Blwyddyn fridio lwyddiannus ar gyfer adar prin yn ne Cymru

Mae un o adar prinnaf y Deyrnas Unedig wedi bridio’n llwyddiannus am y drydedd flwyddyn yn olynol ar Wastadeddau Gwent yn ne Cymru.

Mae chwe chyw aderyn y bwn wedi gadael o leiaf ddwy nyth wahanol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, sy’n golygu mai dyma’r flwyddyn fwyaf llwyddiannus ers iddynt fridio am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd yn 2020.

Rheolir y gwlyptiroedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

Math o grëyr sy'n byw mewn gwelyau cyrs yn unig yw adar y bwn. Credid ar un adeg bod y rhywogaeth wedi diflannu yn y DU yn dilyn blynyddoedd o erledigaeth a cholled dramatig o ran ei chynefin, ond ers hynny mae poblogaethau wedi dychwelyd i ardaloedd lle mae gwelyau cyrs o ansawdd uchel yn dal i fodoli.

Mae nifer o welliannau i'r gwlyptiroedd dros y blynyddoedd wedi helpu i greu cynefin da i adar y bwn ffynnu.

Mae gwaith gofalus i reoli'r gwelyau cyrs - sy'n ffurfio un rhan o bump o'r warchodfa - wedi golygu cynnydd o hanner medr yn lefelau'r dŵr, gan helpu'r adar i fridio a chadw'r cywion yn ddiogel rhag eu hysglyfaethwyr naturiol fel llwynogod.


Mae pyllau a sianeli hefyd wedi eu creu drwy'r cyrs, sy'n creu mwy o ymylon i'r adar hela ar eu hyd. Mae llwybrau llysywod hefyd wedi eu creu er mwyn caniatáu i lysywod fynd i mewn i'r gwelyau cyrs – mae’r rhain yn ffynhonnell fwyd bwysig ar gyfer adar y bwn.

Mae dros bedair mil a hanner o bysgod rhudd hefyd wedi'u cyflwyno – sef pysgod bach sy'n bwydo ar yr wyneb ac sy'n brif ffynhonnell fwyd i adar y bwn.

Meddai Kevin Dupé, sy’n Swyddog Rheoli Tir yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'n wirioneddol anhygoel gweld cywion adar y bwn yn ffynnu ar y gwlyptiroedd, ac yn destun balchder mawr i'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith i warchod cynefinoedd ar y safle ers amser maith.
Eleni rydym hefyd wedi gweld llwyddiant o ran niferoedd boda’r gwerni sy’n bridio, sydd wedi cynhyrchu dau gyw arall a hedfanodd o’r nyth, gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi hedfan yn ystod y chwe blynedd diwethaf i 12.
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn rhan o Wastadeddau Gwent ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd isel sy'n gartref pwysig i fywyd gwyllt yn ogystal â bod yn fan gwyrdd gwerthfawr i'r cymunedau cyfagos ac i ymwelwyr ei fwynhau.
Mae gwlyptiroedd yn gynefin pwysig sydd angen ein help. Yn ogystal â chaniatáu i rywogaethau fel adar y bwn ddod yn ôl o'r dibyn, maen nhw hefyd yn gallu ein helpu ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy storio carbon niweidiol a dal dŵr llifogydd yn ôl.

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn safle unigryw sy'n cynnwys glaswelltiroedd gwlyb, gwelyau cyrs, morfeydd heli a morlynnoedd hallt. Mae rhaglen barhaus o reoli er cadwraeth gan CNC yn helpu i gadw'r cynefin mewn cyflwr da ar gyfer y rhywogaethau prin sy'n ffynnu ynddo.

Meddai Cellan Michael o RSPB Cymru:

Ddwy flynedd yn ôl, fe gawson ni wybod bod adar y bwn wedi nythu'n llwyddiannus yn Ngwlyptiroedd Casnewydd - y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd yn ne ddwyrain Cymru. Eleni, rydyn ni’n falch iawn o glywed y newyddion fod yr adar trawiadol hyn wedi sefydlu mwy nag un nyth ar y warchodfa ac wedi magu chwe chyw iach.

Mae'n brawf bod blynyddoedd o waith cadwraeth i greu a rheoli'r gwelyau cyrs wedi talu ar eu canfed. Gydag adar y bwn bellach yn nythu yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, yn ogystal â gwarchodfa Cors Ddyga RSPB Cymru ar Ynys Môn, mae'n amlwg eu bod nhw'n dychwelyd yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio gweld mwy o adar y bwn yn nythu mewn safleoedd newydd ar draws y wlad yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet dros newid hinsawdd a bioamrywiaeth:

Mae'n wych gweld bod y gwaith cadwraeth yn y Gwlyptiroedd wedi bod mor llwyddiannus, a bod adar y bwn yn bridio unwaith eto.
Mae ein partneriaeth gyda CNC ac RSPB Cymru wedi bod yn ffrwythlon ar gyfer bywyd gwyllt a'r amgylchedd ac yn chwarae rhan yn ein hymdrechion i gynyddu bioamrywiaeth ac i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd yn y ddinas.

I gynllunio eich ymweliad â Gwlyptiroedd Casnewydd, ewch i:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd (naturalresources.wales)