawdd y cynnyrch.

Cafodd rownd arall o samplau eu dadansoddi, rhag ofn. Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn dangos eu bod o fewn terfynau statudol.

Fe fydd rhaglen arolygu a monitro pysgod cregyn yn parhau dros gyfnod y gaeaf er mwyn sicrhau diogelwch ac ansawdd parhaus y pysgod cregyn a gaiff eu cynaeafu yn yr ardal.

Mae cynhyrchwyr pysgod cregyn lleol wedi cael gwybod bod y gwelyau wedi ailagor ac y gallant ailafael yn y gwaith cynaeafu.

Medd llefarydd o’r Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Mae gwaith dadansoddi yn y labordy a wnaed gan y Ganolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) ar gyfer dwy rownd gyntaf y samplau pysgod cregyn yn dangos nad oes yna unrhyw dystiolaeth fod y pysgod cregyn wedi’u halogi â diesel.
“Arhosodd y gwelyau ar gau, rhag ofn, tra’r oeddem yn disgwyl canlyniadau trydedd rownd o waith samplu a dadansoddi.
“Mae’r canlyniadau ychwanegol yn cyflwyno tystiolaeth bellach fod lefelau yn dal i fod o fewn terfynau statudol, ac o’r herwydd mae’r gwelyau wedi ailagor.
“Bydd rhaglen arolygu a monitro yn parhau dros gyfnod y gaeaf, er mwyn sicrhau diogelwch ac ansawdd parhaus y pysgod cregyn. Bydd canlyniadau’r gwaith monitro yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.”

Mae’r gwaith o glirio’r safle wedi cyrraedd y cam adfer erbyn hyn. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n arwain y gwaith hwn.

Mae grwpiau strategol a thactegol amlasiantaethol wedi’u ffurfio i gydlynu’r gwaith. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o CNC, Cyngor Sir Gâr, Dinas a Sir Abertawe, Network Rail, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Maent yn gweithio gyda’i gilydd i leihau unrhyw effaith bosibl a allai ddod i ran y gymuned leol, yr amgylchedd a’r economi yn sgil y digwyddiad.

Mae’r contractwyr arbenigol, Adler & Allan a Jacobs, yn dal i fod ar y safle ac maent yn parhau gyda gwaith i leihau effaith bosibl yr arllwysiad olew.

Dengys yr holl waith monitro, arolygu a modelu a wnaed yn y cyfamser bod mwy na 70 y cant o’r diesel naill ai wedi anweddu neu bydru, a bod gweddill y diesel wedi gwasgaru’n naturiol yn yr amgylchedd ehangach.

Yn ôl Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau’r De Orllewin yn CNC a Chadeirydd y Grŵp Cydlynu Adferiad:

“Mae ailagor y pysgodfeydd pysgod cregyn yn gam pwysig ymlaen ar hyd y llwybr at adferiad, ac yn arwydd bod y gwaith amlasiantaethol ac arbenigol a wnaed i leihau’r effaith yn gweithio.
“Mae glaw trwm a Storm Alex wedi profi cryn dipyn ar y mesurau, ac ni chafwyd achosion pellach o ddiesel yn ymdreiddio. Ond wnawn ni ddim pwyso ar ein rhwyfau wrth reoli’r safle hwn.
“Rydym wrthi’n cwblhau cynlluniau hirdymor ar gyfer trin a monitro’r safle.”

Mae Grŵp Adfer ar gyfer Rhanddeiliaid wedi’i ffurfio er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a chynnig cymorth i’r bobl hynny y mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Hefyd, bydd y grŵp yn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i leisio’u pryderon.

Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o fusnesau lleol, masnach, twristiaeth, pysgodfeydd ac amaethyddiaeth.

Medd Sue Watts (Rheolwr Diogelu’r Amgylchedd, Cyngor Sir Gâr), Cadeirydd y Grŵp Adferiad Tactegol:

“Mae adfer ar ôl hyn yn dasg gymhleth, ac mae angen cyngor gan arbenigwyr, cymorth arbenigol a gwaith monitro parhaus.
“Yn anffodus, mae yna bobl yn dioddef yn sgil y digwyddiad llygredd diesel hwn, ac fe allent ddioddef am fisoedd i ddod, yn enwedig ein prosesyddion pysgod cregyn a’n casglwyr cocos lleol.”

Mae’r ymchwiliad i’r hyn a barodd i’r trên nwyddau fynd oddi ar y cledrau yn parhau. Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd sy’n cynnal yr ymchwiliad a gellir cael mwy o fanylion ar wefan Network Rail.

I gael mwy o wybodaeth a chyngor, ewch i https://naturalresources.wales/Llangennech?lang=cy.